Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Gymunedol newydd ar gyfer Ward Penderi

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn helpu grwpiau cymunedol i greu amgueddfa gymunedol eu hunain.

Drwy gydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys gwasanaeth Cymunedau’n Gyntaf Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Grŵp Gwalia, Llyfrgell Penlan, Archifau Cymreig Morgannwg a Kids in Museums, caiff amgueddfa ei chreu i adlewyrchu bywyd trigolion Ward Penderi.

Bydd yr Amgueddfa wedi’i lleoli yn 104 Community House, Broughton Avenue, Blaenymaes ac yn llawn gwrthrychau, lluniau, straeon ac atgofion pobl sydd wedi byw a gweithio yn yr ardal.

Bydd yn gyfle i bobl wirfoddoli a derbyn hyfforddiant ym meysydd archifo, ffotograffiaeth, defnyddio cyfrifiaduron, sganio, adrodd straeon digidol a llawer mwy.

“Y nod yn y pen draw yw rhoi arweiniad a datblygu sgiliau fel y gall pobl leol gynnal yr Amgueddfa eu hunain,” meddai Curadur Diwydiant Modern a Chyfoes Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ian Smith. “Roedden ni am greu gofod lle gallai pobl rannu, hel atgofion a dathlu eu treftadaeth gyda’i gilydd.”

Caiff yr amgueddfa gymunedol ei hagor yn swyddogol ar ddydd Iau 12 Tachwedd am 11am pan fydd disgyblion ysgolion Cadle, Blaenymaes a Portmead cymryd yr awenau ac yn rhedeg yr Amgueddfa fel rhan o fenter genedlaethol Kids in Museums*.

Mynegi ei boddhad wnaeth Zoe Gealy, Uwch Swyddog Addysg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, gan ddweud; “Mae’n wych medru mynd ag elfennau o amgueddfa genedlaethol at y gymuned, at bobl sydd efallai byth wedi ymweld ag amgueddfa neu unrhyw sefydliad treftadaeth o’r blaen.

“Rydyn ni am annog y trigolion i ymwneud mwy â hanes lleol, dysgu sgiliau newydd, rhannu straeon a gobeithio bydd hyn yn tanio’r dychymyg. Efallai y gwelwn ni amgueddfeydd lleol yn codi ar draws Abertawe.”

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

*Kids in Museums: Dathliad yw Taking Over Day o gyfraniad plant a phobl ifanc at amgueddfeydd, orielau, sefydliadau celfyddydol, archifau a safleoedd treftadaeth. Mae’n ddiwrnod sy’n rhoi cyfrifoldeb iddynt, a chyfle i weithio gyda staff a gwirfoddolwyr a chyfrannu at fywyd yr amgueddfa. Am ragor o fanylion ewch i http://kidsinmuseums.org.uk/takingoverday/