Datganiadau i'r Wasg

Rhyfeddwch yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn paratoi i ddathlu a hyrwyddo digwyddiad diwylliannol nodedig yng Nghymru, sef ail Ŵyl Amgueddfeydd Cymru rhwng 24 Hydref a 1 Tachwedd.

Fe fydd dros 100 o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ar gael i’r teulu oll, o hwylnosau, sgyrsiau, teithiau cerdded, helfeydd a sesiynau trin a thrafod i gloddio archeolegol, ailactio, gwisgo gwahanol ddillad, te parti a gweithgareddau yn seiliedig ar Nos Galan.

Un o gefnogwyr yr Ŵyl yw’r Cyflwynydd Teledu ac Arbenigwr ar Fywyd Gwyllt, Iolo Williams  

“Rwyf wrth fy modd yn cefnogi Gŵyl Amgueddfeydd Cymru. Fel plentyn bedair oed, rwy’n cofio syllu’n gegrwth ar sgerbwd mamoth a hyd yn oed nawr, rwy’n rhyfeddu at gyfoeth yr eitemau sydd yn ein hamgueddfeydd. Gyda bron i gant o amgueddfeydd achrededig ar hyd a lled y wlad yn gofalu am tua 5.5 miliwn o eitemau, does dim gwahaniaeth beth yw eich diddordebau, mae yna drysorau’n disgwyl i gael eu darganfod gan y teulu oll.”

Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, gall ymwelwyr roi cynnig ar greu Tair Roced Cŵl mewn gweithdy creadigol (Sad 24-Gwe 30 Hydref), dilyn Llwybr Cysawd yr Haul o gwmpas yr orielau (Sad 24 Hydref-Sul 1 Tachwedd), heb anghofio Hwyl Hyll Calan Gaeaf (Sad 31 Hydref, 12-4pm).

Wrth edrych ymlaen at yr ŵyl dywedodd Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris: “Mae’r ŵyl yn llwyfan perffaith i’n harlwy yn yr Amgueddfa, o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd cyffrous i hanes dros 300 mlynedd o ddiwydiant ac arloesi yng Nghymru.”

“Mae’r ŵyl eleni yn cyd-fynd â hanner tymor, sy’n wych gan y bydd digonedd o deuluoedd yn chwilio am rywbeth i’w diddanu dros yr wythnos” ychwanegodd.

Fe fydd rhaglen Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr brofi diwylliant a threftadaeth mewn ffordd hollol annisgwyl – yn y nos!” Meddai Rosie Clarke,

Amgueddfeydd yn y Nos, “Rydym yn anelu at ysbrydoli ymwelwyr newydd i ddarganfod y digwyddiadau celfyddydol a threftadaeth arbennig sydd ar stepen eu drws trwy greu profiadau cyffrous ar ôl oriau cau . Rydym yn hynod falch o ymuno â Gŵyl Amgueddfeydd Cymru i gydweithio er mwyn cyrraedd hyd yn oed mwy o ymwelwyr. Ble bynnag rydych chi, mae’n sicr y bydd rhywbeth diddorol ymlaen mewn amgueddfa yn agos atoch chi – felly cymerwch gip ar y rhestr digwyddiadau a dechreuwch archwilio!”

Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mae cyfle i ymwelwyr ymuno â Noson o Ofn i’r Teulu (Sad 31 Hydref, 6.30pm) sy’n rhan o ymgyrch Amgueddfeydd Liw Nos. Bydd digon o straeon erchyll a chwedlau rhyfeddol, cyn dangosiad o ffilm ddychrynllyd mewn 3D. Mae tocynnau’n £2.50 y pen ac ar gael o siop yr Amgueddfa neu drwy ffonio (029) 2057 3600.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates,

“Mae gennym amgueddfeydd ffantastig yng Nghymru, yn llawn eitemau hynod sydd o gymorth i adrodd hanes ein gorffennol. Maent yn adnawdd gwerthfawr wrth ein cynorthwyo i ddysgu a deall digwyddiadau hanesyddol pwysig mewn ffordd na ellir ei wneud gyda llyfrau’n unig. Bydd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddarganfod y casgliadau unigryw a chael eu hysbrydoli ganddynt, ac rwy’n falch o weld amryw o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac ardaloedd cyfagos, gan sicrhau bod cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn cyfres o brofiadau cyffrous.”

Ychwanegodd Rachel Silverson, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru,

“Rydym yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru unwaith yn rhagor oherwydd ei bod yn cynnig cyfle i’n haelodau hyrwyddo eu hamgueddfeydd a bod yn falch o’r gwaith y maent yn ei wneud. Ar adeg pan fydd ar amgueddfeydd angen cefnogaeth gan eu cymunedau, ein gobaith hefyd yw y bydd rhagor o bobl yn parhau i ryfeddu at yr holl bethau sy’n cael eu cynnig gan amgueddfeydd Cymru.”

Nodiadau i’r Golygydd

Am fwy o wybodaeth, cyfweliadau a delweddau cysylltwch â: Marie Szymonski (029) 2057 3616.

Oeddech chi’n gwybod?

4.27 miliwn o ymweliadau ag amgueddfeydd Cymru yn 2013

98 o amgueddfeydd achrededig yng Nghymru

Roedd 96% o bobl yn fodlon â’r amgueddfa roedden nhw wedi ymweld â hi (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2014-2015)

Mae 84% o ymwelwyr yn credu bod amgueddfeydd Cymru yn “lleoedd cyfeillgar a chroesawgar” (Arolwg Ymwelwyr Cymru 2013)

Mae grwpiau cymunedol lleol yn defnyddio gwasanaethau amgueddfeydd 4843 o weithiau’r flwyddyn

2118 o wirfoddolwyr yn amgueddfeydd Cymru

Amgueddfa Abertawe a Stori Caerdydd yn ennill cystadleuaeth celfyddyd gyfoes ledled y Deyrnas Unedig yn 2014

Byddai 8 o bob 10 o dwristiaid sy’n ymweld ag amgueddfa yng Nghymru yn ei hargymell i gyfaill neu berthynas (Arolwg Ymwelwyr Cymru 2013)

Mae amgueddfeydd yng Nghymru yn gofalu am tua 5,500,000 o eitemau

Amgueddfa Rheilffordd Gul Tywyn yn ennill Gwobr Genedlaethol Treftadaeth Rheilffyrdd 2013

Llety’r Barnwr yn ennill gwobr ‘Trysor Cudd’ yng Ngwobr Treftadaeth Hudson 2014

Mae hanner yr amgueddfeydd yng Nghymru yn rhoi mynediad am ddim

Amgueddfa Arberth ar restr fer Gwobr y Gronfa Gelf am Amgueddfa’r Flwyddyn 2013

Tŷ Weindio yn derbyn ‘Cymeradwyaeth Arbennig am Gyfraniad Neilltuol i’w Cymuned Leol’ yng Ngwobr Amgueddfa sy’n Ystyriol o Deuluoedd 2015

Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru – sefydlwyd yn 1841

Gyda 564,195 o ymwelwyr y llynedd, Sain Ffagan yw’r amgueddfa â’r nifer fwyaf o ymwelwyr yng Nghymru