Datganiadau i'r Wasg

Codi stêm ar gyfer Sioe Trenau Bach!

Bach, mawr, go iawn neu fodel – bydd yna rywbeth i bawb yn Sioe Rheilffyrdd Model Amgueddfa Lechi Cymru yn ystod hanner tymor, o’r 22ain – 24ain Chwefror 2017.  Paradwys i bawb sydd â diddordeb mewn rheilffyrdd, ac yn ddiwrnod allan ardderchog ar gyfer y teulu!

Mae’r sioe boblogaidd yma yn denu miloedd o ymwelwyr  bob blwyddyn, ac mae’n gyfle gwych i bobl o bob oed fwynhau’r arddangosfeydd sefydlog a symudol gan glybiau rheilffyrdd lleol fel Bae Colwyn a  Caernarfon ynghyd ag unigolion brwdfrydig yn cymryd rhan.

Fel yn y gorffennol, bydd nifer o weithgareddau amrywiol gan gynnwys reidiau am ddim i blant ar injanau stêm a threnau bach, arddangosiadau a sgyrsiau dyddiol yn ogystal â llond siediau o injanau a chynlluniau o bob maint a siâp o raddfa ‘00’  i’r meintiau poblogaidd  ‘32’mm.

Roedd rheilffyrdd cul yn sylfaenol ar gyfer gweithredu’r chwareli, ac mae casgliadau’r amgueddfa’n cynnwys yr injan stem UNA - injan stêm chwarel a fydd yn stêm eto eleni i fyny ac i lawr yr iard amgueddfa. Mae peiriannau eraill yn cael eu harddangos hefyd er enghraifft Dorothea, model wrth raddfa 'pot coffi' o’r math a adeiladwyd gan De Winton yng Nghaernarfon tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hefyd mae’r Brush Battery Locomotive, sy’n dyddio ‘nol i’r Rhyfel Mawr i’w gweld.  Fe’i adeiladwyd ym 1917 ac fe’i defnyddiwyd mewn ffatri nwy mwstard. Credir mai dim ond tri ohonynt a gynhyrchwyd erioed. Gweithiodd yn Chwareli Votty a Bowydd ym Mlaenau Ffestiniog, a chwarel Wincilate yn Aberllefenni, ond daeth ei fywyd gwaith i ben ym 1983. Cyflwynwyd y Brush Battery Locomotive yn rhodd i’r amgueddfa  a bu’n rhaid gweithio’n galed i adfer y locomotif.

“Mae’r Sioe Trenau Bach wedi tyfu’n arw ac wedi dod yn elfen boblogaidd iawn yng nghalendr digwyddiadau gogledd Cymru,’ meddai Julie Williams, swyddog Marchnata yr amgueddfa. “ Rydym yn edrych ymlaen ati bob blwyddyn. Dyma 3 diwrnod llawn dop o hwyl i'r teulu oll ar gyfer yr hanner tymor a gyda Mynediad am ddim, mae'n gyfle i beidio â cholli!”

Yn ol eto eleni ar ôl llwyddiant y llynedd fydd y ‘trac prawf’ sy’n rhoi siawns i blant roi cynnig ar yrru’r

peiriannau neu gallant ddod â’u hinjanau lled 00 eu hunain yma.  Hefyd - i ddathlu'r ffaith mai 2017 yw'r flwyddyn chwedlau - bydd yr awdur lleol Tony Roberts yn cynnal sesiynau adrodd straeon o’i lyfr newydd poblogaidd ALFIE AND THE DRAGON ar ddydd Iau a dydd Gwener 23 a 24 o Chwefror. Bydd Rheilffordd Llyn Padarn ar agor drwy gydol yr wythnos Hanner Tymor, a bydd cyfle i chi deithio ar y trên ar hyd glannau Llyn Padarn (codir tâl ychwanegol).  Bydd y digwyddiad hwn felly wrth fodd y rhai sy’n caru trenau a bydd yn ddiwrnod gwerth chweil i’r teulu cyfan!

Bydd y Sioe Rheilffyrdd Model ar agor rhwng 10am a 4pm o Chwefror  22 - 24 2017. Mae mynediad am ddim.

Mae’r digwyddiad yma wedi cael ei wneud yn bosib diolch i gefnogaeth hael chwaraewyr y People’s Postcode Lottery ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth. 

Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r amgueddfa ar  02920 573700.