Datganiadau i'r Wasg

Y Gofod ag Ysbrydion ar y Glannau dros y gwyliau!

Mae hi’n hanner tymor ac mae digon i ddiddanu’r teulu cyfan yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Tan ddydd Sul 1 Tachwedd gall teuluoedd ddilyn Taith Cysawd yr Haul drwy’r orielau yn dysgu ffeithiau diddorol.

Drwy’r wythnos tan ddydd Gwener 30 Hydref (12.30pm-3.30pm) bydd gweithdy galw draw Tair Roced Cŵl yn rhoi cyfle i ymwelwyr hedfan rocedi bach.

Cynhelir y ddau ddigwyddiad i gyd-fynd â lansiad arddangosfa newydd Cymru yn y Gofod – sioe liwgar a diddorol yn cynnwys bydysawd o rocedi, planedau a sêr.

 hithau’n Galan Gaeaf ar ddydd Sadwrn, bydd yr Amgueddfa yn dathlu dydd yr ysbrydion gyda Hwyl Hyll Calan Gaeaf (12-4pm). Gall ymwelwyr gymryd rhan mewn nifer o digwyddiadau dychrynllyd un o adeiladau mwyaf eiconig Abertawe gan gynnwys dilyn llwybr ysbrydion, neu greu crefftau fel pry cop bocs matsys a gwrach wellt. Bydd cyfle hefyd i wrando ar straeon iasol neu ddysgu am wyddoniaeth wefreiddiol.

Yn y nos bydd yr Amgueddfa unwaith eto’n cefnogi ymgyrch genedlaethol Museums at Night ac yn agor ei drysau yn hwyr ar gyfer Noson o Ofn i’r Teulu (6.30pm).

Dewch i glywed straeon od a dychrynllyd cyn gwylio Hotel Transylvania mewn 3D yn Oriel y Warws, a’r cyfan am £2.50 y pen. Rhaid archebu lle ar gyfer y digwyddiad drwy ffonio (029) 2057 3600.

“Bydd hwn yn ddechrau gwych i ddigwyddiadau’r gaeaf,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry. “Gyda’r nos yn cau a’r tywydd yn oeri, rydyn ni’n cynnig lleoliad gwych lle gall y teulu cyfan fwynhau gweithgareddau addysgol, llawn hwyl, yn rhad ac am ddim.”