Datganiadau i'r Wasg

Argraffu yn yr Amgueddfa

Mae cyfrifiaduron yn caniatáu i ni symud paragraffau o gwmpas, a newid ffont a maint llythrennau gydag un cyffyrddiad cyn printio. Mae’n hawdd anghofio pa mor galed oedd argraffwyr y gorffennol yn gweithio i greu tudalen o lyfr neu boster.

Nawr mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn rhoi cyfle i bawb weld pa mor anodd oedd argraffu ers talwm fel rhan o raglen Drysau Agored Llywodraeth Cymru.

Bydd Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris yn dangos i ymwelwyr sut y byddai argraffwyr yr oes o’r blaen yn creu’r geiriau gyda llythrennau unigol, ac yn esbonio faint o amser a gymerai i greu dim ond un tudalen o lyfr.

Bydd Steph hefyd yn rhoi help llaw i argraffu nodau llyfr ar thema Roald Dahl yn yr hen ddull, cyn rhoi cyflwyniad arbennig i wasg Stanhope arbennig yr Amgueddfa o ddechrau’r 19eg ganrif.

Mae argraffwaith yn hobi i Steph, a bydd yn cyflwyno rhai o drysorau argraffu’r Amgueddfa i ymwelwyr, ac yn eu helpu i ddylunio geiriau eu hunain.

“Mae’n hawdd anghofio bod argraffwyr yn gorfod rhoi pob llythyren unigol at ei gilydd i argraffu papur newydd, a hynny ddim yn rhy bell yn ôl – allwch chi ddychmygu sawl llythyren sydd ar un dudalen o’r Evening Post? Mae harddwch a sgil i’r grefft a gobeithio y bydd pobl yn gwerthfawrogi hyn ar ôl y gweithdai.”

Bydd Steph yn cynnal dau weithdy am 12pm a 2pm ar ddydd Sadwrn 17 Medi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mynediad am ddim.

Mae’r gweithdai yn rhan o gynllun Drysau Agored Cadw sy’n rhedeg drwy’r mis, gyda’r bwriad o roi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr archwilio agweddau newydd o ddiwylliant a hanes Cymru.