Datganiadau i'r Wasg

Rhyfeddwch yn Amgueddfa Wlân Cymru

Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn paratoi i ddathlu a hyrwyddo digwyddiad diwylliannol nodedig yng Nghymru, sef ail Ŵyl Amgueddfeydd Cymru rhwng 24 Hydref a 1 Tachwedd.

Bydd dros 100 o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ar gael i’r teulu oll, o hwylnosau, sgyrsiau, teithiau cerdded, helfeydd a sesiynau trin a thrafod i gloddio archeolegol, ail-greu, gwisgoedd ffansi, te parti a gweithgareddau yn seiliedig ar Nos Galan.

Un o gefnogwyr yr Ŵyl yw’r Cyflwynydd Teledu ac Arbenigwr ar Fywyd Gwyllt, Iolo Williams

“Rwyf wrth fy modd yn cefnogi Gŵyl Amgueddfeydd Cymru. Fel plentyn bedair oed, rwy’n cofio syllu’n gegrwth ar sgerbwd mamoth a hyd yn oed nawr, rwy’n rhyfeddu at gyfoeth yr eitemau sydd yn ein hamgueddfeydd. Gyda bron i gant o amgueddfeydd achrededig ar hyd a lled y wlad yn gofalu am tua 5.5 miliwn o eitemau, does dim ots beth yw eich diddordebau, mae yna drysorau’n disgwyl i gael eu darganfod gan y teulu oll.”

Gall ymwelwyr ag Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre fwynhau traciau di-ri, gan gynnwys trac Tomos y Tanc a Pyrsiyn y Sioe Trenau Bach ar ddydd Sadwrn 24 Hydref. Bydd yno hefyd grefftau codi stêm a stondinau i ddiddanu’r ymwelwyr gydol y diwrnod.

Cynhelir digwyddiadau diddorol drwy’r wythnos gan gynnwys llwybrau a theithiau dyddiol poblogaidd sy’n datgelu mwy am hanes cyfoethog diwydiant gwlân Cymru. Bydd cyfle i weld y peiriannau traddodiadol wrth eu gwaith ac i ddilyn y Stori Wlanog, lle gall ymwelwyr ddysgu, a rhoi cynnig ar bob agwedd o greu gwlân, o gardio i nyddu a gwnïo.

Bydd y Cert Celf yn yr Amgueddfa rhwng dydd Mawrth 27 a dydd Sadwrn 31 Hydref a bydd y Gorlan Grefftau yn codi ofn ar bawb gyda gweithdy i droi platiau papur yn we pry cop erchyll (Iau 29 – Sadwrn 31 Hydref).

Wrth edrych ymlaen at yr ŵyl, dywedodd Pennaeth Amgueddfa Wlân Cymru Ann Whittall; “Mae’r ŵyl yn llwyfan perffaith i’n harlwy yn yr Amgueddfa, o weithgareddau ymarferol i ddysgu mwy am hanes hudol diwydiant gwlân Cymru.

“Mae’n wych y cynhelir yr ŵyl eleni dros hanner tymor gan y bydd digonedd o deuluoedd yn chwilio am rywbeth i’w diddanu dros yr wythnos.”​

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates,

“Mae gennym amgueddfeydd ffantastig yng Nghymru, yn llawn eitemau hynod sydd o gymorth i adrodd hanes ein gorffennol. Maent yn adnodd gwerthfawr wrth ein cynorthwyo i ddysgu a deall digwyddiadau hanesyddol pwysig mewn ffordd na ellir ei wneud gyda llyfrau’n unig. Bydd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddarganfod y casgliadau unigryw a chael eu hysbrydoli ganddynt, ac rwy’n falch o weld amryw o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a’r cyffiniau, gan sicrhau bod cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn cyfres o brofiadau cyffrous.”

Ychwanegodd Rachel Silverson, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru,

“Rydym yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru unwaith yn rhagor oherwydd ei bod yn cynnig cyfle i’n haelodau hyrwyddo eu hamgueddfeydd a bod yn falch o’r gwaith y maent yn ei wneud. Ar adeg pan fydd ar amgueddfeydd angen cefnogaeth gan eu cymunedau, ein gobaith hefyd yw y bydd rhagor o bobl yn parhau i ryfeddu at yr holl bethau sy’n cael eu cynnig gan amgueddfeydd Cymru.”

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd Amgueddfa Wlân Cymru trwy fynd i www.amgueddfeydd.cymru neu http://www.amgueddfacymru.ac.uk/gwlan/

Nodiadau i’r Golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, cyfweliadau a delweddau cysylltwch â: Marie Szymonski (029) 2057 3616.

Oeddech chi’n gwybod?

4.27 miliwn o ymweliadau ag amgeddfeydd Cymru yn 2013

98 o amgueddfeydd achrededig yng Nghymru

Roedd 96% o bobl yn fodlon â’r amgueddfa roedden nhw wedi ymweld â hi (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2014-2015)

Mae 84% o ymwelwyr yn credu bod amgueddfeydd Cymru yn “lleoedd cyfeillgar a chroesawgar” (Arolwg Ymwelwyr Cymru 2013)

Mae grwpiau cymunedol lleol yn defnyddio gwasanaethau amgueddfeydd 4843 o weithiau’r flwyddyn

2118 o wirfoddolwyr yn amgueddfeydd Cymru

Amgueddfa Abertawe a Stori Caerdydd yn ennill cystadleuaeth celfyddyd gyfoes ledled y Deyrnas Unedig yn 2014

Byddai 8 o bob 10 o dwristiaid sy’n ymweld ag amgueddfa yng Nghymru yn ei hargymell i gyfaill neu berthynas (Arolwg Ymwelwyr Cymru 2013)

Mae amgueddfeydd yng Nghymru yn gofalu am tua 5,500,000 o eitemau

Amgueddfa Rheilffordd Gul Tywyn yn ennill Gwobr Genedlaethol Treftadaeth Rheilffyrdd 2013

Llety’r Barnwr yn ennill gwobr ‘Trysor Cudd’ yng Ngwobr Treftadaeth Hudson 2014

Mae hanner yr amgueddfeydd yng Nghymru yn rhoi mynediad am ddim

Amgueddfa Arberth ar restr fer Gwobr y Gronfa Gelf am Amgueddfa’r Flwyddyn 2013

Tŷ Weindio yn derbyn ‘Cymeradwyaeth Arbennig am Gyfraniad Neilltuol i’w Cymuned Leol’ yng Ngwobr Amgueddfa sy’n Ystyriol o Deuluoedd 2015

Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru – sefydlwyd yn 1841

Gyda 564,195 o ymwelwyr y llynedd, Sain Ffagan yw’r amgueddfa â’r nifer fwyaf o ymwelwyr yng Nghymru