Datganiadau i'r Wasg

Dirprwy Weinidog yn helpu i ddathlu’r 10

Daeth y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau heddiw (dydd Mercher 14 Hydref) i ddathlu pen-blwydd yr Amgueddfa yn 10 oed.

Cafodd y Dirprwy Weinidog daith o amgylch 15 oriel thema’r Amgueddfa yn ogystal â gweld dwy arddangosfa boblogaidd, sef Patagonia: Ein Taith i’r Byd Newydd a Deg Allan o Ddeg (arddangosfa’n dangos deg gwrthrych sy’n cynrychioli’r amrediad eang o hanes diwydiannol Cymru ar draws pedwar safle diwydiannol Amgueddfa Cymru.

Cafodd gyfle hefyd i ddarganfod sut mae’r Amgueddfa yn arwain rhaglen Cyfuno Llywodraeth Cymru yn yr ardal, sy’n helpu sefydliadau diwylliannol i weithio gyda thimau Cymunedau’n Gyntaf i ddarparu cyfleoedd i ddatblygu hyder, sgiliau a chyflogadwyedd. Mae nifer o brojectau newydd a chyffrous ar y gweill yn barod.

Wrth siarad am yr ymweliad dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Roedd yn bleser i groesawu’r Dirprwy Weinidog Ken Skates i’r Amgueddfa heddiw. Roedd yn gyfle gwych i ddangos safon uchel y rhaglenni addysg, arddangosfeydd a’r digwyddiadau sy’n annog ymwelwyr i ddychwelyd atom ni dro ar ôl tro.”

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n wych cael dathlu pen-blwydd yr Amgueddfa hon, sydd wedi bod yn denu nifer fawr o bobl i Abertawe ers deg mlynedd.

“Dros y degawd nesaf bydd yn chwarae rôl allweddol wrth dorri’r rhwystrau i gyfranogi diwylliannol drwy weithio’n agos â grwpiau cymunedol a chynnig cyfleoedd i bobl wella eu sgiliau a safon byw.”