Datganiadau i'r Wasg

Penodi Athro o Brifysgol Caerdydd yn Bennaeth Ymchwil Amgueddfa Cymru

Mae'r Athro Bella Dicks, o Brifysgol Caerdydd, wedi cael ei phenodi'n Bennaeth Ymchwil Amgueddfa Cymru. 

Mae Bella yn Athro Cymdeithaseg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a bydd yn ymuno â'r Amgueddfa ar 31 Mai 2016 am secondiad tair blynedd. Bydd y rôl hon yn galluogi Bella i ddefnyddio ei phrofiad a'i chryfderau ymchwil presennol i gefnogi Amgueddfa Cymru wrth iddi wireddu ei nod o fod yn sefydliad a gaiff ei arwain gan ymchwil.

Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Rydym yn falch iawn o benodi Bella Dicks fel ein Pennaeth Ymchwil cyntaf.  Bydd ei hymrwymiad dros flynyddoedd lawer i ymchwilio i rôl amgueddfeydd yn y gymdeithas, a'i chyflawniadau fel uwch-academydd, yn galluogi'r Amgueddfa i rannu ein gwaith ymchwil blaenllaw â chynulleidfaoedd ehangach, ac i adeiladu partneriaethau gyda phrifysgolion ledled Cymru."

Mae diddordebau ymchwil Bella yn cynnwys treftadaeth, amgueddfeydd, datblygu cymunedol, anfantais gymdeithasol, astudiaethau trefol a methodoleg ansoddol. Roedd ei llyfr Heritage, Place and Community, a gyhoeddwyd yn 2000, yn olrhain y prosesau a ddilynwyd i weddnewid un o byllau glo de Cymru yn amgueddfa 'hanes byw', ac roedd Culture on Display, a gyhoeddwyd yn2004, yn gwerthuso'r pwyslais cyfredol a roddir ar adfywio yng nghyd-destun creu lle 'atyniadol'. Yn fwy diweddar, mae Bella wedi ymgymryd â gwaith ymchwil i adfywio, yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).

Mae Bella wedi bod yn aelod o staff academaidd Prifysgol Caerdydd ers 1993, a daeth yn Athro yn 2014. Wrth siarad am ei phenodiad newydd, meddai: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at archwilio'r byd hynod ddiddorol hwn o wrthrychau ac ystyron sydd mor bwysig i bobl Cymru a'u hymdeimlad o'u gorffennol eu hunain. Bydd yn braf cael cwrdd â'r staff sy'n gweithio yn y safleoedd gwahanol a chael gwybod beth sy'n gwneud pob amgueddfa unigol yn unigryw. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i bwyso a mesur syniadau newydd a'r cysylltiadau rhwng y gwrthrychau yn y casgliadau a bywydau a hanes pobl Cymru.”

Croesawyd y penodiad gan yr Athro Amanda Coffey, pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Rwy'n falch iawn o benodiad Bella fel Pennaeth Ymchwil cyntaf yr Amgueddfa, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi yn ei rôl newydd.”

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i fynd y tu hwnt i'w hadeiladau, gan ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, a gweithio gyda nhw. Bydd rôl Bella yn cefnogi'r gwaith hwn, ac yn rhoi hwb i enw da Amgueddfa Cymru fel arweinydd ymchwil, yn lleol ac yn fyd-eang.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Prifysgol Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod mewn asesiadau annibynnol y llywodraeth fel un o’r prifysgolion addysgu ac ymchwil mwyaf blaenllaw ym Mhrydain ac mae’n aelod o Russell Group, sef prifysgolion mwyaf ymchwil ddwys y DU.  Gosododd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 y brifysgol yn y pumed safle ymhlith prifysgolion y Deyrnas Unedig o ran rhagoriaeth ymchwil. Ymhlith ei staff academaidd y mae dau Nobel Laureate, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel 2007 ar gyfer Meddygaeth, Canghellor y Brifysgol, Syr Martin Evans.  Cafodd ei sefydlu drwy Siarter Frenhinol ym 1883, a heddiw mae’r Brifysgol yn cyfuno cyfleusterau modern trawiadol, ac ymagwedd ddynamig tuag at addysgu ac ymchwil.  Mae arbenigedd eang y Brifysgol yn cynnwys: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol; y Coleg Gwyddorau Biofeddygol  a Gwyddorau Bywyd; a’r Coleg Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ynghyd ag ymrwymiad hirsefydlog i ddysgu gydol oes.  Mae Sefydliadau Ymchwil blaenllaw Caerdydd yn cynnig dulliau newydd arloesol o ateb problemau dybryd byd-eang. www.caerdydd.ac.uk

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Am ragor o fanylion cysylltwch â:

Victoria Dando

Cyfathrebu a Marchnata

Prifysgol Caerdydd

Ffôn: 02920 879074

Ebost: DandoV2@caerdydd.ac.uk

neu

Catrin Taylor

Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol

Amgueddfa Cymru

Ffon: 029 2057 3185

Ebost: catrin.taylor@amgueddfacymru.ac.uk