Datganiadau i'r Wasg

Chwaraewyr y People’s Postcode Lottery yn cynyddu eu cefnogaeth i Amgueddfa Cymru gyda £25,000 ychwanegol

Pleser Amgueddfa Cymru yw cyhoeddi bod chwaraewyr y People’s Postcode Lottery wedi dyfarnu £1.425 miliwn yn ychwanegol dros yr hirdymor i’w helusennau dewisedig. Mae Amgueddfa Cymru ymhlith 57 elusen fydd yn derbyn £25,000 yn ychwanegol gan chwaraewyr y loteri.

Derbyniodd Amgueddfa Cymru y newyddion am y nawdd ychwanegol yng Nghinio Elusennol y People’s Postcode Lottery 2016. Cynhaliwyd y digwyddiad ar ddydd Iau 28 Ionawr yn yr Assembly Rooms yng Nghaeredin – dathliad o waith caled yr elusennau sy’n elwa o gefnogaeth y People’s Postcode Lottery.

Yn bresennol ar y noson oedd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, y cyflwynydd teledu Fiona Philips a’r Fonesig Ellen MacArthur. Hefyd yn perfformio ar y noson oedd y seren, Dionne Bromfield.

Mae’r nawdd yn sicrhau y gall yr Amgueddfa barhau i gynnig rhaglen ddynamig o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd i ymwelwyr o bob math.

Diolch i nawdd allweddol y People’s Postcode Lottery, bydd 2016 yn flwyddyn fawr o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r flwyddyn yn agor gyda Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol sy’n cynnwys het, chwip a siaced Indiana Jones. Yn ddiweddarach bydd Wriggle yn arddangosfa gyffrous i’r teulu cyfan yn edrych ar bwysigrwydd mwydod yn yr ardd ac ar lan y môr, a chasgliad o ddarluniau Quentin Blake ar gyfer llyfrau Roald Dahl yn dathlu canmlwyddiant geni yr awdur poblogaidd o Gymru. Bydd nawdd y People’s Postcode Lottery yn cael defnydd da.

Mae arddangosfa newydd sbon Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 30 Hydref 2016, yn dangos eitemau hynod o Hollywood law yn llaw â chanfyddiadau hynafol. O benglogau grisial i fymïod yr Aifft.

Mae’r People’s Postcode Lottery wedi bod yn hael eu cefnogaeth i Amgueddfa Cymru ers 2013, a’u nawdd wedi galluogi’r Amgueddfa i gynnig sgiliau, hyder a phrofiadau newydd i ymwelwyr – yn enwedig plant a phobl ifanc mewn perygl o gael eu gwahardd o addysg ffurfiol – er mwyn hybu uchelgais a’u helpu i anelu at addysg bellach a chwilio am swyddi.

Yn ogystal a chefnogi’r rhaglen arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae cyfran o nawdd y People’s Postcode Lottery yn talu cyflog dau saer maen yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae nhw’n gweithio gydag adeiladwyr arbenigol yr Amgueddfa i ail-greu llys o oes y tywysogion yn seiliedig ar Lys Rhosyr, lleoliad archaeolegol ar Ynys Môn.

Fel rhan o Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol, bydd Amgueddfa Cymru yn gweithio gydag elusen leol yn Nghaerdydd – ‘Action Caerau Ely, Getaway and CAER Heritage’ fydd yn helpu’r gymuned leol i guradu casyn arddangos i gyd-fynd â’r arddangosfa. Bydd hwn yn gyfle i’r cyfranogwyr ennill sgiliau a hyder, ac ymwneud â’u hamgueddfa leol mewn ffordd hollol newydd.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Mae’r People’s Postcode Trust wedi bod yn hael eu cefnogaeth i Amgueddfa Cymru ers 2013, yn rhoi’r cyfle i ni newid y modd y byddwn yn ymgysylltu â phobl Cymru drwy gyfrwng diwylliant.

“Hoffwn ddiolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery – yn enwedig y chwaraewyr yng Nghymru – am eu cefnogaeth barhaus. Bydd y £25,000 yn amhrisiadwy. Mae’r nawdd yn sicrhau ein bod yn medru parhau i gynnig rhaglen ddynamig o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd megis Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol mewn cyfnod lle mae cyrff cyhoeddus yn dioddef effeithiau cynni cenedlaethol.

“Gyda chefnogaeth y People’s Postcode Lottery, gallwn barhau i ymgysylltu ag ymwelwyr a’r gymuned ehangach, gan roi cyfle iddynt ddysgu am eu diwylliant a’u treftadaeth, ac i gyfrannu ato.”

 

Dywedodd Clara Govier, Pennaeth Elusennau y People’s Postcode Lottery: “Wrth i’r People’s Postcode Lottery barhau i dyfu mae’r cyfanswm gaiff ei roi i achosion da gan ein chwaraewyr hefyd yn cynyddu. Rydym yn hynod falch bod ein chwaraewyr yn parhau i gefnogi datblygiad cymaint o achosion clodwiw.”

 

Daw’r nawdd ychwanegol hwn mewn cyfnod cyffrous i’r loteri elusennol, sy’n dathlu ei phen blwydd yn 10 oed. Mae miloedd o chwaraewyr lwcus wedi ennill dros y ddegawd ddiwethaf ac wedi darparu nawdd allweddol i elusennau di-ri ledled y DU a thu hwnt. Dyfernir isafswm o 27.5% i elusennau ac achosion da, ac mae dros £99.6 miliwn wedi’i ddyfarnu hyd yn hyn.

 

-DIWEDD-

Am ragor o wybodaeth a ffotograffau, cysylltwch â Lleucu Cooke ar (029) 2057 3175 / lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.

 

NODIADAU I OLYGYDDION

Amgueddfa Cymru

Caiff yr arddangosfa ei churadu gan Amgueddfa Cymru gyda chymorth curadurol gan Musée du Quai Branly, Amgueddfa Manceinion, yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfeydd, Orielau ac Archifdai Bryste a’r Lucas Museum of Narrative Art. Caiff ei chefnogi’n ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Gallwch brynu tocynnau ar-lein ymlaen llaw neu yn yr Amgueddfa ar y diwrnod. Pris llawn £7; gostyngiadau £5; ac mae mynediad am ddim i blant 16 oed neu iau. Mae mwy o fanylion ar ein gwefan (www.amgueddfacymru.ac.uk).

Bydd yr arddangosfa ar agor o 10am bob dydd heblaw dydd Llun (ac eithrio dyddiau Llun Gwyliau Banc), gyda’r mynediad olaf am 4pm.

Diolch i gefnogaeth llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa ei hun.

Bydd gweithgareddau addysg a digwyddiadau cysylltiedig yn cael eu datblygu gan Amgueddfa Cymru, a bydd hyn yn rhan o raglen ehangach yr Amgueddfa i gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru, Cyfuno: Trechu tlodi trwy ddiwylliant: http://gov.wales/docs/drah/publications/150521-fusion-cy.pdf.

Mae themâu Croeso Cymru yn ceisio rhoi ffocws ar gyfer buddsoddi, datblygu projectau a marchnata, ac yn 2016 bydd yn canolbwyntio ar Flwyddyn Antur. Bydd 2016 yn ychwanegu at gyfleoedd a datblygiadau newydd a dros 10 mlynedd o fuddsoddi parhaus i wneud Cymru yn un o brif gyrchfannau antur y DU. 

 

Cefnogir rhaglen arddangosfeydd a gweithgareddau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

 

People’s Postcode Lottery

  • Loteri elusennol yw’r People’s Postcode Lottery. Gall perchnogion codau post lwcus ennill gwobrau ariannol tra’n codi arian ar gyfer elusennau ac achosion da ledled y DU a thu hwnt.

  • Rheolwr Loteri Allanol yw’r People’s Postcode Lottery sy’n rhedeg sawl loteri cymdeithas ar ran achosion gwahanol ac sy’n cefnogi amrywiaeth o achosion da. I weld pa loteri cymdeithas sy’n rhedeg bob wythnos, ewch i www.postcodelottery.co.uk/society.

  • Caiff Postcode Lottery Limited ei reoleiddio gan y Comisiwn Gamblo dan drwydded nr 829-N-102511-007 ac 829-R-102513-007, yn ddyddiedig ar 06 Tachwedd 2012. Swyddfa Gofrestredig: Titchfield House, 69/85 Tabernacle Street, London, EC2A 4RR.

  • Mae chwaraewyr y People’s Postcode Lottery yn cefnogi’r Ymddiriedolaethau canlynol – Postcode African Trust, Postcode Animal Trust, Postcode Care Trust, Postcode Children Trust, Postcode Community Trust, Postcode Culture Trust, Postcode Dream Trust, Postcode Global Trust, Postcode Green Trust, Postcode Heroes Trust, Postcode Planet Trust, People’s Postcode Trust a Postcode Sport Trust. Ariennir yr Ymddiriedolaethau yma’n gyfan gwbl gan y chwaraewyr ac maent yn cefnogi amrywiaeth o achosion da. Am ragor o fanylion am yr elusennau, ewch i: www.postcodelottery.co.uk/Charities.

  • Mae 55p o bob tocyn £2 yn mynd at achos da ac mae’r chwaraewyr wedi codi £99.6 miliwn i achosion da ledled y DU.

  • Cynhelir y loteri bum gwaith y mis a dyfernir gwobrau bob diwrnod. Pris pob tocyn yw £2 a delir yn fisol drwy ddebyd uniongyrchol. Am ragor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i www.postcodelottery.co.uk/Prizes.

  • Uchafswm gwobr pob tocyn yw £400,000 neu 10% o elw’r loteri.

  • Gall chwaraewyr ymaelodi ar-lein drwy dalu â debyd uniongyrchol, cerdyn credyd neu PayPal ar wefan www.postcodelottery.co.uk, neu drwy ffonio 0808 10-9-8-7-6-5.