Datganiadau i'r Wasg
Gwaith celf plant lleol yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis
Dyddiad:
2017-02-21Mae gwaith celf sydd wedi’i ysbrydoli gan ymweld ag ardaloedd y chwareli llechi yng ngogledd Cymru, i'w weld yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis tan 30 Ebrill 2017.
Toeau a phowlenni bach wedi eu gwneud o lechfaen man yw rhai o’r pethau sydd yn cael ei gynnwys yn yr arddangosfa sydd wedi ei gwblhau gan blant o 6 ysgol ar hyd y llwybr llechi - taith gerdded cyffrous, 85 milltir o hir drwy ardal llechi Eryri,fydd yn agor ym mis Hydref 2017. Fel rhan o` waith cychwynol y prosiect, mae plant ysgol wedi bod yn dysgu am eu hardal trwy weithio ar brosiectau celf a ysbrydolwyd gan ymweliadau maes i safleoedd chwareli llechi ar hyd y llwybr.
Mae'r llwybr wedi cael ei ddatblygu gan Aled Owen, sy’n wreiddiol o Dregarth er mwyn annog pobol lleol I gymryd rhan yn eu cymunedau ac I ddysgu mwy am y diwydiant a’r hyn sydd are u steppan drws. Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Magnox, Cronfa CAE Parc Cenedlaethol Eryri ac ystod o ymddiriedolaethau, grwpiau a chwmnïau cenedlaethol a lleol i roi hwb ddechrau'r prosiect.
Dywedodd cydlynydd y prosiect, Aled Owen: "Mae'r llwybr yn arwain pobl i edrych ar enghreifftiau o ein gorffennol diwydiannol ac yn ategu gwaith sy'n cael ei wneud gan Gyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac eraill i sicrhau statws Treftadaeth y Byd ar gyfer y cymunedau llechi Eryri. Rydym yn ddiolchgar i'r holl arianwyr sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn bosibl a sydd wedi galluogi cymant o blant lleol I ddysgu ychydig mwy am eu gorffennol diwydiannol anhygoel yr ardal yma.”
Mae Anita Daimond, trefnydd addysg y project, a Jwls Williams, artist wedi mynd a dros 300 o blant allan ar hyd y llwybr llechi er mwyn creu pecyn o waith 2D a 3D er mwyn helpu dehongli’r project. Ar 14 a 15fed Chwefror, daeth nifer o’r disgyblion a gymerodd rhan yn y prosiect draw i’r amgueddfa ar gyfer deuddydd arbennig i gael gweld eu gwaith o amgylch yr amgueddfa ac i rannu profiadau a’u gilydd. Roedd hyn yn cynnwys adeiladau tyrrau llechi, helfa drysor a perfformiad gwych gan Ysgol Llanllechid am Gor Merched Chwarel y Penrhyn yn ystod y Streic Fawr.
Dywedodd Anita Daimond: "Mae o wedi bod yn wych i weithio gyda Jwls i fynd â disgyblion allan i ddysgu am eu hamgylchedd lleol a defnyddio celf i'w helpu i archwilio eu hanes diwylliannol. Rydym yn falch iawn y bydd aelodau o'r cyhoedd yn gallu gweld y gwaith celf y disgyblion a ysbrydolwyd gan eu hymweliadau yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Lechi ".
Dywedodd Dafydd Roberts o Amgueddfa Lechi Cymru "Rydym yn falch o gefnogi prosiect Llwybr Llechi Eryri gan y bydd yn hyrwyddo treftadaeth ddiwydiannol ein hardal a dod â mwy o ymwelwyr ac incwm gwerthfawr. Gan fod y llwybr yn mynd trwy yr amgueddfa, rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl fel eu bod yn dysgu mwy am hanes y diwydiant llechi - diwydiant sydd wedi rhoi to i`r byd - cyn parhau ar eu taith i leoliadau eraill ar y llwybr ".
Mae’r arddangosfa I’w gweld yn yr amgueddfa tan 30ain Ebrill 2017. Mae mynediad am ddim.
Dilynwch datblygiad Llwybr Llechi Eryri ar twitter @ snowdoniaslate1 a Facebook neu ar y wefan www.snowdoniaslatetrails.org. Hefyd ar www.amgueddfa.cymru/llechi
Nodiadau i olygyddion
Mae ffotograffau ar gael o’r digwyddiad addysg ac hefyd o’r daith.
Am fanylion pellach cysylltwch a: Anita Daimond anitacdaimond@yahoo.co.uk Cydlynydd Addysg Llwybr Llechi Eryri Aled Owen aledocwm@uwclub.net Julie Williams, Swyddog Marchnata, Amgueddfa Lechi Cymru julie.williams@museumwales.ac.uk 02920 573707
LLWYBR LLECHI ERYRI: Aled Owen: Aelod o ‘Grŵp Gweithred Cymuned Cwm’ Cwm Penmachno, wedi cynllunio taith cerdded sydd yn ymweld â chwareli llechi, trefi a phentrefi lle'r oedd gweithwyr chwareli yn byw. Mae’r gylchdaith yn cychwyn yn Aber Cegin, Bangor sef y porthladd ar gyfer allforio llechi o chwarel Penrhyn. Mae o’n 85 milltir ac yn ymweld ag 11 cymuned llechi. Mae wedi cael ei chynllunio i gael ei cherdded mewn wythnos trwy orffen ym Methesda gydag opsiwn y ddychwelyd i Aber Cegin.
Mae’r prosiect wedi cael cymorth gan: Cronfa Dreftadaeth Y Loteri / Magnox / Cronfa CAE Parc Cenedlaethol Eryri / The Foyle Foundation / The Garfield Weston Foundation / The Oakdale Trust / Community Fund in Wales / HF Holidays / Horizon / First Hydro / The Laspen Trust / Cyngor Tref Bethesda / Cyngor Tref Ffestiniog
Cronfa Treftadaeth y Loteri : Gan ddefnyddio arian a godir drwy'r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn anelu at wneud gwahaniaeth parhaus ar gyfer treftadaeth, pobl a chymunedau ar draws y DU a helpu i adeiladu economi treftadaeth cadarn. O amgueddfeydd, parciau a lleoedd hanesyddol i archeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o'n treftadaeth amrywiol. www.hlf.org.uk / Facebook HLFWales / Twitter @HLFCymru
Amgueddfa Lechi Cymru LLanberis: Mae’r Amgueddfa Lechi yn un o saith safle dan reolaeth Amgueddfa Cymru. Mae wedi’ Ileoli yng ngweithdai Fictoriadd Diwydiannol a adeiladwyd I gefnogi chwaler lechi Dinoriwg uwchlaw. Erbyn heddiw mae’n dweud stori llechi gogledd Cymru i gyd. Mae mynediad dwry gefnogaetj Cynulliad Cymru.