Datganiadau i'r Wasg

Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas yn ymgartrefu yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Yn ddiweddar mae disgyblion dosbarth derbyn yn Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, Abertawe wedi bod yn darganfod rhyfeddodau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fel rhan o broject arloesol cenedlaethol gan Goleg y Brenin Llundain.

Treuliodd y disgyblion 4 a 5 oed y tymor diwethaf (ers 22 Chwefror) yn mwynhau gweithgareddau addysgiadol yn yr amgueddfa ger y lli, a bydd ail grŵp yn cymryd rhan o fis Mai.

Fel rhan o My Primary School is at the Museum mae’r disgyblion yn treulio eu diwrnod ysgol yn yr Amgueddfa. Wrth gael gwersi, cinio ac egwyl yn yr adeilad maen nhw’n cael profiad sy’n wahanol i ymweliad achlysurol.

 

 

 

Caiff y cynllun peilot ei ddefnyddio i asesu buddion a threfniant model partneriaeth allai fod o gymorth yn y dyfodol i ddiwallu anghenion cyllido sy’n wynebu’r sectorau addysg ac amgueddfaol, yn ogystal â bod o fudd i’r ddau gyfrannwr parthed addysg ac ymgysylltu.

Datblygwyd y syniad gan Wendy James, pensaer a phartner gyda chwmni Garbers & James. Mae Garbers & James yn gwmni pensaernïol sy’n arbenigo yn y sector cyhoeddus diwylliannol ac mae gan Wendy brofiad helaeth ym maes amgueddfeydd ac addysg. Profwyd y syniad ymhellach mewn labordy syniadau dan ofal Coleg y Brenin Llundain fel rhan o ffrwd Rhaglen Gofod Diwylliannol y Sefydliad.

Dywedodd Katherine Bond, Cyfarwyddwr Sefydliad Diwylliannol Coleg y Brenin Llundain: “Rôl y Sefydliad Diwylliannol yw ysbrydoli, hwyluso a chefnogi cydweithio rhwng y Coleg a’r sector diwylliannol sy’n cael effaith y tu hwnt i’r brifysgol, yn sbarduno rhannu gwybodaeth ac arloesi a datblygu ymchwil. Rydym yn falch o gael gwireddu menter My Primary School is at the Museum fydd gobeithio yn cyflawni’r holl amcanion hyn.”

Wrth drafod y project hyd yn hyn, dywedodd Leisa Bryant, Swyddog Addysg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Mae wedi bod yn gyfle gwych i fod yn rhan o’r project peilot hwn gydag Ysgol Gynradd St Thomas a rhannu straeon cyffrous ein hamgueddfa gyda nhw.

“Mae’r dosbarth wedi cael cyfle i ddysgu hanes, gwyddoniaeth, rhifyddeg a llythrennedd drwy ganolbwyntio ar elfennau o’r arddangosfeydd, cymryd rhan mewn gweithdai a thrin a thrafod gwrthrychau.”

Dywedodd Russell Dwyer, Prifathro Ysgol Gynradd St Thomas: “Mae’n fraint cael ein gwahodd i gymryd rhan mewn project ymchwil cenedlaethol cyffrous ac arloesol gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Choleg y Brenin Llundain.

“Roedd y syniad o symud dosbarth i’r Amgueddfa am bum wythnos yn ymddangos fel her fawr i ddechrau, ond mae wedi bod yn ddidrafferth a’r plant yn amlwg wedi elwa o’r cyfoeth o brofiadau newydd. Yn ddi-os, bydd y plant yn cofio’r profiad am byth.”

Nodiadau i’r golygydd

Ymhlith yr ysgolion eraill sy’n cymryd rhan mae:

  • Canolfan Blant Kensington, ysgol feithrin i blant 3 – 4 oed, oedd wedi’u lleoli yn Tate Liverpool rhwng 29 Chwefror a 11 Mawrth.
  • Grŵp blwyddyn 5 (plant 9 – 10 oed) o Ysgol Gynradd Hadrian yn South Shields sydd wedi eu lleoli yng Nghaer Rufeinig Arbeia, South Tyneside ers Ionawr eleni.

Am ragor o fanylion am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cysylltwch â Marie Szymonski drwy ffonio (029) 2057 3616.

Am ragor o fanylion am y project, cysylltwch â Nadine Thompson drwy e-bostio nadinenicolathompson@gmail.com