Datganiadau i'r Wasg

Dathlu diwylliant Cymru ar y Glannau

Y penwythnos hwn, bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dan ei sang wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn o gerddoriaeth werin a thwmpath, dreigiau a chennin Pedr.

Cynhelir ein Parti Dydd Gŵyl Ddwi ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth rhwng 12pm ac 8pm.

Drwy gydol y dydd bydd llond lle o grefftau i blant, gan gynnwys creu byntin cennin Pedr a draig sy’n gleidio – a bydd cyfle i drio dawns y glocsen.

Hefyd, caiff ein hymwelwyr fwynhau perfformiadau byw gan fandiau gwerin Cymreig gan gynnwys RAFFDAM, Ric-a-Do, Al Lewis, a bydd comedi gan y digrifwr Noel James. 

Yna ar ddydd Sul 6 Mawrth, beth am ddathlu Sul y Mamau mewn steil yn ein sesiwn grefftau am ddim rhwng 12.30pm a 3.30pm? Deuluoedd, dewch yn llu i greu fframiau lluniau magnetig o ffyn lolipop.

“Rydym ni wrth ein bodd gyda’r ystod eang o ddigwyddiadau sydd ar gael yma i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni” meddai’r Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry.

“Bydd yn gyfle i bob aelod o’r teulu fwynhau prynhawn o hwyl Cymreig am ddim – galwch draw am awr neu ddwy, neu arhoswch gyda ni drwy’r prynhawn!”

Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3600.