Datganiadau i'r Wasg

Tîm y Comisiynydd i ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru

Ym mis Mawrth bydd aelodau o dîm Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru i wrando ar henoed yr ardal. 

Gall unrhyw un alw draw i leisio’u barn, dysgu am rôl y Comisiynydd a sut i gysylltu os fyddan nhw angen cymorth.

Mae’r ymweliad yn rhan o’r Sioe Deithiol Ymgysylltu a gyfarfu â 4,000 a mwy o bobl mewn 160 o ddigwyddiadau ledled Cymru y llynedd.

Dywedodd Kate Hughes, Rheolwr Cyfathrebu a Chysylltu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar i ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru a siarad wyneb yn wyneb â phobl hŷn am y materion sy’n effeithio arnyn nhw.”.

Bydd aelodau Tîm Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn Dre-fach Felindre o 11am ar ddydd Mercher 14 Mawrth.

Os hoffech chi i’r Comisiynydd, neu aelod o’i thîm, i ymweld ag unrhyw grŵp neu sefydliad rydych chi’n ymwneud ag ef i drafod ei rôl, ei chylch gwaith ac unrhyw faterion sy’n berthnasol i chi, cysylltwch â post@olderpeoplewales.com neu ffoniwch (029) 2044 5030.