Datganiadau i'r Wasg
Gwobr Twristiaeth anrhydeddus i Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis
Dyddiad:
2018-04-20Mae Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis wedi ennill gwobr Nodwedd Daith Orau yn y DU.
Cafodd y wobr ei chyflwyno yn gynharach y mis yma mewn seremoni fawreddog yn Glasgow gan y cwmni teithiau bws o Iwerddon, CIE Tours International, sy'n dod ag ymwelwyr i'r Amgueddfa bob wythnos. Mae'r cwmni yn cydnabod safon gwestai ac atyniadau'r DU trwy roi Gwobr Rhagoriaeth i'r llefydd sy'n cael sgôr boddhad cwsmer o dros 90%.
Mae'r cwmni yn rhoi cydnabyddiaeth arbennig i'r darparwyr gorau mewn 11 categori, a daeth Amgueddfa Lechi Cymru i'r brig yn y categori Nodwedd Daith Orau, sy'n golygu ei bod wedi derbyn y sgôr uchaf gan y 15,000 o ymwelwyr ddaeth i'r DU gyda CIE yn 2017.
Lansiwyd y gwobrau hyn bum mlynedd yn ôl, i gyd-fynd â gwobrau'r cwmni yn Iwerddon. Ers hynny, mae nifer y lleoliadau a'r atyniadau yn y DU sy'n ennill sgôr o 90% neu uwch wedi cynyddu o 32 i 50. Yn 2017, daeth y cwmni â 15,000 o ymwelwyr i'r DU - cynnydd o 10%. Yn ystod y flwyddyn, ymwelodd eu teithiau â 100 o atyniadau a 60 o westai ledled y DU, gan dalu cyfanswm o £11 miliwn i'w darparwyr, gan gynnwys tua 150,000 noson mewn gwesty.
Dywedodd Elizabeth Crabill, Prif Weithredwr CIE Tours International: "Mae ein twf yn y DU yn wych, ac mae'r lefel boddhad uchel yn allweddol i hyn, felly mae'n braf cael cydnabod rhagoriaeth yn ein pumed seremoni wobrwyo. Mae pawb sydd wedi derbyn gwobr yn chwarae rôl bwysig yn croesawu ymwelwyr a sicrhau eu bod yn cael profiad cofiadwy. Disgwyliwn i'r galw am deithiau yn y DU dyfu yn sylweddol yn 2018, yn brawf o arwyddocâd ac apêl gynyddol treftadaeth a phrofiad cwsmer o safon."
"Mae'r cynnydd yn nifer y gwobrau yn adlewyrchu'r modd y mae darparwyr wedi mabwysiadau ein pwyslais ar safon a'r gwelliant cyffredinol mewn safonau. Mae hyn yn wych i'n cwsmeriaid ni ac i'r diwydiant yn gyffredinol. Mae ein hymwelwyr o Ogledd America yn disgwyl lefelau uchel iawn o wasanaeth ac mae sgôr o 90% gan ein hymwelwyr ni yn dipyn o gamp. Mae'r gwelliant mewn safonau mewn pum mlynedd yn rhyfeddol, ac yn profi fod ymdrechion pobl i sicrhau cynnydd yn talu ar ei ganfed."
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru: "Mae'n bleser derbyn y wobr, yn enwedig un sy'n dod gan ein hymwelwyr. Rydym wedi derbyn gwobrau teilyngdod am ein gwasanaeth cwsmer gan CIE o'r blaen, ond dyma'r tro cyntaf i ni ddod i'r brig, ac rydym yn falch iawn o hynny. Mae'r wobr yn brawf o ymroddiad ein staff i ddarparu ymweliadau o safon i grwpiau ac i’n holl ymwelwyr."
Mae'r amgueddfa ar agor bob dydd rhwng 10am - 5pm. Am rhagor o fanylion ewch i'r wefan yn www.amgueddfa.cymru neu cysylltwch â'r amgueddfa ar 02920 573707 llechi@amgueddfacymru.ac.uk. Mae mynediad i'r amgueddfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Codir tâl bach am rai o'r gweithgareddau.
Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Julie Williams 02920 573707 / julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk neu Ilya Scott, Real PR Ltd 07799 416476 ilya@real-pr.co.uk.
Capsiwn llun: Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru yn derbyn y wobr gan Elizabeth Crabill, Prif Weithredwr CIE Tours International
Nodiadau i olygyddion:
CIE tours ydi prif drefnydd blaenllaw teithiau mewnol yr Iwerddon, sydd wedi dod a dros dair miliwn o ymwelwyr o Ogledd America i deithio o amgylch Iwerddon ers sefydlu’r cwmni. Yn y blynyddoedd diweddar, mae CIE wedi ehangu ei gynnig i gynnwys yr Alban a gweddill y DU fel cyrchfan ymweld. Mae nifer o deithiau newydd yn cael eu cyflwyno yn 2018, gan gynnwys un yn cynnwys Ynysoedd Hebrides allanol a’r Gorllewin Gaeleg, ynghyd a thaith deuluol newydd yn y DU a thaith moethus yn yr Alban. www.cietours.com
Ennillwyr 2017
Gwesty Gorau |
Marriott Kensington Hotel |
|
Llety Gorau (Gwesty) |
Macdonald Holyrood Hotel |
|
Gwasanaeth Gorau mewn Gwesty |
Atholl Palace Hotel |
|
Gwobrau Rhagoriaeth Gwestai |
Norton House Hotel & Spa |
|
Carden Park Hotel |
|
|
Queen Hotel Chester |
|
|
Doubletree by Hilton Hotel, London Victoria |
|
|
Dalmahoy Hotel and Country Club |
|
|
|
||
Taith Gerdded Orau |
Windsor Tourist Guides Ltd |
|
Taith a’r nodwedd orau |
Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis National Slate Museum Llanberis |
|
Digwyddiad Orau |
The Royal Edinburgh Military Tattoo |
|
Profiad castell Orau |
Alnwick Castle |
|
Taith Loch orau |
Jacobite Cruise |
|
Atyniad Twristiaeth orau |
Windsor Castle |
|
Cinio & Adloniant Orau |
Welsh Banquet at Cardiff Castle |
|
Safle twristiaeth Orau |
Roman Baths |
|
Gwobrau Rhagoriaeth |
|
|
Skara Brae |
Sheepdog Trials - Gwyn Lightfoot |
Minack Theatre |
Cardiff Castle |
Alnwick Garden |
Urquhart Castle |
Hampton Court Palace |
Glamis Castle |
Blair Castle |
Stonehenge |
Bamburgh Castle |
Edinburgh Castle |
Tower of London |
Stirling Castle |
Castle Howard |
Eilean Donan Castle |
Dunrobin Castle |
St Paul's Cathedral |
Palace of Holyroodhouse |
Pembroke Castle |
Inveraray Castle |
York Minster |
Italian Chapel |
Lanhydrock House |
The Lovespoon Workshop |
Conwy Castle |
Dunvegan Castle |
Harlech Castle |
St Davids Cathedral |
Tintern Abbey |