Datganiadau i'r Wasg

Myfyriwr yn darganfod troed deinosor

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Amgueddfa Cymru fod dau frawd wedi darganfod un o’r deinosoriaid Jwrasig cynharaf yn y byd ar draeth Larnog, ger Penarth yn ne Cymru. Yn gynharach y mis hwn, wrth iddo ymweld â’r un lleoliad er mwyn ymchwilio ar gyfer ei broject palaeontoleg, daeth myfyriwr o’r enw Sam Davies ar draws troed ffosiledig y deinosor hwn.

Mae Sam yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr, ac ar fin dechrau trydedd flwyddyn ei gwrs palaeontoleg ym Mhrifysgol Portsmouth. Bu Dr David Martill, sy’n Ddarllenydd mewn Palaeofioleg ac yn diwtor i Sam, yn archwilio’r darganfyddiad a daeth i’r casgliad fod y droed yn perthyn i’r deinosor sydd i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 31 Awst – theropod sy’n gefnder pell i’r Tyrannosaurus rex.

Roedd tiwtor Sam wedi awgrymu iddo ymweld â’r traeth gan fod y clogwyni Jwrasig yn llawn ffosilau, heb sylweddoli fod tirlithriad tua 10 awr ynghynt wedi dadorchuddio darn arall o’r deinosor. Pe bai Sam wedi cyrraedd yn hwyrach, byddai’r ffosil – oedd yn gorwedd ar ben carreg fawr – wedi cael ei gario i’r môr gan y llanw.

Dywedodd Sam: “Hwn oedd fy niwrnod cyntaf o waith maes ar gyfer fy mhroject trydedd flwyddyn, ac roeddwn yn crwydro’r traeth yn chwilio am ffosilau. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn meddwl am y deinosor oedd wedi’i ddarganfod ar y traeth.

Digwyddodd Sam sylwi ar y ffosil, sy’n gorwedd mewn darn 20cm o graig, wrth iddo gerdded heibio.

“Lwc pur oedd dod o hyd iddo yn gorwedd ar ben darn o graig. Roedd yn amlwg mai bysedd oedd y ffosil, am fod tri ohonynt mewn rhes, ond fy argraff gyntaf oedd mai plesiosor o ryw fath oedd ef.”

Cadarnhaodd Dr David Martill mai troed goll y deinosor Cymreig newydd oedd y ffosil, wedi i Sam e-bostio lluniau o’i ddarganfyddiad ato.

“Fy ymateb cyntaf oedd meddwl fy mod i’n lwcus iawn”, meddai Sam. “Yna sylweddolais beth fyddai effaith y darganfyddiad ar fy mhroject a dechrau neidio fyny a lawr fel bachgen bach!”

Dywedodd Dr Martill:

“Mae hwn yn ddarganfyddiad arbennig o ffodus sy’n pwysleisio pwysigrwydd annog pobl i chwilio am ffosilau.

“Bydd y sbesimen newydd hwn yn ein helpu i ddeall esblygiad traed deinosoriaid, yn benodol drwy edrych ar y nifer o fysedd a nodweddion asgwrn y ffêr.

“Yn sicr, gallwn ddweud bod y deinosor hwn yn gyntefig. Mae’r creigiau yn agos iawn i’r ffin rhwng bod yn Jwrasig a Thriasig.”

Mae Sam wedi rhoi’r ffosil i Amgueddfa Cymru, a’r gobaith yw ei ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ynghyd â gweddill y sgerbwd yn y dyfodol agos.

Ychwanegodd Dr Caroline Buttler, Pennaeth Palaeontoleg yn Amgueddfa Cymru:

“Y sgerbwd theropod gafodd ei ddarganfod gan Nick a Rob Hanigan yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae darganfyddiad Sam yn ychwanegu at arwyddocâd y deinosor oherwydd gallwn ddysgu mwy am yr anifail a’i berthynas â’r deinosoriaid a esblygodd yn y pen draw i fod yn adar.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Sam am roi’r droed i’r Amgueddfa, rydym yn gobeithio ei harddangos yn fuan.”

Mae’r sgerbwd, sydd i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn cynnwys crafangau a dannedd miniog y deinosor bychan.

Roedd y deinosor Cymreig yn fychan, tenau a chwim – yn tua 50cm o daldra, a 200cm o hyd, gyda chynffon hir i’w helpu i gydbwyso. Roedd yn byw mewn cyfnod pan oedd hinsawdd arfordir de Cymru yn gynnes iawn, ac roedd ganddo nifer o ddannedd bychan a miniog sy’n awgrymu ei fod yn bwyta trychfilod, mamaliaid bychan ac ymlusgiaid.

Mae rhaglen weithgareddau ac arddangosfeydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn derbyn cefnogaeth hael chwaraewyr People’s Postcode Lottery.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.