Datganiadau i'r Wasg

Awst yr Ymerodraeth yng Nghaerllion

Bydd rhyfeddodau Rhufain i’w gweld yng Nghaerllion ym mis Awst gyda deuddydd o weithgareddau Ymerodraeth: Sioe Rufeinig yn yr Amffitheatr ar benwythnos Sadwrn 27 a Sul 28 Awst, 11am-5pm. (Oedolion £5; Gostyngiadau £4; Tocyn teulu £15)

Gwrandewch ar seiniau gorymdaith y milwyr yn atsain o amgylch yr amffitheatr, a reolir gan Cadw, wrth iddynt arddangos yr arfau oedd yn sicrhau taw byddin Rhufain oedd yn deyrn, a gwyliwch wrth i’r ceffylau’n ddangos eu sgiliau yn yr arena. Mae digon o ffyrdd i chi gymryd rhan hefyd, a gallwch chi siarad gyda’r Rhufeiniaid i ddysgu sut beth oedd bywyd milwr, doctor neu fonesig Rufeinig.

Dewch i weld sut beth oedd bywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl a mwynhau diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan. Tocynnau ar gael drwy Ticketline http://www.ticketlineuk.com/event/national-roman-legion-museum neu drwy ffonio (029) 2023 0130.

Gall ymwelwyr ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru gyfarfod milwr neu gogydd yn ystafell y barics drwy gydol Awst, a dysgu popeth am fywyd a bwyd ym myddin Rhufain (AM DDIM 23 Gorffennaf–26 Awst 2016, 12pm-4pm Llun – Sad, 2-4pm Sul). Neu beth am ddilyn y Daith Rufeinig o amgylch yr Amgueddfa ar ardd (23 Gorffennaf–26 Awst 2016, 12pm-5pm Llun – Sad, 2-5pm Sul, £1 y pen)

Dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa, Dai Price:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fis Awst llawn hwyl i ni a’r ymwelwyr. Bydde digwyddiadau fel hyn ddim yn bosib heb gefnogaeth chwaraewyr y Postoce Lottery. Mae’r arian yn sicrhau ein bod yn gallu cynnig rhaglen ddiddorol o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd yn amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.

“Mae’n bleser gallu cynnal sioe arbennig Ymerodraeth unwaith eto. Dros benwythnos cyfan ym mis Awst byddwn ni’n camu yn ôl mewn amser i flasu bywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl ac yn cynnig diwrnod llawn atyniadau i’r teulu cyfan – o ‘Gemau Hynafol’, gweithgareddau crefft a saethyddiaeth i’r adloniant yn yr amffitheatr. Mae’n gyfle gwych i ymwelwyr brofi rhywbeth hollol wahanol, a mwynhau diwrnod i’w gofio.”

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a lleoliadau eraill Amgueddfa Cymru.