Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru yn denu twristiaid

 

Twristiaid sy’n ymweld â saith lleoliad Amgueddfa Cymru yn cynyddu 26%

 

 

 

Mae’r niferoedd sy’n ymweld ag Amgueddfa Cymru o dramor wedi cynyddu’n sylweddol dros y tair mlynedd ddiwethaf. Mae’r nifer o dwristiaid o dramor wedi cynyddu o 121,000 yn 2012 i 152,000 yn 2015, yn ôl ymchwil gan Beaufort Research a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni. 

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd oedd yr atyniad mwyaf poblogaidd i dwristiaid rhyngwladol gyda chwarter yr ymwelwyr o dramor (25%). Roedd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru hefyd yn boblogaidd gyda 20% yr ymwelwyr o dramor.

 

Roedd cynydd hefyd yn y nifer o ymwelwyr o weddill y DU, o 27% dair mlynedd yn ôl i 34% eleni. Yr amgueddfa a ddenodd y mwyaf o’r grŵp penodol hwn oedd Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis gyda dros ddwy ran o dair o ymwelwyr eleni yn dwristiaid o’r DU. Denodd Big Pit 48% ac Amgueddfa Wlân Cymru 36%.

 

Mae cynnydd yn yr ymwelwyr tramor wedi bod mewn atyniadau treftadaeth eraill yng Nghymru hefyd gyda Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn profi cynnydd o 3% mewn twristiaid rhyngwladol dros fisoedd Gorffennaf ac Awst 2015 o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2013. Roedd 19% o holl ymwelwyr Cadw yn ymwelwyr tramor, gyda’r canrannau uchaf yn dod o’r UDA (4%), Yr Almaen (3%), Awstralia (2%), Ffrainc (2%) a’r Iseldiroedd (2%).

 

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

 

“Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod gan ymwelwyr o dramor ddiddordeb yn amgueddfeydd Cymru, ac yn brawf o safon ein casgliadau a’n harlwy i ymwelwyr.

 

“Mae amgueddfeydd yn atyniad mawr i dwristiaid ac yn elfen bwysig o hyrwyddo treftadaeth ein gwlad, gan annog pobl i wario yma a chodi proffil Cymru yn rhyngwladol.

 

“Rydym yn disgwyl i broject ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru roi amgueddfeydd Cymru ar y map hefyd, a denu ymwelwyr ychwanegol yn y dyfodol. Bydd nifer o’r rhain o’r tu hwnt i Gymru ac yn rhoi hwb ychwanegol i economi’r wlad.”

 

Mae pobl Cymru yn parhau i ymweld â’u hamgueddfeydd cenedlaethol hefyd. Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe a ddenodd y canran uchaf o ymwelwyr o Gymru (68%), gyda Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn ail.

 

Mae’r diwydiant twristiaeth yn mynd o nerth i nerth gyda ffigyrau 2015 yn dangos twf ers llynedd – blwyddyn wnaeth dorri record yng Nghymru. Mae ffigyrau diweddaraf Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ar gyfer Ionawr i Awst yn dangos bod y nifer o nosweithiau a dreuliwyd yng Nghymru gan ymwelwyr o’r DU wedi cynyddu 4% a gwariant wedi cynyddu 9%. Mae’r ffigyrau’n dangos bod Cymru wedi croesawu 137,000 o ymwelwyr tramor yn chwarter cyntaf 2015, cynnydd o 5.4% o’i gymharu â chwarter cyntaf 2014.