Datganiadau i'r Wasg

Argraffiad cyntaf prin, 200 oed o Gymru a Lloegr i’w weld yng Nghaerdydd

Arddangos gwaith arloesol i ddathlu deucanmlwyddiant

200 mlynedd yn ôl cyhoeddodd William Smith y map daearegol cyntaf erioed o wlad gyfan, y cam cyntaf yn natblygiad daeareg fodern. Bydd y map cyntaf hwn o Gymru a Lloegr yn cael ei ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng dydd Sadwrn 26 Medi a 28 Chwefror 2016 i ddathlu dwy ganrif ers ei gyhoeddi.

 

Roedd astudiaeth William Smith o ddaeareg Cymru, Lloegr a rhannau o’r Alban yn waith arloesol ym 1815, a bydd arddangosfa Cofnodi’r Creigiau: Mapiau Rhyfeddol William Smith yn adrodd hanes y gŵr ei hun a’i fap anferth, llawn lliw – eicon y byd daeareg.

 

Prin 150 copi o’r map hwn sy’n bodoli heddiw ac ym meddiant Amgueddfa Cymru mae’r casgliad mwyaf cynhwysfawr y byd. Caiff tri argraffiad gwahanol o’r map o gasgliad yr Amgueddfa eu dangos yn yr arddangosfa, ynghyd â mapiau eraill, archifau a sbesimenau fydd yn adrodd hanes rhyfeddol y blaengar William Smith (1769 – 1839).

 

Syrfëwr camlesi a draeniwr tir oedd William Smith, ac ym 1815 fe gyhoeddodd fap daeareg mawr, wedi’i liwio â llaw sydd yn wyth troedfedd o daldra a chwe troedfedd o led. Tra’n gweithio yng Ngwlad yr Haf yn y 1790au, sylweddolodd fod haenau’r graig yn ymddangos mewn trefn gyson a bod pob haen yn cynnwys ffosilau penodol. Tra’n teithio’r wlad gwelodd bod hyn yn wir ar draws Cymru a Lloegr.

 

Gobaith Smith oedd y byddai ei fap yn gymorth i berchnogion tir ganfod glo a deunyddiau crai eraill, ac yn gymorth i amaethwyr ddeall y pridd ar eu tir. Roedd hefyd yn gobeithio y byddai’r map arloesol yn gwneud ei ffortiwn, ond ym 1819 taflwyd Smith i garchar dyledwyr yn Llundain.

 

Heddiw, mae map Smith yn eicon y byd daeareg, a’r egwyddorion a ddefnyddiodd yn parhau i gael eu defnyddio gan ddaearegwyr wrth chwilio am olew, nwy ac adnoddau naturiol eraill ym mhedwar ban byd.

 

Dywedodd arbenigwr ar Smith a churadur yr arddangosfa, Tom Sharpe; “Ddau can mlynedd yn ddiweddarach, mae hwn yn gyfle arbennig i weld rhan o gasgliad gwych Amgueddfa Cymru o fapiau Smith.

 

“Dyma’r unig le y gallwch chi weld sut newidiodd y map wrth i syniadau Smith esblygu, ac i flaengaredd ac arbenigedd staff yr Amgueddfa dros y blynyddoedd mae’r diolch am hyn. Rydyn ni hefyd wedi manteisio ar garedigrwydd sefydliadau eraill  i ddangos mwy o ddeunydd gwreiddiol – megis rhan o gasgliad ffosilau personol Smith, sydd bellach yn yr Amgueddfa Hanes Natur, a dyddiadur a phapurau Smith o 1815 o’r Oxford University Museum of Natural History.”

 

Dywedodd Richard Bevins, Ceidwad y Gwyddorau Naturiol yn Amgueddfa Cymru; “Mae ein dyled i Smith yn fawr heddiw. Gweddnewidiodd ei fap ein dealltwriaeth o ddaeareg Cymru a Lloegr. Rwy’n ffyddiog y bydd yr arddangosfa fywiog, liwgar hon yn diddori ymwelwyr yr Amgueddfa a’r gymuned wyddonol fel eu gilydd.”

 

Noddwyd rhaglen addysg i ategu’r arddangosfa gan SRK Consulting.

 

Bydd yr arddangosfa ddaeareg yn agor wrth i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd groesawu 48fed Cwrs a Chynhadledd Flynyddol yr Earth Science Teachers Association rhwng 25 a 27 Medi, dan y thema ‘Exploration and Resource Geology’.

 

 

Cefnogir rhaglen arddangosfeydd a gweithgareddau Amgueddfa Cymru gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

 

Edrychwch ar dudalennau ‘Digwyddiadau’ gwefan Amgueddfa Cymru am fanylion digwyddiadau cysylltiedig, gan gynnwys sgyrsiau amser cinio. (http://www.amgueddfacymru.ac.uk/digwyddiadau/).

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd