Datganiadau i'r Wasg

Anrhydeddu casglwr celf amlwg o Gymru

I nodi ugain mlynedd ers marwolaeth Derek Williams, un o gasglwyr celf amlycaf Cymru, ac i ddathlu'r berthynas rhwng Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Derek Williams, comisiynwyd Luke Shepherd i wneud penddelw o Derek Williams.

Mae arddangosfa arbennig o weithiau sydd ar fenthyg oddi wrth yr Ymddiriedolaeth a gweithiau eraill a brynwyd gan yr Amgueddfa ers 1993 gyda Chymorth yr Ymddiriedolaeth yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol ar hyn o bryd. Mae'r gweithiau yn yr arddangosfa'n cynnwys Michael Craig Martin, Howard Hodgkin, David Hockney, Frank Auerbach a Leon Kossoff ynghyd â gwaith artistiaid cyfoes o Gymru fel as Bethan Huws, Iwan Bala a Brendan Stuart Burns.

Pan bu farw Derek Williams ym 1984, gadawodd dros saithdeg o luniau a'i ffortiwn personol i helpu i sefydlu Ymddiriedolaeth Derek Williams. Pwrpas yr Ymddiriedolaeth yw 'datblygu...gwerthfawrogiad o'r celfyddydau trwy arddangos gweithiau celf a wnaed ar ôl 1900'. Mae cronfeydd yr Ymddiriedolaeth yn cael eu defnyddio i ychwanegu at y casgliad sydd ar fenthyg i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ac i brynu gweithiau mewn partneriaeth â'r Amgueddfa. Mae'r arian yn mynd i helpu i dalu am waith comisiwn a gwaith ymchwil i gelf hefyd.

Cafodd Derek Mathias Tudor Williams (1930-1984) ei addysg yn Llandaf a Radley a daeth yn syrf