Datganiadau i'r Wasg

YR ARTIST RAGNAR KJARTANSSON YN AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD GYDA PHERFFORMIAD NEWYDD

Yr Awyr mewn Ystafell gan Ragnar Kjartansson

3 Chwefror – 11 Mawrth

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Derek Williams ac Art Fund

Bydd yr artist o Wlad yr Iâ, Ragnar Kjartansson, yn cyflwyno darn perfformiad newydd sbon, The Sky in a Room, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerydd o 3 Chwefror i 11 Mawrth. Mae’r darn, sydd wedi’i gomisiynu ar y cyd gan Artes Mundi ac Amgueddfa Cymru, yn gweld organyddion yn cymryd eu tro i berfformio’r gân adnabyddus o 1959, “Il Cielo In Una Stanza” (Yr Awyr mewn Ystafell) ar organ 1774 Syr Watkins Williams Wynn.

 

Yn 2015, ar ôl cymryd rhan yn arddangosfa Artes Mundi 6, enillodd yr artist o Wlad yr Iâ, Ragnar Kjartansson, wobr Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams, sy’n galluogi Amgueddfa Cymru i brynu darnau o waith celf gan artistiaid sydd wedi cyrraedd rhestr fer Artes Mundi.

 

Roedd modd prynu’r gwaith diolch i gymorth hael Ymddiriedolaeth Derek Williams a’r Art Fund, a bydd y gwaith yn dod yn rhan o gasgliad celf gyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd sy’n cynnwys darnau o waith gan Rodin, Bridget Riley, Monet a Lucien Freud. Dyma’r tro cyntaf i ddarn o waith gan Ragnar Kjartansson gael ei gomisiynu ar gyfer casgliad cyhoeddus yn y DU.

 

Bydd y comisiwn newydd cyffrous hwn yn uno dulliau celf hanesyddol a chyfoes mewn gofod lle mae’r ymwelydd yn tystio i amgylchedd breuddwydiol, swrrealaidd a doniol ar adegau, sy’n nodweddiadol o waith Kjartansson. Mae’r perfformiad yn defnyddio organ 1774 Syr Watkin Williams Wynn, sy’n rhan bwysig o Oriel Gelf Brydeinig y Ddeunawfed Ganrif Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fel rhan o’r perfformiad, bydd pob un o baentiadau’r oriel yn cael eu tynnu i lawr er mwyn dangos y ffabrig mur gwyrddlas â phatrwm addurnedig, gan amlygu’r organ a’r perfformiwr. 

 

Cafodd yr organ ei hadeiladu ym 1774 ar gyfer cartref Syr Watkin Williams Wynn yn Sgwâr Sant Iago, Llundain. Mae Williams Wynn yn enwog fel noddwr mwyaf hael y celfyddydau yn hanes Cymru. Tua diwedd y 1760au, teithiodd i Ewrop er mwyn casglu paentiadau’r meistri a chomisiynu darnau o waith gan bobl fel Syr Joshua Reynolds, Llywydd cyntaf yr Academi Frenhinol, gan alluogi dwsinau o benseiri, arlunwyr a cherddorion i greu gwaith o’r radd flaenaf. 

 

Mae’r perfformiad yn seiliedig ar gân boblogaidd o’r Eidal o’r enw “Il Cielo In Una Stanza” (Yr Awyr mewn Ystafell), a gyfansoddwyd gan un o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd yr Eidal, Gino Paoli. Recordiwyd y gân yn wreiddiol gan Mina - cantores hynod boblogaidd yn yr Eidal. Am bum awr y dydd dros gyfnod o bum wythnos, bydd nifer o organyddion yn cymryd eu tro i berfformio’r gân. Disgrifiwyd y gân gan y cyfansoddwr yn wreiddiol fel cred y gallai cariad oresgyn unrhyw rwystr neu ffin, unrhyw bryd.

 

Mae’r gân wedi ymddangos mewn ffilmiau clasurol gydol yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys  “Girl With A Suitcase” (1960) a “Goodfellas” (1990) gan Martin Scorsese, ac mae fersiynau Eidaleg, Saesneg a Ffrangeg o’r gân wedi’u recordio, gan gynnwys fersiwn gan Carla Bruni.

 

Dywedodd Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gyfoes, Amgueddfa Cymru:The Sky in a Room fydd y gwaith perfformio cyntaf i gael ei ychwanegu at gasgliad parhaol yr Amgueddfa, ac mae’n ychwanegiad arall at ein casgliad o gelf gyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch iawn o fod yn berchen ar y gwaith gwych hwn gan Ragnar Kjartansson, un o artistiaid perfformio gorau’r byd.”

 

Meddai Ragnar Kjartansson: Lleolir “Yr Awyr mewn Ystafell” mewn ystafell las sy’n arddangos paentiadau Prydeinig o’r ddeunawfed ganrif. Rwy’n awyddus i greu darn yn ymwneud â gofod, gan weddnewid y gofod yn yr ystafell hardd honno. Mae’r gofod unig hwn, sy’n llawn gwaith celf godidog fel arfer, bellach yn gwbl wag. Wedyn bydd y gân "Il Cielo in una Stanza" yn cael ei pherfformio’n gyson ar yr organ hynafol. Mae pawb yn yr Eidal yn gyfarwydd â’r gân, sy’n debyg iawn i anthem genedlaethol cariad yr Eidal. Bydd yn awdl i weddnewid gofod yr ystafell las fawreddog â’r organ.”

 

Mae Kjartansson yn enwog am greu fideos a pherfformiadau cyfnod benodol sy’n rhoi lle canolog i gerddoriaeth ac ailadrodd, gan greu awyrgylch lled hypnotig, a bydd yr elfennau hyn yn amlwg yn y perfformiad o “Yr Awyr mewn Ystafell”.

 

Meddai Cyfarwyddwr a Churadur Artes Mundi, Karen MacKinnon: “Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle cyffrous hwn i ymestyn gwaddol Artes Mundi a sbarduno “porth i gelf ryngwladol” yma yng Nghymru. Mae’n brofiad braf iawn gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru i ddod ag artist Artes Mundi yn ôl i Gymru a datblygu gwaith comisiwn ar safle penodol sy’n bwysig iawn i’r gymuned hon, y lle hwn, a’r adeilad hwn”.

 

Yr Awyr mewn Ystafell gan Ragnar Kjartansson

3 Chwefror – 11 Mawrth

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP

 

 

Ymholiadau’r wasg:

Lleucu Cooke, Swyddfa’r Wasg, Amgueddfa Cymru

029 2057 3175

Lleucu.Cooke@amgueddfacymru.ac.uk

 

 

Oriau Agor: Dydd Mawrth tan Ddydd Sul rhwng 10:30am a 16:30pm (perfformiad cyson)

www.artesmundi.org https://amgueddfa.cymru/caerdydd/

 

Arianwyr: Ymddiriedolaeth Derek Williams, Art Fund

 

Curaduron: Melissa Hinkin, Swyddog Arddangosfeydd Artes Mundi; Nicholas Thornton, Curadur, Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

 

#theskyinaroom

 

Gwybodaeth am Ragnar Kjartansson:

Ganwyd Kjartansson yn Reykjavík, Gwlad yr Iâ, ym 1976, ac mae’n parhau i fyw a gweithio yno. Mae holl elfennau celf - ffilm, cerddoriaeth, theatr, diwylliant gweledol a llenyddiaeth yn cael eu cynnwys yn ei osodiadau fideo, ei berfformiadau cyfnod penodol, ei luniadau a’i baentiadau. Mae perfformio, actio a llwyfannu yn dod yn elfennau allweddol o ymdrech yr artist i gyfleu emosiwn diffuant a chynnig profiad dilys i’r gynulleidfa. Mae ailadrodd yn rhan allweddol arall o’i waith; gall perfformiadau cydweithredol bara oriau, dyddiau, wythnosau neu fisoedd. Cafodd gwaith Kjartansson, ‘The Visitors’ ei arddangos yn Artes Mundi 6, ac enillodd Wobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams 2015.

 

Yn ôl Massimiliano Gioni, un o brif guraduron y byd ac un o awduron catalog Artes Mundi 6:Mae cerddoriaeth,gwaith coreograffi a gosodiadau gwaith Ragnar yn cyfuno i greu ensembles symffonig â mawredd theatraidd gwaith celf cyflawn a rhwysg rhithiol cynhyrchiad myfyrwyr, yn debyg i’r hyn a berfformiodd Wagner mewn theatr fach daleithiol – cyfnos y duwiau wedi’i lwyfannu yn yr Ysgol Sul.”

 

Gwybodaeth am Artes Mundi:

Sefydliad celf rhyngwladol a leolir yng Nghaerdydd yw Artes Mundi. Sefydlwyd Artes Mundi yn 2002, ac mae wedi ymrwymo i gefnogi artistiaid gweledol arloesol, rhyngwladol, cyfoes y mae eu gwaith yn ymgysylltu â realiti cymdeithasol a phrofiad byw. Cynhelir arddangosfa a gwobr Artes Mundi bob dwy flynedd, ac mae’n cynnwys rhaglen gyson o brosiectau allgymorth a dysgu ochr yn ochr â’r arddangosfa gyhoeddus a’r gwobrau. Enillydd Gwobr Artes Mundi 7 yn 2017 oedd John Akomfrah. Dyma’r enillwyr blaenorol: Theaster Gates (2015), Teresa Margolles (2013), Yael Bartana (2010), N S Harsha (2008), Eija-Liisa Ahtila (2006), a Xu Bing (2004). Mae Artes Mundi yn derbyn cyllid cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd. Mae arianwyr eraill yn cynnwys Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Ymddiriedolaeth Myristica a Sefydliad Waterloo.

 

Gwybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:

Lleolir Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol canolfan ddinesig ysblennydd Caerdydd, ac mae’n gartref i gasgliad celf cenedlaethol Cymru. Mae’n cynnwys ystod 500 mlynedd o baentiadau, darluniau, cerfluniau, arian a serameg o Gymru a’r byd, gan gynnwys un o gasgliadau gorau Ewrop o weithiau celf yr Argraffiadwyr gan Monet, Cézanne, Manet, Renoir, Van Gogh a Rodin.