Datganiadau i'r Wasg

Myfyrwyr yn Gwneud a Thrwsio mewn cystadleuaeth boblogaidd

Mae myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi bod yn arddangos eu creadigrwydd yng nghystadleuaeth flynyddol y colegau yn Amgueddfa Wlân Cymru.

Enillwyr 2015 - Cyntaf - Hannah Bryant, Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr

Mae’r project hwn yn ganlyniad i bartneriaeth flynyddol rhwng y Brifysgol a’r Amgueddfa, lle caiff myfyrwyr eu gwahodd i ymateb i friff ar thema. Thema eleni oedd Gwneud a Thrwsio ac mae’n rhan o’r gweithgareddau o gwmpas Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.

Bydd y broses yn dechrau gydag ymweliad â’r Amgueddfa gan y myfyrwyr i gael ysbrydoliaeth o’r casgliadau ac arddangosfeydd, cyn rhoi eu sgiliau ar waith i greu darn o gelf neu gynnyrch allai gael ei werthu yn siop yr Amgueddfa.

Caiff y darlun cychwynnol ei yrru i’r Amgueddfa, lle caiff rhestr fer ei llunio a’r tri chynnig gorau’n cael eu gwobrwyo.

Wrth siarad am lwyddiant y gystadleuaeth, dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa, Ann Whittall: “Dyma’r wythfed flwyddyn i ni weithio â’r Brifysgol ac mae’r fenter yn mynd o nerth i nerth. 

“Mae’n wych gallu rhoi’r cyfle i fyfyrwyr talentog a chreadigol arddangos eu gwaith mewn amgueddfa genedlaethol, ac mae’n ffordd bwysig o ddefnyddio’r gorffennol i ddylanwadu ar y dyfodol ac ysbrydoli dylunwyr modern,” ychwanegodd. 

Roedd Laura Thomas, Cyd-arweinydd Cwrs a Thiwtor Tecstilau Gweuedig yng Ngholeg Celf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr, wrth ei bodd â’r canlyniad. Dywedodd: “Mae myfyrwyr a staff bob amser yn mwynhau mynd i’r afael â chystadleuaeth flynyddol Amgueddfa Wlân Cymru, fel rhan o’n hastudiaethau ail flwyddyn. 

“Rydym yn falch iawn o Hannah Bryant, enillydd y gystadleuaeth eleni gyda’i dehongliad medrus ac apelgar o’r thema Gwneud a Thrwsio.

“Fel gwehydd arbenigol, cymerodd y cyfle i ddysgu’r dechneg Gymreig eiconig ‘brethyn dwbl’, gan ddefnyddio pletiau strwythurol a chymysgu lliwiau cynnil. Dyma ychwanegiad gwych i’w CV, fydd gobeithio’n ei helpu i ddilyn gyrfa fel dylunydd tecstilau wedi iddi raddio.”

DIWEDD

Enillwyr 2015

Cyntaf

Hannah Bryant - Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr am ei samplau cymhleth wedi’u hysbrydoli gan ddannedd olwynion mewn peirianwaith diwydiannol.

Ail

Stacey Mead – Coleg Celf Abertawe am ei hymateb i’r briff wrth gynhyrchu tri llyfr nodiadau.

Trydydd

Nicole Watkins – Coleg Celf Abertawe am ei hymateb i’r briff wrth gynhyrchu delweddau ar gyfer calendr.