Datganiadau i'r Wasg

Nadolig gwyrdd y Glannau

Mae cyfnod yr ŵyl ar y gorwel a bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn dathlu drwy droi’n wyrdd.

O 10am y penwythnos hwn (Sad 21 a Sul 22 Tachwedd) bydd Ffair Werdd, wedi’i threfnu gan Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe, yn cael ei chynnal ym mhrif neuadd yr Amgueddfa.

Bydd cyfle i ymwelwyr bori dros 70 o stondinau yn cynnig pob math o anrhegion ecogyfeillgar gan gynnwys nwyddau lleol, masnach deg ac organig.

Bydd stondinau hefyd yn gwerthu gwaith coed llaw, dillad wedi’u hailgylchu yn ogystal â bwyd llysieuol a fegan.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Hannah Mitchell o Ganolfan yr Amgylchedd: “Mae rhywbeth i bawb yn y Ffair Werdd – mae’n gyfle nid yn unig i siopa am nwyddau unigryw, ond i gael gwybod mwy am ymgyrchoedd amgylcheddol a byw’n gynaliadwy, ac yn arbennig eleni, gweld car trydan BMW i3.

“Mae mynediad am ddim, ac mae’n ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan” ychwanegodd.

“Dyma’r ddegfed flwyddyn i ni weithio gyda Chanolfan yr Amgylchedd i gyflwyno’r ffair boblogaidd hon,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau Miranda Berry. “Mae’n ffordd wych i ymwelwyr ddarganfod mwy am y pwnc pwysig hwn.”