Datganiadau i'r Wasg

Ymateb gan Amgueddfa Cymru i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynglyn a'i chyllideb

“Fel pob sefydliad sector cyhoeddus arall, rydym eisoes wedi teimlo pwysau’r toriadau ariannol ac wedi gorfod cymryd penderfyniadau anodd dros y tair blynedd diwethaf oherwydd cyllideb weithredol lai. Rydym nawr yn wynebu toriad pellach o £1m (4.7%) i’n cyllideb fydd yn arwain yn anochel at oblygiadau pellach i’n gwasanaethau i’r cyhoedd.   

“Serch hynny, wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru, fe wnawn ein gorau i barhau i ddarparu arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau o’r safon uchaf, i’n 1.7 miliwn o ymwelwyr.

“Mae ein gwaith gyda phartneriaid a chymunedau hefyd yn parhau’n flaenoriaeth. Mae tystiolaeth gref i gael bod diwylliant yn gallu gweddnewid dyheadau a helpu newid bywydau.

“Byddwn yn parhau i frwydro i warchod dyfodol Amgueddfa Cymru a diogelu’r casgliadau cenedlaethol ar rhan pobl Cymru.”