Datganiadau i'r Wasg

Astronot Cyntaf Prydain yn difyrru’r dorf yn y Glannau

Bu’r gwyddonydd ac astronot Helen Sharman (OBE) yn difyrru’r dorf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ddiweddar wrth roi sgwrs arbennig o ddiddorol am ei phrofiadau yn y gofod.

Roedd pob tocyn wedi’i werthu ar gyfer y digwyddiad ar ddydd Sadwrn 30 Ionawr, lle bu Helen yn rhannu rhai o’i straeon rhyfeddol.

Gweithio fel fferyllydd i’r cwmni siocled Mars oedd Helen pan glywodd hysbyseb ar y radio yn gofyn yn syml: “Astronaut wanted, no experience necessary”. Roedd yn un o 13,000 wnaeth ateb, ac wedi proses drwyadl, hi gafodd ei dewis i fod y person cyntaf o Brydain yn y gofod.

Wedi 18 mis o hyfforddiant dwys yn Star City ger Moscow, ar 18 Mai 1991 cafodd ei lansio i’r gofod yn y capsiwl Sofietaidd Soyuz TM-12.

Yn ystod y sgwrs bu Helen yn datgelu manylion ynghylch ei thaith i Mir, gan ddisgrifio’r lansio, sut deimlad yw byw heb ddisgyrchiant a gweithio yn y gofod. Soniodd hefyd am y profiad o ddod yn ôl i’r Ddaear a’r blynyddoedd yn dilyn ei thaith fythgofiadwy.

“Roedd hi’n bleser ac yn anrhydedd mawr i groesawu Helen Sharman i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Sadwrn,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry. “Roedd ganddi straeon syfrdanol a chafodd y gynulleidfa flas gwirioneddol ar y profiad o fyw a gweithio yn y gofod.”

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Helen Sharman: “Cefais amser gwych wrth ymweld ag Abertawe a gweld yr arddangosfa Cymru yn y Gofod. Mae’n bleser cael rhannu fy mhrofiadau o fod yn astronot ac roedd hi’n hyfryd cael cyfarfod cymaint o bobl, gan gynnwys rhai o astronots a gwyddonwyr Cymreig y dyfodol!”

Roedd asiant Helen, Diana Boulter o DBA Speakers, wrth ei bodd â’r noson. Dywedodd: “O wybod am bwysigrwydd Cymru yn hanes archwilio’r gofod, roeddwn yn hynod o falch bod modd i Helen ddod i Abertawe. Roedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn lleoliad perffaith a phawb yn gyfeillgar iawn. Llongyfarchiadau ar lwyddiant y noson!”

DIWEDD