Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa newydd ffrwydrol Ifor Davies yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yr hydref hwn caiff arddangosfa fawr newydd gan un o artistiaid cyfoes blaenaf Cymru ei hagor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd Ffrwydrad Tawel: Ifor Davies a Dinistr Creadigol ar agor rhwng ddydd Sadwrn 14 Tachwedd ac 20 Mawrth 2016 yn canolbwyntio ar ddiddordeb parhaus Ifor yng ngrym creadigol dinistr ac yn cynnwys paentiadau, cerfluniau, perfformiadau a mwy gan gwmpasu gyrfa’r artist o’r 1940au hyd heddiw.

Fel artist, hanesydd celf ac ymgyrchwr mae Ifor Davies yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw byd celf Cymru ac yn dwyn ei ysbrydoliaeth o ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Mae Ifor yn wreiddiol o Dreharris ond mae’r cyn ddarlithydd bellach yn byw ym Mhenarth wedi mwynhau gyrfa hir a thoreithiog yn y byd celf gweledol.

Yn 2002 enillodd Fedal Aur Celf Gain Eisteddfod Tyddewi ac ers 2003 mae Gwobr Ifor Davies yn cael ei chyflwyno am waith sy’n cyfleu’r frwydr dros Iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ffrwydrad Tawel yw’r arddangosfa fwyaf erioed yng Nghymru o waith artist unigol cyfoes. Yn llenwi chwe oriel celf gyfoes yr Amgueddfa, nid arddangosfa adolygol draddodiadol yw hon ond golwg ar ddiddordeb Ifor yng ngrym creadigol dinistr. Curadwyd yr arddangosfa gan Nicholas Thornton, Pennaeth Celfyddyd Gain Amgueddfa Cymru a Judit Bodor, ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cefnogir yr arddangosfa gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Gwyddorau, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Sefydliad Henry Moore.

Paentiadau a chydosodiadau o’r ddegawd ddiwethaf sy’n agor yr arddangosfa – gweithiau pwerus yn cyfleu ymrwymiad Ifor i warchod iaith a diwylliant Cymru. Teithia’r arddangosfa drwy’r degawdau yn ôl drwy yrfa Ifor gan gloi gyda darluniau plentyndod o ddinistr Blitz Caerdydd.

Er bod Ifor Davies wedi arddangos ei waith yn helaeth, mae Ffrwydrad Tawel yn cynnwys cyfresi o weithiau nas gwelwyd am hanner canrif a mwy. Yn eu plith mae paentiadau hynod o ganol y 1950au wedi’u hysbrydoli gan Picasso ac yn arbrofi ag ychwanegu plisgyn ŵy at y paent. Paentiwyd cyfres arall o weithiau haniaethol pwerus yn Lausanne, y Swistir rhwng 1959 a 1961. Yn eu gwead lliwgar, garw gwelir dealltwriaeth Ifor o ddatblygiadau diweddaraf paentio avant-garde Ewropeaidd.

Canolbwynt yr arddangosfa yw’r archif bwysig yn croniclo cyfraniad Ifor Davies at ddiwylliant tanddaearol y 1960au, yn enwedig symposiwm arloesol Dinistr Mewn Celf (DIAS). Cynhaliwyd y DIAS yn Llundain ym 1966 yn gasgliad o berfformiadau a chyflwyniadau gan grŵp radical o artistiaid ac athronwyr, yn eu plith Gustav Metzger, Yoko Ono, Ralph Ortiz a’r Viennese Actionists. Mae Ffrwydrad Tawel yn dangos rôl allweddol Ifor yn y rhwydwaith rhyngwladol o artistiaid.

Drwy gyfrwng deunydd archif a ffilmiau unigryw mae Ffrwydrad Tawel yn datgelu cyfres ryfeddol o berfformiadau a digwyddiadau Ifor yng Nghaeredin, Llundain, Bryste ac Abertawe rhwng 1966 a 1968. Roedd wrthi ar y pryd yn arloesi gyda ffrwydron yn ei waith, a’u defnyddio i weddnewid digwyddiadau theatrig, cymhleth. Bydd oriel gyfan yn canolbwyntio ar ail-greu Adam on St Agnes Eve – perfformiad amlgyfrwng tri deg munud o hyd a lwyfannwyd gyntaf yn Abertawe ym 1968.

Yn ategu’r arddangosfa mae llyfr a olygwyd gan Heike Roms a’i gyhoeddi gan Occasional Papers. Mae rhaglen addysg a digwyddiadau gyflawn hefyd yn ategu’r arddangosfa.

http://www.amgueddfacymru.ac.uk/caerdydd/digwyddiadau/8579/Ffrwydrad-Tawel-Ifor-Davies-a-Dinistr-Creadigol/

Meddai Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain Amgueddfa Cymru; “Dyma’r arddangosfa fwyaf erioed yng Nghymru o waith artist unigol cyfoes ac mae’n bleser gan Amgueddfa Cymru gael cyfle i arddangos gwaith artist rhyfeddol sydd wedi bod yn allweddol yn y byd celf gweledol yng Nghymru.

“Rwy’n gobeithio bydd yr ymwelwyr yn mwynhau gwaith un o’r artistiaid cyfoes pwysicaf ac uchaf ei barch yng Nghymru.”