Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn caffael gosodion lle tân 300 oed

Pâr o heyrn aelwyd Siarl II wedi’i achub ar gyfer y genedl

Mae Amgueddfa Cymru wedi prynu pâr o frigyrnau arian godidog, diolch i arian gan Gronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (NHMF), y Gronfa Gelf, Cwmni Goldsmiths a'r Gymdeithas Arian, yn ogystal â nifer o roddwyr preifat hael. Mae’r pryniad yn golygu y bydd yr heyrn - yr enghraifft orau o’u math sydd wedi goroesi - yn aros yn y DU yn hytrach na chael eu hallforio.

Ym mis Ionawr eleni, rhoddodd Llywodraeth y DU waharddiad allforio dros-dro ar y darnau arian o’r 17eg ganrif, gan roi cyfle i sefydliad godi’r arian i’w prynu er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn y DU. Roedd hyn yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Adolygu Allforio Gweithiau Celf a Gwrthrychau o Ddiddordeb Diwylliannol (RCEWA) ar y sail bod gan yr heyrn aelwyd hyn ‘arwyddocâd neilltuol ar gyfer astudio celf addurniadol, dodrefnu a nawdd’.

Cafodd yr heyrn aelwyd arian hyn, sy’n dyddio i 1680-81, eu gwneud i gynnal coed oedd yn llosgi mewn llefydd tân agored ac maent yn dangos pwysigrwydd dodrefn lle tân yn y cyfnod. Roeddent yn eitemau moethus, yn cael eu gweld fel datganiad o gyfoeth a ffasiwn. Maent wedi’u haddurno gyda ffigurau Cleopatra a Lucretia, menywod eiconig yn hanes Rhufain, ac mae arfbais y Llyngesydd Edward Russell a’i ail wraig y Fonesig Margaret Russell wedi’i engrafu arnynt.

Dywedodd Andrew Renton, Ceidwad Celf, Amgueddfa Cymru:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf, Cwmni Goldsmiths a'r Gymdeithas Arian, yn ogystal â nifer o roddwyr preifat wnaeth wneud y caffaeliad hwn yn bosibl drwy eu haelioni.

“Mae’r darnau prin hyn yn cryfhau ein casgliad eithriadol o arian a chelfyddyd gymhwysol yma yn Amgueddfa Cymru. Maent yn enghreifftiau godidog o ddylunio diwedd y 17eg ganrif ac mewn cyflwr anhygoel o dda - darlun perffaith o fyw’n ffasiynol yn ystod teyrnasiad Siarl II.

“Rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu eu caffael a thrwy hynny eu cadw yn y DU.”

Dywedodd Gweinidog Gwladol Digidol a Diwylliant, Matt Hancock:

"Roedd y brigyrnau hyn ymysg celfyddyd addurniadol fwyaf moethus y 17eg ganrif. Mae’n wych o beth y byddant yn aros yn y DU i’r cyhoedd eu hedmygu ac rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn ymweld â nhw yn eu cartref newydd yn Amgueddfa Cymru/Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.”

Ychwanegodd Sarah Philip, Cyfarwyddwr Rhaglenni, y Gronfa Gelf:

“Mae’r heyrn aelwyd arian hyn yn syfrdanol; am yr eiconograffig yn ogystal â’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym am nawdd menywod yn y 17eg ganrif. Mae’r Gronfa Gelf yn falch o gefnogi Amgueddfa Cymru, sydd wedi gweithredu’n feiddgar i sicrhau bod yr heyrn yn aros yn y DU lle byddant yn rhan ganolog o gasgliad arian o fri rhyngwladol yng Nghaerdydd.”

 

Dywedodd Ros Kerslake, Prif Weithredwr NHMF: 

“Er bod y rhain yn ddarnau hynod hardd o arian, eu gwerth pennaf yw’r hyn y gallant eu dysgu i ni am gartrefi’r 17eg ganrif, a dyna pam ein bod yn credu ei bod yn bwysig eu diogelu.”