Datganiadau i'r Wasg

JOHN AKOMFRAH - ENILLYDD GWOBR ARTES MUNDI 7 2017

Mae’r artist cyfoes o’r DU, John Akomfrah, wedi cael ei ddewis o restr fer o 6 o artistiaid pwysicaf y byd i ennill prif wobr y DU am gelfyddyd gyfoes ryngwladol, Artes Mundi 7

Cyhoeddodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, mai John Akomfrah yw enillydd y wobr eilflwydd o £40,000 mewn seremoni a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Mae gwaith John Akomfrah yn aml yn edrych ar bobloedd alltud ar draws y byd, hanes, y cof, gwladychiaeth a’i chynhysgaeth drwy gyfryngau seiliedig ar y lens. Mae’r ystod o ffilmiau sgrin unigol a lluosog yn gadael i ni ailystyried y ffyrdd yr ydym yn meddwl am hanesion personol ac ar y cyd, naratifau mawr ein hoes, ar draws cenedl-wladwriaethau a chyfandiroedd. Yn aml, mae ei waith wedi rhoi llais i gymunedau a dangynrychiolir a’u straeon cyffredinol a adroddir drwy greu delweddaeth aruchel a thraciau sain atgofus ac ymdrwythol.

 

Yn Auto Da Fé (2016) mae Akomfrah yn defnyddio esthetig drama gyfnod yn benodol i ystyried achosion hanesyddol a chyfoes ymfudo; yn y gwaith hwn mae’n canolbwyntio ar erledigaeth grefyddol fel un o brif achosion dadleoli byd-eang. Mae’r cyfeiriadau hanesyddol cynnil wedi’u cyfuno â’i gwisgoedd, lleoliadau a setiau godidog yn cyfeirio at realiti’r ymfudo a’r erlid sydd wedi digwydd ar hyd y canrifoedd.

 

Mae’r ffilm yn dwyn at ei gilydd 8 ymfudiad torfol rhyng-gysylltiedig sydd wedi digwydd yn ystod y 400 mlynedd diwethaf gan ddechrau gyda hanes gweddol anhysbys yr Iddewon Seffardig yn ffoi o’r Frasil Gatholig i Barbados ym 1654. Mae Auto Da Fé wedyn yn mynd yn ei blaen i ddatgelu llawer mwy o enghreifftiau o ddadleoli drwy hanes a heddiw, er enghraifft ymfudo o Hombori ym Mali a Mosul yn Irac. Mae’r dirwedd lle cafodd y gwaith hwn ei ffilmio yn fwriadol amwys mewn ymgais i adlewyrchu natur cyffredinol a pharhaus y straeon hyn. Fel yn ei weithiau diweddar eraill fel Tropikos (2016) a Vertigo Sea (2015), mae’r môr yn chwarae rôl bwysig – fel parth yn y canol rhwng y gorffennol a’r presennol, y lleol a’r byd-eang sy’n dal atgofion o’r holl deithiau yna – y rhai unigol ac ar y cyd.

Yn ôl John Akomfrah, “Dw i wedi fy nghyffwrdd i’r eitha gan hyn ac yn hynod ddiolchgar am y cyfle y mae’n ei gynnig i orffen o’r diwedd rywbeth dw i’n ei gynllunio ers dros ddegawd. Dros y blynyddoedd, mae Artes Mundi wedi dewis rhai artistiaid disglair iawn ar gyfer y wobr hon: roeddent i gyd yn artistiaid pwysig yn creu gwaith heriol ac ymgysylltiedig ac mae ymuno â’r garfan honno’n anrhydedd a chyfrifoldeb enfawr.”

 

Yn ôl Karen Mackinnon, Cyfarwyddwr Artes Mundi, “Pleser o’r mwyaf i ni yw cyhoeddi John Akomfrah fel enillydd seithfed wobr eilflwydd Artes Mundi. Mae Artes Mundi’n hyrwyddo artistiaid cyfoes blaenllaw o bob cwr o’r byd y mae eu gwaith yn gysylltiedig â phob agwedd ar ein bywydau personol mewn cymdeithas fyd-eang. Mae ffocws Artes Mundi ar y cyflwr dynol yn canu cloch unigryw yn yr amserau ansicr hyn. Rydym am ddiolch i’n panel beirniaid am eu sensitifrwydd a’u trylwyredd deallusol wrth ddethol yr enillydd. Teimlai’r beirniaid fod yr holl artistiaid ar y rhestr fer wedi arddangos gwaith eithriadol. Fodd bynnag, nid yn unig am y gwaith yn yr arddangosfa y rhoddir y wobr ond am ragoriaeth barhaus eu gwaith dros yr 8 mlynedd diwethaf. Rhoddwyd Gwobr Artes Mundi 7 am gyflwyniad Akomfrah o Auto da Fé ac am gorff sylweddol o waith eithriadol yn ymdrin â materion ymfudo, hiliaeth ac erledigaeth grefyddol. Mae sôn am y pethau hyn ar yr ennyd arbennig hon yn teimlo’n bwysicach nag erioed.”

 

Yn ôl Oliver Basciano, Cadeirydd Beirniaid Artes Mundi 7,Rydym yn gyffro i gyd wrth ddyfarnu gwobr Artes Mundi 7 i John Akomfrah mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad anhygoel i gelfyddyd dros yr wyth mlynedd diwethaf. Rydym yn gwneud hynny mewn cydnabyddiaeth o’i waith sydd wedi’i gyflwyno’n ddiweddar Auto Da Fé (2016) yn ogystal ag mewn gwerthfawrogiad o allu’r artist i adrodd straeon gyda dyfnder hanesyddol, gan edrych ar faterion cymdeithasol a gwleidyddol drwy iaith sinematig gywrain mewn ffilmiau megis Peripteia (2012), Unfinished Conversation (2013), Vertigo Sea (2015). Dros ei yrfa hir, mae gwaith Akomfrah yn tanlinellu sut mae gan gelfyddyd y gallu unigryw i siapio a myfyrio ar y cyflwr dynol, gan gyd-fynd ag egwyddorion sylfaenol Artes Mundi.”

 

Mae gwaith John Akomfrah, ochr yn ochr â’r gweithiau eraill ar y rhestr fer, ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter tan 26 Chwefror.

 

Canmoliaeth i Artes Mundi 7

Trechodd a rhagorodd ar Wobr Turner yn llwyrYr Independent

Gwobr celf gyfoes fwyaf perthnasol ac arloesol y DUSTYLIST

Yn dawel bach mae’r wobr yn sleifio i diriogaeth Gwobr TurnerY Daily Telegraph

 

NODIADAU I OLYGYDDION

 

Am y wobr

Artes Mundi, gwobr fwyaf y DU am gelfyddyd gyfoes. Mae’r wobr yn cydnabod ac yn dathlu artistiaid cyfoes rhyngwladol sy’n ymgysylltu â’r cyflwr dynol, realiti gymdeithasol a phrofiad y mae pobl wedi byw drwyddo.

 

Y rhai nesaf at y gorau: Neïl Beloufa, Nástio Mosquito, Lamia Joreige, Bedwyr Williams ac Amy Franceschini/Futurefarmers

Cadeirydd y beirniaid: Oliver Basciano

Y panel  beirniaid: Ann Jones, Phil Collins, Elvira Dyangani Ose, Carolyn Chritov-Bakargiev a Nick Aikens

Enillwyr blaenorol:  Theaster Gates (Artes Mundi6), Teresa Margolles (Artes Mundi5), Yael Bartana (Artes Mundi4), N S Harsha (Artes Mundi3), Eija-Liisa Ahtila (Artes Mundi2) a Xu Bing (Artes Mundi1)

 

Am yr arddangosfa

Fe’i cynhelir: 21 Hydref 2016 – 26 Chwefror 2017

Lleoliadau: Amgueddfa Gelf Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP

                    Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE

Oriau agor (Amgueddfa): dydd Mawrth – ddydd Sadwrn, 10.00yb - 5.00yp

Gwybodaeth: www.artesmundi.org | +44 (0) 29 2055 5300 | @artesmundi

Mynediad: Am ddim

 

Am Artes Mundi

Sefydliad celfyddydau rhyngwladol yw Artes Mundi sydd â’i gartref yng Nghaerdydd. Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Artes Mundi yn ymrwymedig i gefnogi artistiaid gweledol cyfoes arloesol o bob cwr o’r byd y mae eu gwaith yn ymgysylltu â realiti gymdeithasol a phrofiad y mae pobl wedi byw drwyddo. Cynhelir Arddangosfa a Gwobr Artes Mundi bob dwy flynedd, gan gynnig rhaglen barhaus o brosiectau allgymorth a dysgu ochr yn ochr â’r arddangosfa gyhoeddus a’r seremoni wobrwyo. Yn 2015 dyfarnwyd Gwobr Artes Mundi 6 i Theaster Gates. Yr enillwyr blaenorol oedd Teresa Margolles (2012), Yael Bartana (2010), N S Harsha (2008), Eija-Liisa Ahtila (2006)  a Xu Bing (2004).

 

Ariennir Artes Mundi yn gyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd. Mae cyllidwyr eraill yn cynnwys Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Sefydliad Waterloo, Sefydliad Esmée Fairbairn, Ymddiriedolaeth Myristica, Garfield Weston a Sefydliad Foyle. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein partneriaid drwy gysylltu â Midas Public Relations (manylion isod).