Datganiadau i'r Wasg

Cadarnhad bod cloddfeydd ‘cerrig glas’ Côr y Cewri 140 milltir i ffwrdd yng Nghymru

Ymchwil gan Amgueddfa Cymru yn arwain at union darddiad cerrig Côr y Cewri

Cadarnhawyd bod tarddiad cerrig glas Côr y Cewri, yng Nghymru, yn dilyn ymchwil gan dîm o archeolegwyr mewn dau leoliad yn Sir Benfro, oedd yn gweithio ar dystiolaeth a ddarganfuwyd gan ddaearegwyr. Mae’r ymchwil yma yn helpu i egluro sut cafodd y cerrig eu cloddio a’u cludo.

Mae’r ymchwil newydd gan y tîm, a gyhoeddwyd heddiw yn Antiquity yn cyflwyno tystiolaeth fanwl o gloddio ym mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro, sydd yn helpu i ateb cwestiynau ynglŷn â pham, pryd a sut yr adeiladwyd Côr y Cewri.

Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Yr Athro Mike Parker Pearson:

“Mae hon wedi bod yn gyfle gwych i archeolegwyr a daearegwyr i gydweithio. Mae’r daearegwyr wedi gallu ein harwain at yr union fan y cloddiwyd cerrig Côr y Cewri.”

Ymatebodd y Daearegwr a Cheidwad Gwyddorau Naturiol Amgueddfa Cymru, Richard Bevins gan ddweud:

“Dechreuodd y stori yma yn 2011, pan gadarnhaodd Rob Ixer a fi union leoliad rhai o’r cerrig glas o Gylch y Cewri. Fe wnaeth ein gwaith yng Ngharn Goedog a Chraig Rhos y Felin barhau yn y gobaith y byddai cydweithwyr yn medru darganfod gwybodaeth newydd am y cerrig glas. Diolch i Mike Parker Pearson a’i dîm, mae hyn nawr yn wir.

“Ac mae’r stori’n parhau. Rydym wrthi’n dadansoddi darganfyddiadau daearegol pellach y gobeithiwn ei rannu yn y dyfodol agos.” 

Mae’r tîm o wyddonwyr yn cynnwys ymchwilwyr o UCL, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Bournemouth, Prifysgol Southampton, Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.

Gellir darllen y stori lawn yma: <http://www.ucl.ac.uk/news/news-articles/1215/071215-stonehenge-bluestone-quarries>