Datganiadau i'r Wasg

Sbort a Sbri yn Amgueddfa Wlân Cymru

Bydd hwyl i’r teulu cyfan yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-Fach Felindre dros y penwythnos (dydd Sadwrn 5 Mawrth).

Rhwng 10am-3pm bydd yr Amgueddfa yn croesawu ymwelwyr i fwynhau crefftau a straeon, modelu balŵns, gemau a dawnsio – digon i ddiddanu’r teulu cyfan.

Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim ar y cyd â Menter Gorllewin Sir Gâr, Twf, Fforwm Ieuenctid Ysgol Gyfun Emlyn, Gwasanaethau Cymorth Sir Gâr, Coleg Ceredigion a Cered.

Bydd y digwyddiad hefyd yn dathlu Blwyddyn Antur Cymru, gyda’r plant yn cael eu hannog i wisgo fel eu hoff arwr (bydd yr enillydd yn ennill gwobr!)

Bydd digonedd o amser hefyd i grwydro’r Amgueddfa a dilyn y Stori Wlanog – gweithgaredd addysgiadol, llawn hwyl sy’n dilyn yr holl broses o greu gwlân o ddafad i ddefnydd.

“Mae’n bleser cael llwyfannu’r digwyddiad yma ar ddydd Sadwrn,” meddai Joanna Jones, Rheolwr Addysg yr Amgueddfa. “Mae’n gyfle gwych i deuluoedd alw draw i gymryd rhan yn ein gweithgareddau ymarferol, ac hefyd i weld yr Amgueddfa a’r holl beirianwaith ac offer hanesyddol wrth eu gwaith.”

Cynhelir Diwrnod Hwyl i’r Teulu ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth rhwng 10am a 3pm yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3070.