Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor yn Sir y Fflint

Addurn arian o’r cyfnod Ôl-Ganoloesol o Gloddiau Tanlan yn drysor

Ddoe (19 Awst 2015) cadarnhawyd bod gwrthrych arian, yn dyddio o hanner cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, yn drysor. Fe’i darganfuwyd gan Mrs Gordana Mitchell o Lannau Dyfrdwy wrth iddi ddefnyddio datgelydd metel ym mis Mawrth 2013.

Mae’r addurn yn cynnwys motiff o santes gyda gwallt hir yn wynebu ymlaen, ac mae’r cefndir yn llawn sgroliau anghymesur botanegol, yn erbyn arwyneb rystig. Hefyd ar yr addurn mae ceriwb, sy’n ein hatgoffa o wrthrychau arian o’r 1630au a murluniau. Mae’r ddau ffigwr wedi eu castio a’u codi, ac mae’r ‘Fair’ wedi’i choroni â S a B ar y naill ochr iddi.

Dywedodd Dr Mark Redknap o Amgueddfa Cymru:

“Rydym ni o’r farn y gallai’r addurn fod wedi bod yn sownd i flwch fel rhan o golyn addurnedig, neu y gallai fod wedi cael ei ddefnyddio i addurno gorchudd Beibl bach neu lyfr gweddi. Os nad yn santes arbennig, gallai’r ffigwr benywaidd gynrychioli'r Forwyn Fair. Er nad yw’r gyflawn, mae’n enghraifft ddiddorol o waith arian addurnedig o’r ail ganrif ar bymtheg.”

Mae gan Amgueddfa Cymru, sydd â diddordeb mewn caffael y gwrthrych, saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.