Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa newydd yn adrodd hanes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia

Bydd cyfle i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, brofi stori ryfeddol yr ymfudwyr Cymreig cyntaf i Batagonia.

© Marcelo Roberts

I ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig, mae arddangosfa newydd wedi ei chreu o’r enw Patagonia 150: Ein Taith i’r Byd Newydd. Bydd cyfle i chi ddilyn hanes teithwyr y Mimosa a dod i ddeall beth wnaeth iddynt adael eu cartrefi a theithio ar draws Môr yr Iwerydd i bellter byd.

Caiff yr hanes ei adrodd mewn pedwar amgylchedd – ‘ystafelloedd’ gyda drysau yn eu cysylltu. Mae’r daith yn cynnwys bwthyn Cymreig, swyddfa longau yn Lerpwl a chaban ar fwrdd y Mimosa, cyn cyrraedd bwthyn llychlyd ym Mhatagonia. Mae pob ystafell yn llawn dyfyniadau a lluniau o bobl wnaeth fudo i’r Wladfa.

Roedd y bobl hyn yn dod o bob cwr o Gymru a dinasoedd gogledd orllewin Lloegr. Roedd pob un yn siarad Cymraeg, llawer ohonynt yn uniaith. Roed nifer o’r teithwyr wedi mudo unwaith yn barod, i ddinasoedd fel Manceinion a Lerpwl. Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddaearyddiaeth a bywyd gwyllt Patagonia, yn ogystal â’r siaradwyr Cymraeg sy’n dal i fyw yno.

Mae Cymry Patagonia wedi dal gafael ar eu hunaniaeth ac erbyn heddiw mae tua 50,000 o bobl o dras Cymreig yn ardal Chubut, gogledd Patagonia ac mae tua 5,000 ohonynt yn siarad Cymraeg. Mewn trefi sydd â threftadaeth Gymreig gref, fel Gaiman, Trelew a Dolavon yn y dwyrain a Trevelin yn y gorllewin, mae nifer o gapeli ac ystafelloedd te Cymreig.

Wrth siarad am yr arddangosfa, dywedodd Andrew Deathe, Swyddog Arddangosfeydd: “Dyma bennod ryfeddol yn hanes Cymru ac rydym yn falch iawn o gael cyfle i adrodd hanesion rhai o’r bobl oedd yn rhan ohoni.

“Yn yr arddangosfa hon rydym wedi ceisio rhoi syniad o sut deimlad fyddai gadael popeth a symud i wlad gwbl ddiarth ym mhen draw’r byd. Rydym am ddathlu dewrder y bobl hyn ac rydym yn annog ymwelwyr i grwydro o gwmpas yr arddangosfa i ddarganfod mwy.”

I gyd-fynd â’r arddangosfa, bydd pob math o ddigwyddiadau ar thema Patagonia yn digwydd trwy fis Medi.

Sad 19 Medi, 12-4pm: Diwrnod Patagonia, gyda gweithgareddau, sgyrsiau a cherddoriaeth.

Sad 19 Medi, 12pm: Dros y Don i Batagonia, Ymunwch â’r hanesydd Gerallt Nash wrth iddo adrodd hanes hynod yr ymgais i sefydlu gwladfa Gymreig yn ne’r Ariannin.

Sad 19 Medi, 12.30pm-3.30pm: Celf y Môr, Yr artist o’r Ariannin Carlos Pinatti fydd yn helpu ymwelwyr i greu darlun dychmygus o fordaith y Mimosa.

Sad 19 Medi, 2pm: Dathlu 150 Mlwyddiant y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, sgwrs gan Dr Walter Ariel Brooks, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phatagoniad o dras Cymreig.

Sad 19 Medi, 3.30pm: Cwlwm Cenedl: straeon i uno Pontiets a’r Paith, sgwrs gan Rhiannon Williams wrth iddi ddathlu Patagonia 150 a thaith y Mimosa o Lerpwl i Puerto Madryn.

Bydd Patagonia 150: Ein Taith i’r Byd Newydd i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tan ddydd Sul 11 Hydref 2015.