Datganiadau i'r Wasg

Cadeirio cyn-filwyr yn Sain Ffagan

Mae cyn filwyr wedi bod yn gosod meinciau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, fel rhan o waith ailddatblygu’r safle

Bu’r gwirfoddolwyr yn cydweithio gydag uned adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa i osod y meinciau ar hyd y llwybr tarmac newydd yn arwain at ffermdy Oes Haearn Bryn Eryr – ar adeilad cyntaf o broject ailddatblygu Sain Ffagan i’w gwblhau.

 

Roedd y cyn-filwyr yn gwirfoddoli diolch i Change Step – elusen Gymreig sy’n helpu cyn-filwyr i wneud newidiadau positif i’w bywydau, gyda chymorth Cronfa Gyfamod y Lluoedd Arfog.

 

Mae’r meinciau arbennig yn ei gwneud yn haws i bobl â phroblemau symud i gyrraedd adeiladau newydd yr Amgueddfa ac mae yno hefyd le i gadeiriau olwyn. Y bwriad yw galluogi i bawb fwynhau atyniad awyr agored mwyaf poblogaidd Cymru. 

 

Dywedodd Bethan Lewis, Pennaeth Sain Ffagan: “Mae ymwelwyr o bob oed yn mwynhau diwrnodau yn Sain Ffagan a daeth hi’n amlwg bod angen meinciau i roi cyfle i bobl orffwys a gwerthfawrogi prydferthwch y safle.

 

“Mae gwirfoddolwyr Change Step wedi gwneud gwaith gwych, gyda’r meinciau yn eu lle erbyn dechrau gwyliau’r haf. Bu cyfraniad y gwirfoddolwyr yn allweddol i broject ailddatblygu Sain Ffagan ac rwy’n gobeithio iddyn nhw fwynhau’r profiad.”

 

Dywedodd David Ireland, Mentor gyda Change Step, cangen Caerdydd a’r Fro: “Roedd y project hwn yn gyfle i gyn-filwyr o bob cwr o dde Cymru ddod ynghyd i greu ffrindiau newydd a chyfrannu at rywbeth fydd o fudd i’r Amgueddfa a’i hymwelwyr am flynyddoedd i ddod.

 

“Mae nifer o aelodau Change Step yn dioddef gyda PTSD a phroblemau cymdeithasu a dyma’r tro cyntaf ers amser maith i nifer adael eu tai.

 

“Roedd croeso staff yr Amgueddfa’n wych gan wneud i’r cyn-filwyr deimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi. Mae wedi bod o fudd mawr i’w gwellhad.

 

“Wrth ddadorchuddio’r fainc gyntaf, gyda’i phlac coffa, roedd pawb yn eu dagrau.

 

“Rwy’n gobeithio y bydd Change Step ac Amgueddfa Cymru yn parhau i gydweithio yn y dyfodol, ac yn cwblhau projectau er budd yr Amgueddfa, pobl Cymru a’r cyn-filwyr.”

 

Mae’r gwaith yn parhau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar broject ailddatblygu mwyaf yr Amgueddfa erioed. Hwyluswyd hyn gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 dyfarnodd HLF eu grant mwyaf erioed yng Nghymru i Sain Ffagan er mwyn helpu i adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Diwedd