Datganiadau i'r Wasg

Darganfod safleoedd treftadaeth Cymru gyda Phasbort Newydd i Blant

Gyda gwyliau’r ysgol ar y gorwel, ac yn dilyn llwyddiant ysgubol ymgyrch llynedd, mae Amgueddfa Cymru, Cadw (gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cydweithio unwaith eto i greu pasbort cyffrous i blant fydd yn eu galluogi i ddarganfod amgueddfeydd, cestyll, tai a gerddi hanesyddol yr haf hwn.

Nod yr ymgyrch, sy’n dechrau’r wythnos hon yw annog teuluoedd Cymru i ymweld â chymaint o atyniadau treftadaeth y wlad â phosibl dros yr haf. Mae chwe gwahanol antur yn y pasbort, sy’n arbennig ar gyfer plant 6-11 oed. Mae pob antur mewn ardal wahanol o Gymru ac yn frith o lefydd cyffrous i ymweld â nhw – o amgueddfeydd i gestyll, tai hynafol a mwy.

Ewch i goncro castell neu fynd ar drywydd abaty cudd yn y Gogledd. Profwch fywyd a gwaith yn y ddeunawfed ganrif yng Ngwaith Haearn Blaenafon a gweld sut oedd y Rhufeiniaid yn ymlacio yn y De-ddwyrain. Yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, cewch ddod wyneb yn wyneb â deinosoriaid yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, teithio trwy amser yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a gweld tŵr cam Castell Caerffili. Yn y canolbarth a’r gorllewin, ewch i Gastell Cilgerran a dysgu pam y bu ganddo gymaint o berchnogion yn ei hanes 800 mlynedd, neu ewch ar helfa drysor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae digonedd i’w wneud yn y De-orllewin hefyd, o replica o drên stêm cynta’r byd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i gael blas ar fywyd rhyfelwraig Gymreig yng Nghastell Cydweli!

Mae’r llyfryn 32 tudalen, maint A6, ar gael i deuluoedd ym mhob un o'r 21 atyniad dan sylw. Bydd angen i deuluoedd ymweld ag un ohonynt i gasglu pasbort. O ymweld ag o leiaf pedwar safle, bydd cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth drwy gasglu sticeri. Casglwch bedair sticer wahanol ac fe gewch chi rodd am ddim, cewch ddewis o blith Chwyddiadur Chwilod Poced, Pensil â Rhwbiwr Cyfeillion y Goedwig, Clai Clyfar neu Fwgwd Ffrindiau’r Fferm. Bydd Hafan Hun-lun ym mhob un o’r safleoedd hefyd i chi gael rhannu eich profiadau treftadaeth.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’n holl amgueddfeydd.

  • Diwedd  -