Datganiadau i'r Wasg

Ynni’r haul a gwyddoniaeth wych i ddathlu Sul y Tadau

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dan ei sang ar Sul y Tadau, gyda llond lle o geir, bysiau a gwyddoniaeth wych.

Caiff teuluoedd alw draw i greu Masg arwr (19 Mehefin, 12.30pm-3.30pm) neu weld sioe wyddoniaeth Pwy sydd am fod yn arch-arwr? (19 Mehefin, 1pm a 3pm) gyda Science Made Simple. Dyma sioe sy’n dangos y gwaith gwych mae gwyddonwyr heddiw’n ei wneud mewn meysydd fel disgyrchiant, grymoedd, ynni, goleuni a’r gofod. Byddwn yn dangos ffilm i’r teulu ar thema arwyr am 2.30pm yn Oriel y Warws hefyd.

Tu allan i’r Amgueddfa, byddwn yn dathlu Gŵyl Gludiant Abertawe eleni eto, trwy arddangos casgliad o fysiau clasurol yn ogystal â char sy’n rhedeg ar ynni’r haul, y Sunrider.

Mae 2016 yn flwyddyn bwysig i’r Sunrider. Eleni, mae’n dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed – dyna ddeng mlynedd ar hugain o ddatblygu ceir sy’n rhedeg ar ynni’r haul. Mae hefyd yn 30 mlynedd ers ei daith gyntaf ar 21 Mehefin 1986, o’r Stadiwm Olympaidd yn Athen i Lisboa ym Mhortiwgal, ac i ddathlu’n swyddogol, bydd yn cyrraedd yr Amgueddfa ddydd Gwener ac yn aros am y penwythnos cyfan.

I gyd-fynd ag ymweliad y Sunrider, bydd car rasio eco Prifysgol Caergrawnt, Evolution, i’w gweld hefyd – dyma’ch cyfle i ddysgu mwy am y datblygiadau diweddaraf yn y maes.

Meddai Bruce Cross, rhan o’r tîm GB-Sol, am Sunrider: “Mae’n bleser gennym ddod â’r car i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'r penwythnos hwn. Mae’n gyfle gwych i weld peirianneg y Deyrnas Unedig ar ei gorau ac rydym yn gobeithio y bydd tîm yr alldaith a’r tîm cefnogi ar gael i ateb eich cwestiynau drwy gydol y dydd.”

Meddai’r Curadur, Ian Smith: “Mae’n gyfle gwych i ymwelwyr fwynhau crefftau a gweithgareddau i’r teulu a gweld ceir y gorffennol – a’r dyfodol – ar eu gorau, gan gynnwys yr enwog Sunrider.”