Datganiadau i'r Wasg

Trysorau celfyddyd y Genedl yn dod i Ruthun

Heddiw, yn Rhuthun, bydd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, yn lawnsio partneriaeth arloesol newydd i sicrhau bod trysorau celfyddyd Cymru yn fwy hygyrch drwy'r wlad.

[Datganiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw hwn..]

Diolch i Bartneriaeth Celfyddydau Gweledol Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, bydd pobl Cymru benbaladr bellach yn cael y cyfle i weld, yn eu horiel leol, luniau ac eitemau eraill sy'n rhan o'r casgliadau cenedlaethol.

Dywedodd Y Gweinidog: "Dyma achlysur cyffrous a hanesyddol. Mae gan Gymru gyfoeth o drysorau cenedlaethol ond, hyd yma, byddai'n rhaid teithio i Gaerdydd i'w gweld.

"Drwy sefydlu rhwydwaith o orielau sy'n gallu arddangos gwaith o'r casgliadau cenedlaethol, mae'r Bartneriaeth Celfyddydau Gweledol yn sicrhau bod ein trysorau celf yn rhai cenedlaethol yng ngwir ystyr y gair. Mae hyn yn gam mawr ymlaen yn ein huchelgais i greu 'oriel genedlaethol heb furiau' ac rwy'n edrych ymlaen am weld llawer o arddangosfeydd cyffrous mewn orielau ar draws Cymru."

Mae Partneriaeth y Celfyddydau Gweledol yn cynnwys pum lleoliad, a'r rheiny wedi'u dewis yn ôl pellter eu safleoedd daearyddol y naill oddi wrth y llall a'u hamrywiaeth ddiwylliannol. Dyma'r pump: Canolfan Grefft Rhuthun, Oriel Mostyn yn Llandudno, Oriel Davies yn y Drenewydd, Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe a Chastell Bodelwyddan, ger Llanelwy.

£185,000 fydd cost y rhaglen, a daw £30,000 oddi wrth AOCC, £5,000 oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru a bydd y lleoliadau sydd yn rhan o'r bartneriaeth yn cyfrannu £30,000 rhyngddynt. Ceir y gweddill, sef £120,000, oddi wrth Waddol Esmee Fairbairn, sydd yn rhoi grantiau i sefydliadau sydd yn ceisio gwella ansawdd bywyd pobl a chymunedau ar draws y DU.

Mae Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wrth eu bodd fod cyllid gan Waddol Esm