Datganiadau i'r Wasg

Dippy ar Daith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fydd partner newydd Dippy on Tour yng Nghymru, taith ddwy flynedd cast Diplodocus eiconig yr Amgueddfa Hanes Natur. Ar ei daith drwy’r DU bydd Dippy yn ymweld â Chymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a phum rhanbarth yn Lloegr

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn cydweithio â’r Senedd ers 2016 i ddod â Dippy i Gymru. Y Senedd oedd y lleoliad gwreiddiol yng Nghaerdydd, ond yn dilyn trafodaethau ar y cyd â’r Amgueddfa Hanes Natur cytunwyd taw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw cartref priodol Dippy ar y daith i Gymru. Bydd Dippy yng Nghaerdydd ar y dyddiadau a drefnwyd yn wreiddiol, gyda Dippy on Tour yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng Hydref 19, 2019 tan Ionawr 26, 2020.

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd yn rhoi cartref i Dippy ac yn edrych ymlaen i’w groesawu i Gymru. Bydd ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cael cyfle i ryfeddu ar Dippy a chyfarfod ei gefndryd yn ein horielau hanes natur, wrth ddilyn taith o ddechrau amser hyd heddiw. Wrth ddysgu sut esblygodd Cymru byddan nhw’n dod wyneb yn wyneb â deinosoriaid ac anifeiliaid rhyfeddol eraill.

 

Dywedodd Llywydd y Senedd, yr Aelod Cynulliad Elin Jones: “Mae’r Comisiwn yn llwyr gefnogol i symud Dippy i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd rhoi cartref iddo yn yr amgueddfa yn rhoi cyfle i ymwelwyr o bob oed i ddysgu sut esblygodd tir a bywyd Cymru pan oedd Dippy’n crwydro’r ddaear. Rwy’n edrych ymlaen i’w weld yn ei holl ogoniant."

   

Mae Dippy ar hyn o bryd yn byw yn Amgueddfa Sirol Dorset lle mae wedi croesawu 125,000 o ymwelwyr yn barod, ymhell dros y disgwyl. Mae pob un o bartneriaid y daith yn defnyddio Dippy i dynnu sylw at eu casgliadau natur a hanes natur lleol, gan feithrin perthynas newydd rhwng sefydliadau diwylliannol, gwyddonol a bywyd gwyllt rhanbarthol. Mae Ymddiriedolaeth yr Arfordir Jwrasig yn cyd-lwyfannu’r fenter yn Dorset, lle mae wedi cynorthwyo dros 15,000 o bobl i fentro i’r awyr agored a mwynhau anturiaethau hanes natur.

 

Dywedodd Katrina Nilsson, Pennaeth Rhaglenni, Arddangosfeydd, Addysg ac Allestyn Cenedlaethol yr Amgueddfa Hanes Natur: “Rydym yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a ddarparwyd gan y Senedd ac wrth ein boddau’n cydweithio ag Amgueddfa Cymru i roi llwyfan i Dippy yng Nghaerdydd. Roeddem am wneud yn siŵr y gallem rannu Dippy â phob cenedl, ac rydym wedi cyffroi o feddwl y bydd Dippy yng Nghymru y flwyddyn nesaf, lle canfuwyd cefnder i’r Tyrannosaurus rex dair blynedd yn ôl – y deinosor cigysol cyntaf erioed i’w ganfod yn y wlad.”


Bydd Dippy yng Nghaerdydd ar y dyddiadau a drefnwyd yn wreiddiol, gyda Dippy on Tour yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng Hydref 19, 2019 tan Ionawr 26, 2020.

Mae ymwelwyr wedi dwlu ar Dippy ers cyrraedd Llundain ym 1905, a dyma’r tro cyntaf iddo adael yr Amgueddfa Hanes Natur. Mae’r sgerbwd llawn yn 21.3 metr o hyd, 4.3 metr o led a 4.17 metr o uchder. 

 

Mae’r eicon Prydeinig ar dân i ysbrydoli pum miliwn antur hanes natur, gan annog teuluoedd ac ysgolion i ddysgu mwy am fyd natur eu milltir sgwâr.


Cynhelir Dippy on Tour gan yr Amgueddfa Hanes Natur, ar y cyd â Sefydliad Garfield Weston gyda chefnogaeth Dell EMC a Williams & Hill, gan weithio gyda phartneriaid ar draws y DU i fynd ag un o’i atyniadau eiconig ar daith dair mlynedd gyda’r nod o ysbrydoli 1.5 miliwn i ystyried hanes natur a’r byd o’n cwmpas.


Bydd y daith yn ymweld â’r lleoliadau canlynol yn eu tro:

  • Amgueddfa Sirol Dorset, 10 Chwefror - 7 Mai 2018
  • Amgueddfa ac Oriel Gelf Birmingham, 26 Mai - 9 Medi 2018
  • Amgueddfa Ulster, 28 Medi 2018 - 6 Ionawr 2019
  • Oriel Gelf ac Amgueddfa Kelvingrove, Glasgow, 22 Ionawr - 5 Mai 2019
  • Amgueddfa Fawr y Gogledd, Hancock, Newcastle upon Tyne, 18 Mai - 6 Hydref 2019
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 19 Hydref 2019 - 26 Ionawr 2020
  • Number One Riverside, Rochdale, 10 Chwefror - 28 Mehefin 2020
  • Eglwys Gadeiriol Norwich, 11 Gorffennaf - 31 Hydref 2020

 

Os ydych chi’n dwlu ar ddeinosoriaid ond yn methu ymweld, gallwch chi ddilyn Dippy ar daith drwy gadw llygad ar @DippyonTour ar Twitter a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yr Amgueddfa Hanes Natur a phartneriaid y daith, yn ogystal ag ymweld â gwefan nhm.ac.uk/dippyontour

#DippyonTour
#NaturalHistoryAdventures

Diwedd