Datganiadau i'r Wasg

Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol

Darganfyddiadau archaeolegol gwych o bedwar ban byd – a’r sgrin fawr – i’w gweld mewn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Camwch i fyd anturwyr enwog er mwyn dadorchuddio trysorau o bob cwr o’r byd mewn arddangosfa newydd gyffrous yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fis Ionawr.

I ddathlu 2016, Blwyddyn Antur yng Nghymru, bydd yr Amgueddfa yn arddangos trysorau diweddar fel het, siaced a chwip Indiana Jones, penglog grisial ac Aur Inca, yn ogystal â champweithiau cynharach megis mymïaid Eifftaidd.

Bydd arddangosfa Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 26 Ionawr i 30 Hydref 2016.

Hwn fydd un o ddigwyddiadau cyntaf Blwyddyn Antur Cymru. Y bwriad yw hyrwyddo gweithgareddau antur Cymru, o wifrau gwib a beicio mynydd i arddangosfeydd cyffrous mewn amgueddfeydd. Bydd hefyd yn cynnwys digwyddiadau i nodi canrif ers geni’r awdur Roald Dahl.

Cyhoeddodd Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon Cymru, Ken Stakes rai o’r prif wrthrychau fydd i’w gweld fel rhan o’r arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae 2016 yn Flwyddyn Antur yng Nghymru a pha ffordd well i ddathlu na drwy arddangos trysorau gafodd eu darganfod gan archaeolegwyr ac arteffactau o ffilmiau’r anturiwr enwocaf ohonynt i gyd, Indiana Jones?

“Rwy’n hapus iawn gyda’r casgliad o wrthrychau fydd i’w gweld yn yr Amgueddfa, pob un yn gysylltiedig ag antur arbennig. Gobeithio y bydd yr arddangosfa yn denu ymwelwyr newydd, all ddarganfod hanesion yr eitemau a dysgu am waith cyffrous archaeolegwyr – o ddarganfod trysorau coll i ddatrys dirgelion hynafol.

“Mae antur yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl ond mae rhywbeth i bawb yma yng Nghymru. Rwy’n hynod o falch bod yr Amgueddfa yn ymuno â ni ar ein Blwyddyn Antur – ac fel un o brif atyniadau’r wlad mae’n addas mai nhw sy’n agor y digwyddiadau gydag arddangosfa gyffrous.”

Bydd yr arddangosfa yn adrodd straeon darganfyddiadau archaeolegol mawr o wareiddiadau hynafol yr Aifft, Groeg, Rhufain, America a Rapa Nui (Ynys y Pasg), rhai ohonynt erioed wedi’u gweld yng Nghymru o’r blaen. Bydd yn cynnwys llu o wrthrychau diddorol ac, yn ogystal â’r trysorau hynafol, enghreifftiau mwy diweddar o Gymru.

Caiff ymwelwyr eu hannog i ddilyn ôl traed archaeolegwyr – hanesyddol a ffuglennol – i geisio dadorchuddio straeon rhai o drysorau hynafol y byd. Ymysg yr uchafbwyntiau bydd mymïod o’r Aifft, trysorau o Rufain, a phenglogau: prop o’r ffilm Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull diolch i’r Lucas Museum of Narrative Art; penglogau dynol o gladdedigaethau yn Llanbedrgoch, Ynys Môn; a phenglog crisial o’r 19eg ganrif diolch i’r Musée du Quai Branly, Paris.

Bydd gwaith archaeolegol unigolion fel Giovanni Belzoni (anturiaethwr o’r Eidal ac arloeswr ym myd archaeoleg Eifftaidd), Flinders Petrie (Eifftolegydd) ac Adela Breton (artist archaeolegol ac anturiaethwraig) o dan y chwyddwydr. Caiff hyn ei gymharu ag anturiaeth heddiw ac effaith darganfyddiadau archaeolegol ar ddiwylliant poblogaidd, ffilm a ffuglen: o Tintin ac Indiana Jones i Rider Haggard a Conan Doyle.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Yn ogystal â gwyddoniaeth a darganfyddiadau, mae elfen o ddirgelwch mewn archaeoleg. Mae wedi ysbrydoli anturwyr, ffilmiau a diwylliant poblogaidd ers dros ganrif.

“Yn yr arddangosfa byddwn yn dangos gwrthrychau gwych – rhai’n dod i Gymru am y tro cyntaf. Rwy’n hyderus y bydd Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol yn apelio at oedolion a phlant fel ei gilydd. Bydd yn gyfle i bawb fwynhau straeon anhygoel y gwrthrychau hyn.”