Datganiadau i'r Wasg

Y Glannau yn y Gofod

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn anelu am y gofod y tymor hwn gydag arddangosfa newydd yn cynnwys planedau, sêr a roced 20 troedfedd!

Ffotograff cynnar o’r lleuad, 1857, gan John Dillwyn Llewelyn

Bydd Cymru yn y Gofod yn glanio yn y brif neuadd ac yn aros yno tan fis Mawrth 2016. Bydd yn arddangos peth o offer arsylwi mwyaf nodedig Cymru dros y 400 mlynedd ddiwethaf ac yn edrych ar y rôl y maent wedi eu chwarae yn yr ymdrech barhaus i ddeall y bydysawd.

Bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu am y Lleuad, gyda lluniau cynnar iawn wedi’u tynnu gan John Dillwyn-Llewelyn ym 1857. Wedi’i eni yn Abertawe ym 1810, roedd gan Dillwyn-Llewellyn ddiddordeb mawr mewn seryddiaeth ac ym 1851 adeiladodd arsyllfa ar dir ei ystâd ym Mhenlle’r-gaer. Roedd ei ferch Thereza yn rhannu ei ddiddordeb mewn seryddiaeth, ac anrheg iddi hi oedd yr arsyllfa. Yn 2013, lansiodd Ymddiriedolaeth Penlle’r-gaer broject i adfer yr adeilad i’w ogoniant blaenorol. 

Bydd sylw i themâu diddorol fel Astroarchaeoleg – astudiaeth o sut y bu’n hynafiaid yn adeiladu cofebau o amgylch safleoedd arwyddocaol gwawrio a machlud yr Haul, y Lleuad a’r sêr. Ceir nifer o’r safleoedd pwysig hyn yng Nghymru, gan gynnwys Bryn Celli Ddu yn Ynys Môn. Codwyd y gofeb, ger tref Llanddaniel-fab, oddeutu 5,000 o flynyddoedd yn ôl.

Bydd sylw hefyd yn cael ei roi i gyfraniadau arwyddocaol Cymru tuag at dechnoleg y gofod dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys Arsyllfa Ofod Herschel, a adeiladwyd gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. Chwaraeodd gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd rôl hanfodol yn y broses hon gan gymryd yr awenau ar gyfer cynhyrchu un o dri chamera’r telesgop, o’r enw SPIRE.

Mae nifer o Gymry wedi gweithio gyda’r asiantaeth ofod Americanaidd NASA fel swyddogion, peirianwyr a gofodwyr – Joe Tanner, Americanwr gyda chysylltiadau agos â gorllewin Cymru, oedd y gofodwr cyntaf i fynd â’r ddraig goch i’r gofod ym 1994. Yn ddiweddarach, cafodd y faner hon ei rhoi i Amgueddfa Cymru ac mae i’w gweld fel rhan o’r arddangosfa hon.

Ymysg yr arteffactau mae samplau prin a chyffrous o greigiau o’r lleuad a chasgliad o feteorynnau wedi’u rhoi gan Gyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg y DU (STFC). Cafodd y creigiau eu casglu gan NASA yn ystod rhai o’u teithiau cyntaf i’r Lleuad yn y 1960au a’r 1970au.

Wrth siarad am y samplau, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol STFC, yr Athro John Womersley: “Mae hwn yn gyfle gwych i ymwelwyr weld a phrofi rhai o ryfeddodau gwych y gofod – y gobaith yw y bydd yn ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol.”

Hefyd i’w gweld yn yr arddangosfa bydd model maint llawn o’r Chwiliedydd Gofod Beagle 2, gafodd ei ddylunio’n rhannol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a siwt ofod anhygoel gan y dylunydd o orllewin Cymru, Hefin Jones, sydd wedi’i gwneud o wlân Cymru ac yn cynnwys ‘clocsiau gofod’. Bydd cyfle i ymwelwyr wisgo fel gofodwyr hyd yn oed a thrydar lluniau o’u hunain o flaen ein cefndir gofodol arbennig.

Dywedodd Swyddog Arddangosfeydd yr Amgueddfa, Andrew Deathe: “Yn dilyn misoedd o ymchwil a chynllunio, rydym yn hynod o falch â’r arddangosfa Cymru yn y Gofod.

“Mae’n arddangosfa hwyliog, liwgar a chreadigol sy’n teithio i bob twll a chornel o Gysawd yr Haul ac yn cynnwys nifer o seryddwyr a gwyddonwyr o Gymru. Yn barod mae’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr, yn enwedig y roced 20 troedfedd sy’n ganolbwynt.”

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gyd-fynd â’r arddangosfa gan gynnwys crefftau, ffilmiau, sioeau gwyddoniaeth yn ogystal â’r cyfle i gyfarfod astronot cyntaf Prydain, Helen Sharman OBE, fydd yn ymuno â ni ar ddydd Sadwrn 20 Ionawr i rannu ei phrofiadau o fyw a gweithio yn y gofod.

Tocynnau’n £5 i oedolion (£3 i blant) cyn y Nadolig, £7.50 (£4.50) wedi’r Nadolig. Ffoniwch (029) 2057 3600 i archebu tocynnau, mae mwy o fanylion ar http://www.amgueddfacymru.ac.uk/abertawe/digwyddiadau/8676/Noson-yng-nghwmni-Astronot-Cyntaf-Prydain/

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion

Am ffotograffau a chyfweliadau cysylltwch â Marie Szymonski ar (029) 2057 3616.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg y DU (STFC) ewch i http://www.stfc.ac.uk/