Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn derbyn cyfran o £11.5 miliwn o dâl gwerthu bagiau plastig

Pleser yw cyhoeddi ein bod wedi derbyn £10,000 gan fenter Bags of Help Tesco.

Mae’r archfarchnad wedi cydweithio â Groundwork i lansio menter Bags of Help, gan ddyfarnu grantiau o £12,000, £10,000 ac £8,000 i brojectau amgylcheddol a gwyrdd – a’r cyfan yn dod o godi 5c am fagiau plastig.

 

Pleidleisiodd wyth miliwn o gwsmeriaid mewn siopau ledled y wlad, a gellir datgelu bellach y bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion yn derbyn £10,000.

 

Ein tasg ni bellach yw gwireddu’r project a defnyddio ardal segur o’r Ardd Rufeinig i blannu blodau a llwyni tebyg i’r hyn fyddai’n tyfu ym Mhrydain yn oes y Rhufeiniaid, ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Caiff ardaloedd picnic Rhufeinig eu darparu hefyd ar gyfer ymwelwyr, a’r 20,000 o blant ysgol sy’n ymweld â’r Amgueddfa yn flynyddol.

 

Dywedodd Dai Price, Rheolwr yr Amgueddfa: “Rydyn ni wrth ein bodd yn derbyn y grant hwn gan fenter Bags of Help Tesco, a hoffem ddiolch yn fawr i gwsmeriaid Tesco am eu cymorth yn gwireddu hyn.

 

“Gyda chymorth grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr bydd y grant yn ein galluogi i weddnewid ardal segur o’r ardd. Y gobaith yw creu gofod prydferth a defnyddiol fydd yn adlewyrchu balchder y bobl leol o’u hamgueddfa.”

 

 

Dywedodd Caroline Silke, Pennaeth Cymuned Tesco: “Mae Bags of Help wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

 

“Mae ymateb ein cwsmeriaid wedi bod yn rhyfeddol a’r adborth yn wych.

 

“Rydyn ni ar bigau’r drain i weld yr arian yn cael ei ddefnyddio i wireddu’r projectau hyn.

“Bydd yr enwebiadau ar gyfer y rownd nesaf o grantiau yn agor ym mis Ebrill, ac edrychwn ymlaen at helpu mwy o grwpiau a phrojectau i ennill cyfran o’r gronfa fagiau plastig.”

 

Cynhaliwyd y bleidlais yn siopau Tesco rhwng 27 Chwefror a 6 Mawrth wrth i gwsmeriaid ddefnyddio tocyn i ddewis pa grŵp ddylai gael y brif wobr. Mae Tesco’n amcangyfrif i oddeutu wyth miliwn o gwsmeriaid bleidleisio ledled y DU.

 

Dywedodd prif weithredwr cenedlaethol Groundwork, Graham Duxbury: “Mae’n bleser ymwneud â phroject Bags of Help.

 

“Roedd hi’n brofiad gwych dilyn y projectau drwy’r broses ymgeisio hyd at y cyhoeddiad terfynol.

 

“Bydd yr arian yn cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i gymunedau ym mhob cwr o’r wlad gan greu lleoedd i bobl gyfarfod, ymarfer, chwarae, neu ymlacio. Mae’r fenter yn gwarchod yr amgylchedd yn lleol, yn gweddnewid mannau gwyrdd ac yn helpu cymunedau ar lawr gwlad.”

 

Bydd enwebiadau a cheisiadau ar gyfer rownd nesaf Bags of Help yn agor ar 18 Ebrill. Yn ogystal â cheisiadau uniongyrchol, gall trigolion lleol awgrymu projectau hefyd.

 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Cyfathrebu Lleucu Cooke drwy ffonio (029) 2057 3175 neu e-bostio lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.

 

NODIADAU I OLYGYDDION:

  • Derbyniodd 1170 sefydliad yn 390 rhanbarth Tesco ledled y DU gyfran o gronfa Bags of Help.
  • Ariennir y fenter gan y tâl o 5c a godir am fagiau plastig.
  • Ymgeisiodd dros 4,500 o grwpiau o bob cwr o’r wlad am grantiau. Cwtogwyd y nifer i dri ym mhob un o ranbarthau Tesco.
  • Am ragor o wybodaeth ewch i: http://www.tesco.com/carrier-bags/