Datganiadau i'r Wasg
Brewin Dolphin ac amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn cydweithio
Dyddiad:
2016-12-12Cyhoeddi nawdd corfforaethol newydd
Ar ddydd Iau, 8 Rhagfyr 2016 cyflwynwyd Brewin Dolphin, partner corfforaethol newydd Amgueddfa Cymru, i Noddwyr y corff yn eu cinio blynyddol Nadolig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Bydd Brewin Dolphin – un o gwmnïau rheoli cyfoeth mwyaf blaenllaw'r DU – yn ariannu'r gost o weithredu Cynllun Noddwyr Amgueddfa Cymru, sydd ag aelodaeth o dros 150 o bobl, gan bontio’r celfyddydau a byd busnes
Mae’r incwm a ddaw o du’r Noddwyr yn cefnogi gwaith craidd Amgueddfa Cymru. Defnyddir y ffynhonnell ariannol werthfawr hon i gyfrannu at gostau ystod eang o weithgareddau a chaffaeliadau ym mhob un o'r saith amgueddfa – ac mae’n helpu i sicrhau dyfodol ariannol cynaliadwy i Amgueddfa Cymru.
Bydd y bartneriaeth dair blynedd newydd â Brewin Dolphin yn galluogi’r berthynas bwysig hon rhwng y Amgueddfa Cymru a'i Noddwyr i barhau a datblygu.
Meddai David Myrddin-Evans, Pennaeth Swyddfa Caerdydd Brewin Dolphin, wrth esbonio pam mae Amgueddfa Cymru, sydd â saith amgueddfa ledled Cymru, yn gweddu’r cwmni mor dda:
"Drwy ddatblygu partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, bydd Brewin Dolphin yn gweithio gyda sefydliad sy'n cefnogi Cymru gyfan, a chanddo uchelgais i ddarparu atyniadau o ansawdd uchel i’r genedl. Mae’r weledigaeth hon yn cyd-fynd â’n huchelgais ni i ddarparu lefel o wasanaeth yr un mor uchel i’n cleientiaid ni.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agosach gyda'r Amgueddfa a meithrin y berthynas er budd ein staff a’n cleientiaid."
Ychwanegodd Richard Nicholls, Cyfarwyddwr Datblygu Amgueddfa Cymru:
"Wrth weithio gyda noddwyr corfforaethol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod eu gwerthoedd moesegol yn gyson â rhai Amgueddfa Cymru. Rwy'n hyderus bod Brewin Dolphin, sydd â hanes cadarn yng Nghaerdydd a Chymru ers y 1990au, yn bartneriaeth briodol i ni ac mae’n bleser gen i groesawu'r cwmni yn noddwr corfforaethol.
"Ni fydd ein perthynas yn seiliedig ar fanylion ariannol yn unig. Mae gennym lawer mwy i gynnig i Brewin Dolphin, gan gynnwys cyfleoedd i weithlu’r cwmni wirfoddoli yn ein hamgueddfeydd.
"Rwy'n gobeithio'n fawr mae megis dechrau mae ein taith gyda’n gilydd!"