Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Wlân Cymru yn ennill gwobr Best Told Story

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre wrth ei bodd i dderbyn cymeradwyaeth Croeso Cymru.

Derbyniodd yr Amgueddfa, sydd wedi’i lleoli yn hen Felin Cambrian ym mhrydferthwch Dyffryn Teifi, wobr Best Told Story am ei llwyddiant yn cyfleu ei stori.

Mae offer hanesyddol yr Amgueddfa yn dal i weithio wrth esbonio’r broses gyfan o droi cnu defaid yn wlanen clud, ac oriel yn dangos cyfoeth o ddefnydd gwlân a gynhyrchwyd gan felinau ym mhob cwr o Gymru. Mae’r felin hefyd yn gartref i wehydd masnachol gyda llwybr wedi’i godi yn rhoi golwg unigryw ar y gwydd wrth eu gwaith.

Mae’r gwobrau newydd wedi’u hanelu at atyniadau sydd eisoes yn rhan o Gynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr Croeso Cymru ond sy’n ymdrechu i greu profiad arbennig a chofiadwy i’w hymwelwyr.

Cyhoeddwyd enwau enillwyr y cynllun ansawdd atyniadau gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae llawer o atyniadau a phethau i’w gwneud yng Nghymru: mae’r dewis yn ddiddiwedd! Bydd y cynllun hwn yn gwobrwyo’r atyniadau hynny sy’n cynnig rhywbeth arbennig. Hefyd, bydd y gwobrau yn gyfle i roi mwy o wybodaeth i ymwelwyr am yr hyn sy’n arbennig am rai o’n hatyniadau, a thynnu sylw at rai trysorau cudd hefyd. Llongyfarchiadau i holl enillwyr 2016 a gobeithio y gall y gwobrau hyn gyfrannu ychydig at wella profiadau ymwelwyr â Chymru ymhellach.”

Wrth drafod y newyddion dywedodd Ann Whittall, Pennaeth Amgueddfa Wlân Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd yn derbyn y wobr hon. Mae staff yr Amgueddfa i gyd yn gweithio’n galed iawn i greu profiad sy’n dod â diwydiant gwlân Cymru yn fyw i’r ymwelwyr, gyda gweithgareddau ymarferol, arddangosiadau byw gan grefftwyr talentog, a defnyddio’r peiriannau hanesyddol.”

Mae’r gwobrau’n adlewyrchu’r amrywiaeth eang o atyniadau sydd ar gael yng Nghymru, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau, cestyll a thai hanesyddol, parciau adloniant,  gerddi, parciau gwledig a gweithgareddau antur.

Dewiswyd yr enillwyr drwy system sgorio yn seiliedig ar asesiad a gynhelir gan Croeso Cymru bob dwy flynedd.

Dyma’r pedwar categori gwahanol:

Gwobr Aur – ar gyfer atyniadau sydd â chyfleusterau rhagorol ac sy’n rhoi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid

Gwobr Adrodd Stori Orau – ar gyfer atyniadau sy’n rhagori wrth adrodd eu stori

Gwobr Caffi o Ansawdd Gorau – ar gyfer atyniadau sy’n gweini bwyd rhagorol

Gwobr Trysor Cudd – atyniadau diddorol a braf sy’n cael llai na 20,000 o ymwelwyr y flwyddyn.