Datganiadau i'r Wasg

DROS Y PAS - TAITH FFOTOGRAFFIC O LLANRWST I LLANBERIS

Mae nifer ohonom yn teithio i’r gwaith ar hyd yr un ffordd bob dydd, ond faint ohonom sy’n sylwi ar yr ardaloedd yr awn trwyddynt? A sawl un ohonom fyddai’n meddwl cofnodi’r daith honno?

Dyna’n union sydd i’w weld mewn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Mae DROS Y PAS yn gofnod o daith a wnaed tua 6,000 o weithiau dros gyfnod o 20 mlynedd gan un o gyn-staff yr Amgueddfa – o Lanrwst yn Nyffryn Conwy i Lanberis ar odre’r Wyddfa.

Cafodd y ffotograffau eu tynnu rhwng Gorffennaf 1989 a mis Medi 2009 gan O. Tudur Jones, cyn swyddog arddangosfeydd Amgueddfa Lechi Cymru, ac maent yn dogfennu’r daith o gartref Tudur bob bore – dros Bont y Pair ar y B5106 i Betws-y-coed, ar hyd yr A5 i Gapel Curig a dros y bwlch i Lanberis. Mae lluniau o’r daith yn ôl hefyd, yn dilyn yr un ffordd oni bai fod glaw neu eira yn gorfodi Tudur i fynd ar hyd yr A470.

“Ystyriwn fy hun yn berson lwcus o gael cyflawni taith dyddiol o harddwch naturiol fel hyn. Byddwn ambell dro yn cyrraedd lleoliad yn annisgwyl, a gweld fy hunan mewn goleuni syfrdanol. Fe’m syfrdanwyd droeon wrth sylwi fod pob dydd yn wahanol ar y daith a fyddwn i byth yn blino ar weld y prydferthwch bendigedig. Rhaid cyfaddef mai tasg anodd oedd gorfod canolbwyntio ar ddiwrnod o waith ar ôl profi bendithion fel hyn. Mi roedd yna hefyd ochr arall i’r daith nad oeddwn yn rhy hoff ohoni, a hynny pan ddeuai’r nosweithiau hydrefol, a’r curlaw a’r gwyntoedd yn beichio wylo arnaf ar fy nhaith yn ôl i Lanrwst wedi diwrnod hir.”

Mae’r rhan fwyaf o’r lluniau wedi’u tynnu ar gamera ffilm Canon bychan Tudur - cyn dyddiau’r camera digidol. Mae’r lluniau heb eu ffiltro, ac mae’r arddangosfa yn debyg mewn ffordd i gyfrifon Instagram y dyddiau hyn. Fel mae Julie Williams, Swyddog Marchnata Amgueddfa Lechi Cymru yn esbonio:

 “Yr hyn sy’n ddiddorol am gasgliad Tudur yw eu bod yn gofnod – nid yn unig o’i daith ef – ond o foment mewn amser, mewn ardal arbennig o hardd. Yr hyn sy’n eich taro yw cyn lleied sy’n newid – y ceir, a dillad pobl efallai, ond mae’r olygfa’r un peth, wastad yn odidog ac ysbrydoledig. Pa ryfedd bod ffotograffwyr yn gwirioni ar y lle, er eu bod heddiw yn gallu rhannu eu lluniau yn syth!”

 

Mae’r arddangosfa i’w gweld tan 22 Mehefin 2018. Mynediad am ddim.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Amgueddfa ar (029) 2057 3700. @amgueddfalechi