Datganiadau i'r Wasg
I’r Gad, Fechgyn Gwalia!
Dyddiad:
2015-09-14Drama newydd gan Theatr Bara Caws
Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis 3&4 a 10&11 Hydref 2015
Bydd cyflwyniad newydd sbon gan Theatr Bara Caws yn cael ei pherfformio yn
Amgueddfa Lechi Cymru ar ddechrau mis Hydref.
Comisiynwyd ‘I’r Gad, Fechgyn Gwalia!’gan yr amgueddfa i gyd-fynd ag arddangosfa newydd ‘Tros Ryddid ac Ymerodraeth’ sydd i’w gweld ar y safle. Mae’r arddangosfa yn edrych ar yr ymateb oddi mewn i gymunedau chwareli llechi i ymgyrch recriwtio y Rhyfel Byd Cyntaf cyn gorfodaeth filwrol yn 1916.
Y gred gyffredin yw fod cymunedau a diwydiannau ar draws gwlad wedi ymateb yn frwdfrydig i’r ymgyrch recriwtio, ond, a oedd hyn yn wir ym mro’r chwareli?
Er enghraifft, ar ddiwedd cyfarfod recriwtio ym Methesda ar 28 Awst 1914 dim ond tua deuddeg o ddynion ymunodd â’r fyddin, mewn ardal oedd âphoblogaeth o dros 11,000. Tebyg oedd yr ymateb yn Llanberis, gyda dim ond un dyn yn gwirfoddoli ar ddiwedd cyfarfod ym mis Medi 1914, er bod y neuadd yn orlawn.
Er mwyn annog pobol i ymuno a’r ymgyrch, defnyddiwyd nifer o ddulliau recriwtio gan gynnwys swyddogion milwrol oedd yn gallu siarad Cymraeg, posteri recriwtio Cymraeg a hysbysebion mewn papurau newydd lleol. Cynhaliwyd cyfarfodydd recriwtio ar hyd a lled Cymru –mewn neuaddau, capeli, a ffeiriau a byddai’r gynulleidfa yn cael ei hannerch gan arweinyddion y gymuned –gweinidogion, gwyr busnes, prifathrawon, a chynghorwyr.
Yn y Chwareli, addawodd rhai perchnogion fel W.D. Hobson, Rheolwr Chwarel y Penrhyn ym Methesda, gadw swyddi chwarelwyr a ymunai â’r fyddin yn agored iddynt ar ddiwedd y rhyfel a chynigiodd Chwarel Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog 5 swllt yr wythnos i’r rhai oedd am ymuno. Trefnwyd gorymdeithiau milwrol, gyda’r band pres lleol yn arwain mintai o filwyr trwy drefi a phentrefi –ac yn ystod Ionawr a Chwefror 1915 ymwelodd dros 250 o filwyr âBlaenau Ffestiniog, Penygroes, Llanrug, Llanberis, Deiniolen a Bethesda fel rhan o’r ymgyrch recriwtio.
Daw’r hanes yma yn fyw yn y ddrama drwy lygaid dau frawd sy’n gweithio yn y chwarel, gan edrych ar y ffordd y mae’r tactegau recriwtio yn effeithio ac yn
dylanwadu arnynt. EsboniadSiwan Llynor - Awdur a Chyfarwyddwraig I’r Gad, Fechgyn Gwalia, ar ran Theatr Bara Caws, ymhellach :
“Bydd y cyflwyniad yn cynnig profiad theatrig cyffrous er mwyn adlewyrchu ymgyrch a thactegau recriwtio pwerus y cyfnod. Profiad fydd yn pigo’r cydwybod, yn cwestiynu moesoldeb dyletswydd, crefydd a diwylliant.
Bwriad y cynhyrchiad yw creu profiad real ac amlsynhwyraidd fydd yn denu’r gynulleidfa i ganol y digwyddiadau.”
Mae’r cast yn cynnwys Dyfan Roberts, Owen Arwyn, Manon Wilkinson a Gwion Aled.
Cynhelir y perfformiadau 10.30am, 1pm a 3.30 ar 3,4 10 & 11 Hydref. Mae’r perfformiadau i gyd yn yr iaith Gymraeg, ond mae synopsis Saesneg ar gael.
Mae tocynnau yn rhad ac am ddim i’r perfformiadau ond oherwydd bod angen cyfyngu niferoedd, dylid bwcio tocynnau drwy gysylltu â Mari Emlyn ar: 01286 675869 neu 07880 031302 neu drwy gysylltu a’r Amgueddfa ar 02920 573702 neu llechi@amgueddfacymru.ac.uk
Mae’r perfformiadau hefyd ar gael i Ysgolion rhwng 30 Medi a 2 Hydref a 5 –9
Hydref 2015. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’r amgueddfa ar 02920 573702
Ariennir y ddrama gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Cymru’n Cofio 1914-1918.
--- diwedd---
Am wybodaeth i’r wasg cysylltwch a Julie Williams ar 02920 573707
julie.williams@museumwales.ac.uk neu Mari Emlyn ar 01286 675869 / 07880 031302