Datganiadau i'r Wasg

Gŵyl newydd i ddysgwyr yn safleoedd Amgueddfa Cymru

Bydd cyfle i ddysgwyr y Gymraeg fwynhau siarad yr iaith mewn gŵyl genedlaethol newydd, diolch i bartneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol.

Cynhelir yr ŵyl undydd o’r enw ‘Ar Lafar’ ar 22 Ebrill mewn tri o safleoedd yr Amgueddfa - Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis - ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Bwriad yr ŵyl rad-ac-am-ddim yw rhoi cyfle i ddysgwyr a’u teuluoedd gymdeithasu a defnyddio’u Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog a chroesawgar, gan fwynhau’r trysorau cenedlaethol sydd i’w gweld gan yr Amgueddfa a’r Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd gwahanol weithgareddau ar gael ymhob safle, o deithiau tu ôl i’r llenni i gwisiau, arddangosfeydd pobi, perfformiadau theatrig, gweithdai crefft, cyflwyniadau ffilm, sesiynau dysgu trwy ganu a hyd yn oed helfeydd wyau Pasg.  Bydd sesiynau blasu ar gael i ymwelwyr sydd eisiau dysgu ychydig o’r iaith.

Mae’r Ganolfan wedi paratoi gwers am yr amgueddfeydd i’w chyflwyno mewn dosbarthiadau dysgu Cymraeg lefel Uwch yn ystod y cyfnod yn arwain at y digwyddiad.  Mae’r Ganolfan hefyd yn gweithio gyda’r Amgueddfa i greu adnoddau addysgiadol ar gyfer dysgwyr. 

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Rydym yn falch iawn o fedru sefydlu partneriaeth newydd gyda’r Amgueddfa a’r Llyfrgell.

“Mae’n bwysig tu hwnt wrth ddysgu’r Gymraeg i roi cyfleoedd i bobl ymarfer siarad yr iaith mewn awyrgylch anffurfiol y tu allan i’r dosbarth. Rydym hefyd yn gwybod bod nifer fawr o bobl yn dysgu’r iaith oherwydd ymdeimlad o hunaniaeth neu wreiddiau. 

“Mae’r ŵyl hon yn pontio’r elfennau hynny i’r dim – creu cyfleoedd i bobl ymarfer yr iaith a dysgu mwy am hanes cyfoethog Cymru ar yr un pryd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru, Nia Williams:

“Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o’r ŵyl genedlaethol newydd hon.

“Sain Ffagan oedd un o'r sefydliadau cyntaf yng Nghymru i weithio trwy’r Gymraeg ac felly mae’n gwbl addas ein bod yn lawnsio a chynnal yr ŵyl newydd hon yma.

“Mae Amgueddfa Cymru yn llwyfan i dreftadaeth ein gwlad ac yn gefnlen gwych i bobl o bob oed ddysgu’r Gymraeg a thrwy hynny ddysgu am ddiwylliant Cymru. Mae croeso cynnes i ddysgwyr ddod i ymweld â phob un o’n hamgueddfeydd.”

Meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Pleser mawr yw cael croesawu’r ŵyl Ar Lafar i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae hon yn bartneriaeth newydd a chyffrous a fydd yn rhoi hwb i’r iaith Gymraeg drwy gynnig cyfleoedd anffurfiol i bobl sgwrsio yn y Gymraeg, a thrwy ddefnyddio ein diwylliant a threftadaeth gyfoethog fel modd o ysgogi diddordeb yn yr iaith.

“Fel sefydliad, rydym bob amser yn awyddus i annog a chefnogi siaradwyr Cymraeg, boed yn rhugl neu’n ddysgwyr, a mawr obeithiwn y bydd digwyddiadau fel hwn yn rhoi’r hyder i ddysgwyr defnyddio’r iaith Gymraeg yn gyfforddus mewn mannau cyhoeddus fel y Llyfrgell, beth bynnag bo’u gallu."

Diwedd