Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa fawr o waith Gillian Ayres yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae tirwedd ddramatig gogledd Cymru wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid ers canrifoedd ac mae’n rhan allweddol o brofiad Gillian Ayres o Gymru. Mae Ayres yn un o artistiaid haniaethol pwysicaf Prydain wedi’r rhyfel, ac mae arddangosfa fwyaf erioed o waith Ayres yn y DU, sy’n dathlu ei gwaith beiddgar a lliwgar, i’w gweld o 8 Ebrill tan 3 Medi 2017 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd .

Mae’r arddangosfa yng Nghaerdydd yn cyflwyno dros 40 o weithiau a wnaed rhwng dechrau’r 1950au a'r 1980au, gan roi golwg arbennig ar ddylanwad Cymru ar waith Ayres.

O’r 1950au ymlaen, roedd Ayres yn ymwelydd rheolaidd â Chymru, gan aros ym mwthyn ei chwaer yng Nghorris, ger Cader Idris. Cafodd y dirwedd effaith fawr ar ei phaentiadau. Wrth ddisgrifio’r cyfnod hwn, dywedodd Ayres iddi ddechrau ‘gweld y byd fel paentio [...] Pan aech chi i fyny mynydd byddai’r cymylau yma’n dod i mewn. Roedd rhywun wir yn dechrau gweld popeth mewn paent’. Cryfhaodd ei chysylltiad â Chymru pan aeth i fyw a gweithio ym mhentref Llaniestyn yn Llŷn rhwng 1981 a 1987.

Dyma un o’r cyfnodau mwyaf toreithiog yng ngyrfa Ayres a bydd modd i ymwelwyr â’r arddangosfa weld cynfasau mawr o’r cyfnod, wedi’u paentio’n drwchus mewn lliwiau llachar. Byddai’n tylino arwyneb y paent yn ystumiau a phatrymau wrth ddefnyddio brwsh, ei bysedd, a gwasgu paent yn uniongyrchol o’r tiwb.

Mae’r arddangosfa hon yn mynd ag ymwelwyr ar daith gronolegol am yn ôl, gan ddechrau gyda gwaith a wnaed pan oedd Ayres yn byw ac yn gweithio yng ngogledd Cymru yn y 1980au, trwy gyfnod o newid arddull yn y 1960au a’r 70au, cyn gorffen gyda’i gweithiau haniaethol arloesol o’r 1950au.

Ganwyd Ayres yn Llundain ym 1930, a bu’n astudio yng Ngholeg Celf Camberwell rhwng 1945 a 1950. Wedi gweithio yn Llundain, symudodd i Gymru ac yna i Gernyw, lle mae’n byw ar hyn o bryd. Cafodd ei hethol yn Aelod o’r Academi Frenhinol ym 1991, cafodd OBE ym 1986 a CBE yn 2011.

Dathlodd Ayres ei phen-blwydd yn 87 ym mis Chwefror, ac mae’n parhau i dorri ei chŵys ei hun heb boeni am ffasiwn na barn. Mae’r gwaith paratoi ar gyfer yr arddangosfa hon wedi datgelu llawer o ddeunydd, gan gynnwys paentiad o ddechrau’r 1970au sy’n dwyn i gof baentiadau lili Claude Monet, archif o weithiau paratoadol, yn ogystal â ffotograffau heb eu cyhoeddi.

Trwy gydol ei gyrfa mae Ayres wedi ymroi i waith haniaethol, a hyd heddiw mae hi’n dal i roi gwedd newydd ar y gwaith hwnnw o’i chartref a’i stiwdio yn Nyfnaint.

Dywedodd Melissa Munro, Curadur yr arddangosfa: “Ers y 1950au, mae Gillian Ayres wedi bod yn un o arloeswyr paentio haniaethol ym Mhrydain, ac mae’n bleser cael cynnal arddangosfa o’i gwaith yn yr amgueddfa.

“Mae tirwedd ddramatig gogledd Cymru wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid ers canrifoedd ac mae’n rhan allweddol o brofiad Ayres o Gymru.

“Y cynfasau mawr, a’u gwead trwm a’u bwrlwm, o ‘gyfnod Cymreig’ y 1980au yw ei darluniau mwyaf adnabyddus a mwyaf llwyddiannus ym marn y beirniaid, ac mae’n wych cael arddangos cynifer ohonynt gyda’i gilydd.

“Bydd y paentiadau yn atyniad i bobl o bob oed, ond bydd y gofod lliwgar yn apelio’n benodol at bobl ifanc. Rydym wedi trefnu rhaglen o ddigwyddiadau hwyliog a chreadigol i deuluoedd gyda phlant ifanc, ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddant yn mwynhau creu lliwiau a siapiau yn yr oriel liwgar.”

Bydd y rhaglen arbennig o ddigwyddiadau i deuluoedd a phobl ifanc yn cynnwys gweithdai celf o bob math i blant o bob oed – bydd cyfle i baentio lliwiau a siapiau, a chreu darn o gelf i fynd adref.

Elfen gref arall o’r arddangosfa hon fydd dehongli i deuluoedd gyda phlant dan 5 oed, gyda llwybrau lliwgar i arwain plant drwy’r orielau, gweithgareddau hwyliog, bocsys synhwyraidd, ardal wisg ffansi a llawer mwy. Mae rhai o’r paentiadau wedi’u dehongli gyda labeli i blant sy’n helpu i ddatblygu sgiliau archwilio a meddwl am gelf, ac yn annog teuluoedd i drafod y gweithiau.

Cefnogir Gillian Ayres gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston gyda chymorth ychwanegol gan Oriel Alan Cristea, Simon Beaugie Picture Frames, a Grant Ymchwil Curadurol Jonathan Ruffer gan y Gronfa Gelf.

Bydd yr arddangosfa hon ar agor o 10am bob dydd (ar gau ar ddydd Llun heblaw Gwyliau Banc), gyda’r mynediad olaf i’r oriel am 4pm.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.