Datganiadau i'r Wasg

Enwi deinosor Cymreig newydd

Cyhoeddi papur yn rhoi enw a disgrifiad swyddogol i’r deinosor Jwrasig hynaf yn y DU

Darganfuwyd deinosor Cymreig ar draeth ger Penarth, Bro Morgannwg y llynedd. Bellach mae’n cael ei arddangos drachefn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a hynny dan ei enw swyddogol – Dracoraptor hanigani. Draig-leidr yw ystyr Dracoraptor gan fod draco, neu’r ddraig, yn symbol o Gymru. Mae enw’r rhywogaeth hefyd yn cydnabod Nick a Rob Hanigan, y ddau frawd a ganfu’r ffosil a’i roi yn rhodd i Amgueddfa Cymru.

 

Caiff ei ddisgrifio fel y ‘Deinosor Jwrasig hynaf: neotheropod gwaelodol o gyfnod Hettangaidd Prydain Fawr’ gan David Martill, Steven Vidovic, Cindy Howells a John Nudds yn y papur ar y cyfnodolyn ar-lein Journal PLoS ONE.  Erthygl llawn ar gael yma http://dx.plos.org/10.1371/journal.pone.0145713

 

Mae cyfle i weld y ffosil ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yno hefyd, yn cael ei ddangos am y tro cyntaf, bydd troed deinosor a ddarganfuwyd gan Sam Davies o Ben-y bont ar Ogwr, myfyriwr palaeontoleg ym Mhrifysgol Portsmouth. Canfu Sam ddau flocyn sydd wedi’u paratoi i ddatgelu esgyrn troed mewn cyflwr hynod, ac wedi cadw’u osgo gwreiddiol.

Gwnaed y darganfyddiad gwreiddiol gan y brodyr Nick a Rob Hanigan wrth hela ffosilau ar draeth Larnog wedi i stormydd gwanwyn 2014 daro arfordir Bro Morgannwg. Wrth archwilio cwymp creigiau ar y traeth, dyma weld nifer o flociau rhydd ag ynddynt ddarnau o sgerbwd deinosor bach. Dyma gasglu’r sbesimen oedd yn cynnwys penglog, dannedd miniog a chrafangau.

Cafodd yr esgyrn ffosiledig eu canfod wedi’i gwasgaru dros bum darn o graig, ac er bod rhai wedi’u cadw yn eu safle cywir, roedd eraill wedi’u gwahanu a’u gwasgaru gan bysgod a draenogod môr sydd hefyd wedi’u ffosileiddio gyda’r esgyrn.

Bu Nick a Rob wrthi’n ofalus yn paratoi’r sbesimen cyn cysylltu â Cindy Howells, curadur palaeontoleg Amgueddfa Cymru. Llwyddodd hi, ynghyd ag arbenigwyr deinosor o Brifysgolion Portsmouth a Manceinion, i ddadansoddi’r dannedd a’r esgyrn. Llwyddodd y tîm i gadarnhau fod y deinosor hwn yn gigysydd o’r grŵp theropodau. Mae’n debyg hefyd mai deinosor ifanc ydoedd gan fod rhai o’r esgyrn heb eu ffurfio’n llawn eto.

Roedd y deinosor Cymreig yn gefnder pell i Tyrannosaurus rex ac yn byw ar ddechrau’r Cyfnod Jwrasig (201 miliwn o flynyddoedd yn ôl) a dyma o bosib y deinosor Jwrasig hynaf yn y byd. Anifail bach, tenau a chwim oedd hwn, prin 70cm o daldra a tua 200cm o hyd gyda chynffon hir i gadw cydbwysedd. Pan oedd yn crwydro’r Ddaear roedd de Cymru yn ardal arfordirol gyda hinsawdd gynnes, a deinosoriaid yn dechrau amrywio. Mae’n perthyn i’r Coelophysis oedd yn byw rhyw 203 i 196 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn ardal sydd erbyn hyn yn dde-orllewin Unol Daleithiau America.

Er bod dannedd ac esgyrn deinosoriaid wedi eu darganfod yn ne Cymru yn y gorffennol ger Penarth, Pen-y-Bont, a’r Bont-faen, y deinosor newydd hwn yw’r sgerbwd therapod cyntaf i gael ei ddarganfod. Dafliad carreg i ffwrdd yn y Barri mae un o’r casgliadau hynaf o olion traed deinosor yn Ewrop, yn dyddio i ganol y Cyfnod Triasig oddeutu 215 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Nick a Rob Hanigan am eu haelioni yn rhoi y sbesimen hynod hwn yn rhodd i gasgliad Amgueddfa Cymru, i’w gadw er budd cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydyn ni wrth ein bodd i allu arddangos y ffosil unwaith eto yn y brif neuadd. Bu’n boblogaidd dros ben ym misoedd yr haf, a bydd y droed a ganfuwyd yn ddiweddar yn atyniad pellach. Gobeithiaf y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am y rhywogaeth rhyfeddol, newydd hon – deinosor 200 miliwn o flynyddoedd oed a ganfuwyd yma yn ne Cymru.”

Cefnogir rhaglen arddangosfeydd a digwyddiadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. 

– Diwedd –