Datganiadau i'r Wasg

Delweddau rhyfeddol gwobr Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn cyrraedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bydd arddangosfa fyd-enwog Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, sydd ar fenthyg o’r Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain, yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 27 Chwefror i 24 Ebrill 2016 – 100 delwedd o ddirgelion byd yr anifeiliaid a thirluniau rhyfeddol.

Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yw’r wobr ffotograffiaeth fwyaf o’i bath ac mae wedi bod yn llwyfan rhyngwladol i rai o olygfeydd mwyaf rhyfeddol a heriol byd natur ers dros hanner canrif. Er lansio ym 1965 gyda 361 o geisiadau mae’r gystadleuaeth wedi mynd o nerth i nerth, ac heddiw mae’n denu 42,000 o geisiadau o 96 o wledydd. Bydd y casgliad o 100 delwedd gwobrwyog eleni yn mynd ar daith ryngwladol, yn galluogi pobol ar chwe chyfandir i’w gweld.

Dreigiau Comodo’n brwydro, cyfrinachau’r crëyr bach, wiwerod yn yfed a llawer mwy – bydd y delweddau a ddaeth i’r brig yn cyflwyno’r cyfoeth o fywyd gwyllt ar ein planed ac yn ein herio i newid ein ffordd o feddwl am fyd natur.

 

Dewiswyd y goreuon gan banel o feirniaid sy’n gweithio yn y maes, gan wobrwyo creadigrwydd, celfyddyd a medr technegol.

 

Yn 2015 enwyd y ffotograffydd amatur o Ganada, Don Gutoski, yn Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn gan banel o feirniaid rhyngwladol. Roedd ei ddelwedd brydferth ac iasol, Tale of Two Foxes, yn bortread o galedi bywyd yng nghynefin is-arctig Penrhyn Churchill, Canada.

Ffotograffydd 14 oed o’r Weriniaeth Siec oedd Ffotograffydd Bywyd Gwyllt Ifanc y Flwyddyn. Enillodd Ondrej Pelánek y wobr am Fighting Ruffs a dynnwyd yn Norwy, ar dwndra Varanger.

Y ddwy ddelwedd hon oedd y goreuon o 18 enillydd categori, pob un yn dangos natur ar ei orau, o fawredd daearyddol i gyfrinachau byd yr anifeiliaid.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.