Datganiadau i'r Wasg

Hwyl yr Ŵyl yn y Glannau dros y penwythnos!

Ymunwch â ni dros y penwythnos wrth i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddod yn fyw gyda chymysgedd o grefftau a charolau, ymweliad gan Siôn Corn a mulod go iawn.

Ar ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr o 12pm-4pm bydd Siôn Corn yn galw heibio i ddiddanu teuluoedd gyda straeon tymhorol, a bydd digon o grefftau i ymwelwyr eu mwynhau. Bydd llond gwlad o fulod, gan gynnwys un brid bychan bach, yn dod draw hefyd.

Hefyd ddydd Sadwrn am 2pm bydd sgwrs arbennig gan Andrew Lound o Gymdeithas Seryddol Abertawe ynghylch Cysawd yr Haul.

Ar ddydd Sul (6 Rhagfyr, 2.30pm ), bydd cyfle i ymwelwyr fwynhau ffilm Nadoligaidd i deuluoedd yn yr Oriel Warws dan oleuadau sgleiniog.

Wrth edrych ymlaen at y digwyddiadau hyn, dywedodd Miranda Berry, Swyddog Digwyddiadau: “Dim ond y dechrau yw hyn – mae llond gwlad o ddanteithion tymhorol ar y gweill eleni; rhywbeth i’r teulu cyfan.”

Dros yr wythnosau nesaf bydd yr Amgueddfa yn cynnal Cwis Nadoligaidd (Gwener 11 Rhagfyr, 7pm), arddangosfa Cacennau Creadigol Nadoligaidd gan y Raspberry Cupcakery (Sul 13 Rhagfyr, 12.30-3.30pm) yn ogystal â chrefftau a ffilmiau i’r teulu.

Cofiwch hefyd am siop yr Amgueddfa sy’n llawn anrhegion gwych gan gynnwys gemwaith, siocled o Gymru, llyfrau... digon i lenwi unrhyw hosan Nadolig!

Am fwy o fanylion am unrhyw ddigwyddiad ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk/abertawe/digwyddiadau/ neu ffoniwch (029) 2057 3600.