Datganiadau i'r Wasg

Ewch ar antur fawr i safleoedd treftadaeth Cymru

I’r rhai sy’n chwilio am benwythnos o antur does dim rhaid edrych ddim pellach na rhai o safleoedd treftadaeth mwyaf eiconig Cymru oherwydd byddant yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau fel rhan o Benwythnos Antur Cymru (dydd Sadwrn, 2 Ebrill a dydd Sul, 3 Ebrill).

 

Mae Cadw, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi dod ynghyd i gynnal nifer o ddigwyddiadau treftadaeth ar safleoedd ledled y wlad fel rhan o Benwythnos Antur Cymru i ddathlu Blwyddyn Antur Croeso Cymru 2016. 

 

O saethyddiaeth, arddangosfeydd dinosoriaid a phicnic i ddigwyddiadau cerddorol, chwedleua a llwybrau marchogion a thywysogesau, mae yna antur i bawb sy’n fodlon mentro!

 

Mae cyfraniad Cadw i’r Penwythnos Antur yn rhan o’i ymgyrch Anturiaethau Hanes i geisio ennyn diddordeb pobl yn hanes Cymru ac i annog pobl i fynd ar antur hanes eu hunain. 

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n wych gweld sefydliadau treftadaeth pwysig Cymru’n gweithio mewn partneriaeth i ddenu ymwelwyr ar y Penwythnos Antur. Gyda chymaint o wahanol ddigwyddiadau ar safleoedd ledled y wlad, mae digonedd o gyfle i ymwelwyr gael eu hanturiaethau treftadaeth eu hunain yn ystod Blwyddyn Antur Cymru.”

Dim ond y dechrau yw’r Penwythnos Antur.  Bydd teuluoedd yn gallu parhau ar eu taith anturus drwy gydol yr haf gyda rhestr newydd sbon o 24 o anturiaethau treftadaeth cwbl ‘epig’, gan gynnwys syllu ar y sêr yn adfeilion yr Abaty sydd yn y cyflwr gorau yng Nghymru, gweld het, chwip a siaced Indiana Jones, creu castell Lego, teithio 300 troedfedd dan ddaear i lofeydd Cymru neu hyd yn oed ymuno â hwylnos ganoloesol fawr yn un o gestyll mwyaf eiconig Cymru.

 

Aiff Ken Skates yn ei flaen: “Gall ymwelwyr barhau i archwilio hanes Cymru drwy gydol yr haf drwy edrych ar y we ar y rhestr newydd o anturiaethau treftadaeth. Rydw i’n annog pawb i ryddhau’r rhan anturus o’u natur a chymryd rhan yn y rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau er mwyn dysgu mwy am hanes rhyfeddol Cymru.”

Digwyddiadau'r Penwythnos Antur (2-3 Ebrill)

Cadw

Llys a Chastell Tre-tŵr

Antur Bwa a Saeth @ Castell Tre-tŵr

2 a 3 Ebrill 2016, 11am - 4pm

£8.00 / £4.20 / £16.20 (teulu)

 

Beth am fyw fel uchelwr yn y 15fed ganrif yn Llys a Chastell urddasol Tre-tŵr gan fynd â’ch doniau gyda’r bwa a saeth i lawnt y Castell i ddangos eich dewrder i bawb.

 

Diwrnod llawn hwyl i deuluoedd sydd eisiau profi gerddi hardd Llys Tre-tŵr fel un o’r bwasaethwr yng ngosgordd y teulu Vaughan, neu fel aelod o osgordd Syr Roger Vaughan a’i deulu yn y 15fed ganrif.

 

Llys a Chastell Tre-tŵr

Cefndir i Briodas Ganoloesol

3 Ebrill 2016,  2pm-3.30pm

£8.00 / £4.20 / £16.20 (teulu)

 

Ydych chi wedi meddwl tybed sut byddai merched ffasiynol y canol oesoedd yn paratoi ar gyfer priodas? Beirdd enwog y cyfnod yn ymbaratoi i gyflwyno eu cerddi ar harddwch a rhodres yr uniad diweddaraf rhwng dau deulu dylanwadol!  Cymerwch gip ar harddwch Llys Tre-tŵr; y neuadd fawr fel lleoliad i wledd briodas helaeth gyda cherddorion yn llenwi’r tŷ â chân.

Sgwrs anffurfiol am seremonïau priodas yn y Gymru ganoloesol a sut byddai teulu fel y Vaughaniaid wedi cynnal seremoni o’r fath yn Llys Tre-tŵr.

Castell Conwy

Diwrnod Antur

3 Ebrill 2016, 12pm-5pm

£7.95 / £5.60 / £21.50 (teulu)

 

Ymunwch â ni yng Nghastell Conwy i ddathlu’r Flwyddyn Antur.  Dewch i fwynhau prynhawn o hwyl ac antur gydag Erwyd La Fol, digrifwas y dref, arddangosfa ymladd cleddyfau, adar ysglyfaethus a beth am ymestyn eich antur i'r dref i gwblhau trywydd y marchog.  Mynediad am ddim i blant mewn gwisg ganoloesol i fwynhau prynhawn llawn hwyl.

Castell Caernarfon

Picnic yn y Castell

2 Ebrill 2016, 11am-4pm

£7.95 / £5.60 / £21.50 (teulu)

 

Dathlwch y Flwyddyn Antur drwy ddod â phicnic i'r teulu yng Nghastell godidog Caernarfon. Rhowch flanced o danoch ar dir y castell a chael blas nid yn unig ar eich bwyd ond hefyd ar awyrgylch y drydedd ganrif ar ddeg. Am antur i blant o bob oed!

Bydd amrywiaeth o adloniant canoloesol ar gael o gwmpas y castell:

  • Cerddoriaeth gan y Syrinx Recorder Group rhwng 12.30 a 1.30
  • Gwarchodwyr y Castell gyda ‘1295 ac ati ...’ a chyfle i recriwtiaid ifanc ddysgu sut i amddiffyn castell gyda bwa hir.
  • Dysgu am fywyd yn yr Oesoedd Canol gyda’n casgliad y gellir gafael ynddo.
  • Gemau canoloesol fel Chwarae Nawtwll.
  • Rhyngweithio â chymeriadau canoloesol a dysgu mwy am hanes Castell Caernarfon a’r Tywysogion Cymreig.

 

I'r rhai mwyaf anturus, bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar Ogofa. Ond y peth gorau yw’r cyfle i chi a’r plant fwyta eich cinio yn y castell! Nid oes angen archebu lle.

Codir y prisiau mynediad arferol - OND caiff plant dan 7 oed ddod am ddim os ydynt mewn gwisg ffansi neu os oes ganddynt bicnic!

Castell Dinbych

Diwrnod Marchogion a Thywysogesau

3 Ebrill 2016, 11am-4pm

£4.00 / £2.80 / £10.80 (teulu)

 

Fel rhan o Flwyddyn Antur 2016, bydd Castell Dinbych yn hwyluso nifer o weithgareddau i ddiddanu pob Marchog a Thywysoges drwy gydol y dydd.

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys Llwybr Marchogion a Thywysogesau, creu eich Tarian Herodrol neu Het Uchel i Dywysoges a phaentio wynebau. 

Daw’r Diwrnod i ben am 2.30pm gyda Gorymdaith y Marchogion a’r Tywysogesau pan gaiff y plant arddangos eu gwisgoedd neu eu tariannau a’u hetiau newydd.

 

 

Amgueddfa Cymru

 

Yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Arddangosfa Trysorau: Anturiaethau mewn Archaeoleg

2 a 3 Ebrill, 10am-5pm (mynediad olaf am 4pm)

£7.00 / £5.00 / am ddim i rai dan 16

 

Camwch i fyd anturwyr enwog er mwyn dadorchuddio trysorau o bob cwr o’r byd mewn arddangosfa newydd gyffrous yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cewch weld trysorau anghyffredin o ddiwylliant poblogaidd, gan gynnwys het, chwip a siaced Indiana Jones, penglogau grisial, aur yr Inca a darganfyddiadau cynnar megis Mymïaid Eifftaidd. Cewch ddarganfod y straeon y tu ôl i ddarganfyddiadau archaeolegol pwysig o wareiddiadau hynafol yr Aifft, Groeg, Rhufain, America Cyn-Golumbaidd a Rapa Nui (Ynys y Pasg), rhai ohonynt erioed wedi’u gweld yng Nghymru o’r blaen.

 

Mae’r arddangosfa’n addas i bawb o'r teulu, a bydd yn cynnwys amrywiaeth o eitemau diddorol a thrysorau o’r bydoedd hynafol yn ogystal ag enghreifftiau mwy diweddar a ddarganfuwyd yng Nghymru. 

 

Archebwch eich tocynnau ar-lein ymlaen llaw ar gyfer yr arddangosfa ysbrydoledig hon er mwyn osgoi cael eich siomi

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Adnabod Artist: Thomas Henry Thomas (1839-1915)

2 a 3 Ebrill, 10am-5pm

Am ddim

 

Arddangosfa fechan ond diddorol i gyflwyno byd Thomas Henry Thomas a aned ym Mhont-y-pŵl yn 1839.  Roedd Thomas yn artist ac yn ddarlunydd amatur brwd a oedd â diddordeb mewn botaneg, daeareg, hanes, archaeoleg a’r hyn a elwir erbyn heddiw yn ethnograffeg. Roedd yn frwd dros y diwylliant a’r hunaniaeth Gymreig, a bu’n flaenllaw wrth sefydlu Amgueddfa Cymru.

 

Ceir delweddau ac eitemau i roi cip a’r fywyd a gwaith y gŵr hynod hwn.

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Arddangosfa Deinosor Cymreig Newydd

2 a 3 Ebrill, 10am-5pm

Am ddim

 

Pa mor anturus ydych chi? Camwch i mewn i'r Amgueddfa Genedlaethol i ddarganfod sgerbwd deinosor newydd Cymru, sy’n cael ei arddangos eto yn ystod y Flwyddyn Antur. Mae’r deinosor tua 200 miliwn o flynyddoedd, a dyma'r deinosor Jwrasig hynaf a ddarganfuwyd yng Nghymru. Mae’n perthyn i grŵp y theropodau sydd hefyd yn cynnwys y Tyrannosaurus rex, er bod y deinosor hwn yn cerdded y ddaear rhyw 130 miliwn o flynyddoedd yn gynharach na’i gefnder enwog

 

Mae’r deinosor Cymreig newydd yn rhywogaeth gwbl newydd na wyddai gwyddonwyr amdani o'r blaen, felly mae’r darganfyddiad yn fwy cyffrous fyth!

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Adnabod Artist: Augustus John

2 a 3 Ebrill, 10am-5pm

Am ddim

 

Dewch i ddysgu mwy am yr artist o Gymru, Augustus John  (1878-1961).  Yn un o artistiaid mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, roedd yn ddarluniwr ac yn lliwiwr penigamp ac yn y cyfnod, ef oedd un o’r artistiaid modernaidd mwyaf cyffrous ym Mhrydain.

Mae’r casgliad hwn yn ddetholiad o baentiadau, lluniau dyfrlliw, darluniau a phrintiau o gasgliad helaeth yr Amgueddfa, ac yn cynnwys lluniau o’i deulu a’i ffrindiau yn ogystal â’i ddiddordeb yn niwylliant y Sipsiwn.

 

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Marchnad Grefftau Sain Ffagan

2 a 3 Ebrill, 10am-5pm

Am ddim

 

I’r rhai sy’n mwynhau siopa gyda rhywfaint o antur, dewch i Farchnad Grefftau Sain Ffagan lle cewch brynu rhywbeth arbennig na fyddai fyth i'w gael ar y stryd fawr. Bydd yn addas i'r teulu cyfan, a chewch gyfle i gyfarfod y crefftwyr a dysgu mwy am eu crefftau wrth iddynt gynnal gweithdai ac arddangosiadau.

 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Arddangosfa N’ad fi’n Angof: Cardiau Post o’r Rhyfel Byd Cyntaf    

2 a 3 Ebrill, 10am-5pm

Am ddim

 

Arddangosfa fach yn dangos amrywiaeth o gardiau post o gasgliadau Amgueddfa Cymru a wnaed, a ysgrifennwyd ac a anfonwyd yn ystod cyfnod cythryblus y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Arddangosfa Bwyd o Bedwar Ban

2 a 3 Ebrill, 10am-5pm

Am ddim

 

Mae’n wir yn werth ymweld â'r arddangosfa ddiddorol hon o brosiect pobl ifanc o Dîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST). Gall ymwelwyr hen ac ifanc ddysgu mwy am ddiwylliant bwyd amrywiol Abertawe, a sut y mae pobl o wahanol gefndiroedd ethnig a ymgartrefodd yn y ddinas wedi dylanwadu arno.

 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Cyfnod Preswyl Gŵyl Ryngwladol Abertawe

2 a 3 Ebrill, 10am-5pm

Am ddim

 

Gellir edrych ar waith Jonathan Arndell, pensaer o Abertawe, fel rhan o Gyfnod Preswyl Gŵyl Ryngwladol Abertawe.

 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Creiriau: Adlewyrchiad ffotosfferaidd o Gymru

2 a 3 Ebrill, 10am-5pm

Am ddim

 

Caiff ymwelwyr weld sut y mae’r artist Matt Wright yn cofnodi gwahanol safleoedd hanesyddol ledled Cymru drwy ddefnyddio technoleg gyfredol i greu cyfres o ffotosfferau 3D anhygoel.

 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Llwybr yr Wy Aur

2 a 3 Ebrill, 10am-4pm

Am ddim

 

Dewch i chwilota’r orielau am ddwsin o wyau aur sy’n cuddio yn y casgliadau.

 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Tyrrau Tal

2 a 3 Ebrill, 1.30pm-3.30pm

Am ddim

 

Gwisgwch eich hetiau adeiladu ar gyfer yr her ddylunio hwyliog a sigledig hon. Defnyddiwch K’Nex i adeiladu tŵr tal a chadarn. Ceisiwch ei godi mor uchel â phosibl cyn iddo gwympo. Bydd gwobrau i’r dyluniad gorau.

 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dewch i Ganu!

2 Ebrill, 11am

Am ddim

 

Cyfle i ymuno â’r cerddor Delyth Jenkins bob mis i ddysgu Cymraeg drwy gyfrwng cân mewn ffordd hwyliog ac anffurfiol – gyda phaned o de am ddim!

 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Hanesion Hyll: Ceidwaid y Castell

2 Ebrill, 1pm a 3pm 

Am ddim

 

Ymunwch â’r ‘Merrymakers’ ar daith ddigri a dwl drwy hanes Cymru. Bydd y sioe’n cynnwys ymladd cleddyfau, tywysogion sy’n glaf o gariad, iarllod ymffrostgar, dawnsio pibgorn, caneuon, gwrachod, acenion amheus a rhai o'r jôcs gwaethaf erioed. Taith garlamus drwy bedwar can mlynedd o hanes Cymru mewn hanner can munud.

 

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Taith y Pasg

2 Ebrill, 11am-4pm

Am ddim

 

Gwahoddir teuluoedd i ymuno â Thaith Fach y Glowyr o amgylch Big Pit. Beth ddysgwch chi am yr amgueddfa?  Dewch o hyd i'r atebion i gyd a chewch gyfnewid eich taith am anrheg y Pasg. Mae’n bosibl y codir ffi fach.

 

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Hela’r Sgwarnog

2 Ebrill, 10am-5pm

3 Ebrill, 2pm-4pm

£1

 

Sbonciwch draw! Mae croeso i bawb ymuno ar daith Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i hela sgwarnogod o amgylch yr Amgueddfa a’r ardd.

 

Amgueddfa Wlân Cymru

Gwaith a Buddugoliaeth: Diwydiant Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf

2 a 3 Ebrill, 10am-5pm

Am ddim

 

Ar daith o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Arddangosfa sy’n edrych ar effaith y rhyfel ar ddiwydiant yng Nghymru.

 

Amgueddfa Wlân Cymru

Hanesion Hyll: Anturiaethau’r Môr-ladron

2 Ebrill, 11.30am – 3pm

Am ddim

 

Fel rhan o Flwyddyn Antur 2016 gwahoddir teuluoedd i ddod i gwrdd â môr-leidr milain yr Amgueddfa Wlân a chlywed hanesion cyffrous y moroedd mawr.

 

Amgueddfa Lechi Cymru

Helfa Basg

2 a 3 Ebrill, 10am-4pm

£1

Dilynwch yr Helfa Basg drwy’r gweithdai!  Cewch wobr os cwblhewch yr helfa!

 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Sioe Roald Dahl – Yr Awdur Mawr Mwyn

1 Ebrill    2pm

£5.00 i blant

 

Caiff plant gyfle i fod yn rhan o fyd ansbaredigaethus Roald Dahl wrth i un o’i edmygwyr pennaf gyflwyno rhai o’i gymeriadau mwyaf lliwgar!

 

Sioe un dyn, sy’n addas i blant 7 - 11 mlwydd oed. Pris mynediad yn cynnwys diod a chacen (i’r plant!)

 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Arddangosfa ‘Antur ar bob Tudalen’ ym Myd y Llyfr

2 Ebrill, 9.30am – 5pm

Am ddim

 

Mwynhewch 'Antur ar bob Tudalen’, sef arddangosfa sy’n edrych ar antur mewn llenyddiaeth Gymraeg ac Eingl-Gymreig.  Cewch atgofion hapus o blentyndod a chyfle i annog plant i gael eu hantur ei hunain drwy greu stribed comig neu ysgrifennu stori am anturiaethau ar dir neu yn yr awyr, dan y môr neu yn y gofod.

 

Gall plant fynd ar antur o amgylch arddangosfeydd y Llyfrgell Genedlaethol gyda chymorth llyfr newydd sbon sy'n llawn gweithgareddau, gemau a phosau.

 

Gweithdy printio gydag Elin Vaughan Crowley

2 Ebrill, 1.30pm-4.30pm

£8.00 i blant

 

Gweithdy cyffrous ar brintio leino, sy’n addas i blant 9-12 oed.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau, ewch i wefan pob partner:

Cadw – www.cadw.gov.wales

Amgueddfa Cymru - www.amgueddfacymru.ac.uk

Llyfrgell Genedlaethol Cymru - www.llgc.org.uk