Datganiadau i'r Wasg
Dros 100 o wahahnol fathau o fwydod yn arddangosfa newydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiad:
2016-06-16
Dewch i ddarganfod byd rhyfeddol mwydod yr haf hwn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gyda’n harddangosfa newydd i’r teulu – Mwydod! sy’n agor ar ddyddSadwrn 18 Mehefin tan 30 Medi 2017. O ffosil i ffantasi, prydferthwch anhygoel ac ambell un digon dychrynllyd – bydd cyfle i ymwelwyr ddarganfod yr amrywiaeth enfawr o fwydod yng nghasgliadau’r Amgueddfa, a hynny am ddim. Ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin, bydd diwrnod yn llawn gweithgareddau hwyliog, straeon, crefftau, a chyfle i gyfarfod rhai o wyddonwyr yr Amgueddfa ac ambell sbesimen diddorol o’r tu ôl i’r llenni.
Mae’r arddangosfa a noddir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery a Western Power Distribution (WPD), yn gwahodd ymwelwyr i gerdded mewn i’r Mwydy a gweld y byd drwy lygaid mwydyn. Cewch lithro i lawr i gynefin y mwydyn a gweld pa anifeiliaid sy’n byw yn y ddaear, ac astudio mwydod go iawn yn ein tŷ mwydod.
Bydd cyfle i weld rhai o fwydod mwyaf rhyfedd y byd, fel y rheibiwr esgyrn morfil sy’n byw ar gyrff morfilod marw ar waelod y môr, a chipiwr gwely’r môr sy’n 3.4 medr o hyd ac yn gallu torri pysgodyn yn ei hanner! Yn ein tanciau gallwch chwilio am y siani garpiog sy’n byw yng nghragen y cranc meddal.
Dewch i ddysgu beth mae gwyddonwyr yn ei wneud er mwyn deall mwy am yr anifeiliaid arbennig hyn. Gyda’n microsgop, gallwch edrych yn agos ar fwydod o’r casgliadau neu wneud llun o sbesimen.
Bydd ardal O Ffosil i Ffantasi yn edrych ar fwydod mewn llyfrau, ffilmiau ac ati. Mae hyn yn cynnwys model o’r ffosil gafodd ei enwi ar ôl Lemmy o’r band roc Motörhead a mwydyn wedi’i enwi ar ôl y seren reggae Bob Marley! Gallwch hyd yn oed ddarganfod pa fath o fwydyn fyddech chi yn ein gêm ryngweithiol!
O siani garpiog fechan i lyngyr hir sydd dros 30m o hyd, mae mwydod o bob maint yn yr arddangosfa hon. Gallwch ddilyn ein ‘llyngyren hir’ ni o’r orielau eraill i oriel Mwydod!
I gyd-fynd â’r arddangosfa, bydd gwyddonwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cydlynu a chynnal y 12fed Gynhadledd Polychaeta Ryngwladol yng Nghaerdydd yr haf hwn. Ym mis Awst, bydd tua 200 o ymchwilwyr, gwyddonwyr, ymgynghorwyr amgylcheddol a myfyrwyr o bob cwr o’r byd yn dod i Gaerdydd ar gyfer cynhadledd gyffrous yn trafod amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â’r grŵp pwysig hwn o infertebratau.
Dywedodd Katie Mortimer-Jones, Uwch Guradur Anifeiliaid Di-asgwrn Cefn Morol yn yr adran Gwyddorau Naturiol:
“Mae Mwydod! yn arddangosfa weledol gyffrous i’r teulu cyfan. Mae’r arddangosfa yn edrych ar bob math o greaduriaid o’n casgliadau pwysig ac amrywiol yma yn yr Amgueddfa, yn fwydod cyffredin, gelod, mwydod môr – o’ch gardd gefn i’r traeth agosaf a thu hwnt. Mae’n arddangosfa ryngweithiol iawn hefyd – gallwch gropian mewn i’r Mwydy neu ddefnyddio microsgopau i edrych yn agos ar y mwydod! Gydag anifeiliaid byw a sbesimenau cyffrous, bydd yr arddangosfa hon yn agoriad llygaid i fyd rhyfeddol mwydod!”
“Mae’r arddangosfa hon a digwyddiadau cysylltiedig yn bosibl diolch i gefnogaeth hael chwaraewyr y People’s Postcode Lottery a Western Power Distribution, ac rydym yn ddiolchgar tu hwnt iddynt am eu cefnogaeth.”
“Mae digwyddiadau gwych ar y gweill i gyd-fynd â’r arddangosfa, gan gynnwys ein hymgais i dorri record byd am ddenu mwydod yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 23 Gorffennaf. Ymunwch â ni wrth i ni geisio denu cymaint â phosibl o fwydod i’r wyneb!”
Dywedodd Karen Welch o WPD, “Rydyn ni’n falch o gefnogi y prosiect cyffrous hwn a gobeithio bydd nifer o ymwelwyr boed yn ifanc neu yn hen yn dod a mwynhau yr arddangosfa.”
Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.
Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
DIWEDD
Am fwy o wybodaeth a ffotograffau cysylltwch â Lleucu Cooke ar (029) 2057 3175 / lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.
Cefnogir rhaglen arddangosfeydd a gweithgareddau Amgueddfa Cymru gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.